Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/449

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

ym mhob gorchwyl Duw, a gorchwyl y brenin.

PENNOD 27

º1 PEDAIR mil ar hugain oedd pob dos-barthiad o feibion Israel dan eu rhif, yn bennau-cenedl, ac yn dywysogion miloedd a channoedd, a’u swyddogion yn gwasanaethu y brenin ym mhob achos o’r dosbarthiadau, yn dyfod i mewn, ac yn myned allan, o fis i fis, trwy holl fisoedd y flwyddyn.

º2 Ar y dosbarthiad cyntaf, dros y mis cyntaf, yr oedd Jasobeam mab Sabdiel; ac yn ei ddosbarthiad ef yr oedd pedair mil ar hugain.

º3 O feibion Peres yr oedd y pennaf o holl dywysogion y llu dros y mis cyntaf.

º4 Ac ar ddosbarthiad yr ail fis yr oedd Dodai yr Ahohiad, ac o’i ddosbarthiad ef yr oedd Micloth hefyd yn gapten; ac yn ei ddosbarthiad ef bedair mil ar hugain.

º5 Trydydd tywysog y llu dros y trydydd mis oedd Benaia mab Jehoiada yr offeiriad pennaf; ac yn ei ddosbarthiad ef bedair mil ar hugain.

º6 Y Benaia hwn oedd gadarn ymhlith y deg ar hugain, ac oddi ar y deg ar hugain; ac yn ei ddosbarthiad ef yr oedd Amisabad ei fab ef.

º7 Y pedwerydd dros y pedwerydd mis oedd Asahel brawd Joab, a Sebadeia ei fab ar ei ôl ef; ac yn ei ddosbarthiad ef bedair mil ar hugain.

º8 Y pumed dros y pumed mis oedd dywysog, Samhuth yr Israhiad; ac yn ei ddosbarthiad ef bedair mil ar hugain.

º9 Y chweched dros y chweched mis oedd Ira mab Icces y Tecoad; ac yn ei ddosbarthiad ef bedair mil ar hugain.

º10 Y seithfed dros y seithfed mis oedd Heles y Feloniad, o feibion Effraim; ac yn ei ddosbarthiad ef bedair mil ar hugain.

º11 Yr wythfed dros yr wythfed mis oedd Sibbechai yr Husathiad, o’r Sarhiaid; ac yn ei ddosbarthiad ef bedair mil ar hugain.

º12 Y nawfed dros y nawfed mis oedd Abieser yr Anathothiad, o’r Benjaminiaid; ac yn ei ddosbarthiad ef bedair mil ar hugain.

º13 Y degfed dros y degfed mis oedd Maharai y Netoffathiad, o’r Sarhiaid; ac yn ei ddosbarthiad ef bedair mil ar hugain.

º14 Yr unfed ar ddeg dros yr unfed mis ar ddeg oedd Benaia y Pirathoniad, o feibion Enraim; ac yn ei ddosbarthiad ef bedair mil ar hugain.

º15 Y deuddegfed dros y deuddegfed mis oedd Heldai y Netoffathiad, o Othniel; ac yn ei ddosbarthiad ef bedair mil ar hugain.

º16 Ac ar lwythau Israel: ar y Reuben¬iaid, Elieser mab Sichri oedd dywysog: ar y Simeoniaid, Seffatia mab Maacha:

º17 Ar y Lefiaid, Hasabeia mab Cemuel: ar yr Aaroniaid, Sadoc:

º18 Ar Jwda, Elihu, un o frodyr Dafydd: ar Issachar, Omri mab Michael:

º19 Ar Sabulon, Ismaia mab Obadeia: ar Nafftali, Jerimoth mab Asriel:

º20 Ar feibion Effraim, Hosea mab Asaseia: ar hanner llwyth Manasse, Joel mab Pedaia:

º21 Ar hanner llwyth Manasse yn Gilead, Ido mab Sechareia: ar Benjamin, Jaasiel mab Abner:

º22 Ar Dan, Asarel mab Jeroham. Dyma dywysogion llwythau Israel.

º23 Ond ni chymerth Dafydd eu rhifedi hwynt o fab ugain mlwydd ac isod; canys dywedasai yr ARGLWYDD yr amlhai efe Israel megis sêr y nefoedd.

º24 Joab mab Serfia a ddechreuodd gyfrif, ond ni orffennodd efe, am fod o achos hyn lidiowgrwydd yn erbyn Israel, ac nid aeth y cyfrif hwn ymysg cyfrifon cronicl y brenin Dafydd.

º25 Ac ar drysorau y brenin yr oedd Asmafeth mab Adiel: ac ar y trysordai yn y meysydd, yn y dinasoedd, yn y pentrefi befyd, ac yn y tyrau, yr oedd Jehonathan mab Usseia.

º26 Ac ar weithwyr y maes, y rbai oedd yn llafurio y ddaear, yr oedd Esri mab Celub.

º27 Ac ar y gwinllannoedd yr oedd Simei y Ramathiad: ac ar yr hyn oedd yn dyfod o’r gwinllannoedd i’r selerau gwin, yr oedd Sabdi y Siffmiad.

º28 Ac ar yr olewydd, a’r sycamorwydd, y rhai oedd yn y dyffrynnoedd, yr oedd Baalhanan y Gederiad: ac ar y selerau olew yr oedd Joas.

º29 Ac ar yr ychen pasgedig yn Saron, yr oedd Sitrai y Saroniad: