Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/450

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

ac ar yr ychen yn y dyffrynnoedd, yr oedd Saffat mab Adiai.

º30 Ac ar y camelod yr oedd Obil yr Ismaeliad: ac ar yr asynnod Jehdeia y Meronothiad.

º31 Ac ar y defaid yr oedd Jasis yr Hageriad. Y rhai hyn oll oedd dywys¬ogion y golud eiddo y brenin Dafydd.

º32 A Jehonathan ewythr Dafydd frawd ei dad oedd gynghorwr, gŵr doeth, ac ysgrifennydd: Jehiel hefyd roab Hach-mom oedd gyda meibion y brenin.

º33 Ac Ahitoffel oedd gynghorwr y brenin; a Husai yr Arciad oedd gyfaill y brenin.

º34 Ac ar ôl Ahitoffel yr oedd Jehoiada mab Benaia, ac Abiathar: a thywysog llu y brenin oedd Joab.

PENNOD 28

º1 A DAFYDD a gynullodd holl dywysogion Israel, tywysogion y llwyth¬au, a thywysogion y dosbarthiadau, y rhai oedd yn gwasanaethu’r brenin, tywysogion y miloedd hefyd, a thywys¬ogion y cannoedd, a thywysogion holl olud a meddiant y brenin, a’i feibion, gyda’r ystafellyddion, a’r cedyrn, a phob un grymusol o nerth, i Jerwsalem.

º2 A chyfododd Dafydd y brenin ar ei draed, ac a ddywedodd, Gwrandewch arnaf fi, fy mrodyr, a’m pobl; Myfi a feddyliais yn fy nghalon adeiladu tŷ gorffwysfa i arch cyfamod yr ARGLWYDD, ac i ystol draed ein Duw ni, a mi a baratoais tuag at adeiladu.

º3 Ond DUW a ddywedodd wrthyf, Nid adeiledi di dy i’m henw i, canys rhyfelwr fuost, a gwaed a dywelltaist.

º4 Er hynny ARGLWYDD DDUW Israel a’m hetholodd i o holl dy fy nhad, i fod yn frenin ar Israel yn dragywydd: canys Jwda a ddewisodd efe yn llywiawdwr; ac o dŷ Jwda, tŷ fy nhad i; ac o feibion fy nhad, efe a fynnai i mi deyrnasu ar holl Israel:

º5 Ac o’m holl feibion innau, (canys llawer o feibion a roddes yr ARGLWYDD i mi,) efe hefyd a ddewisodd Solomon fy mab, i eistedd ar orseddfa brenhiniaeth yr ARGLWYDD, ar Israel.

º6 Dywedodd hefyd wrthyf, Solomon dy fab, efe a adeilada fy nhŷ a’m cynteddau i; canys dewisais ef yn fab i mi, a minnau a fyddaf iddo ef yn dad.

º7 A’i frenhiniaeth ef a sicrhaf yn dragywydd, os efe a ymcgma i wneuthur fy ngorchmymon a’m barnedigaethau i, megis y dydd hwn.

º8 Yn awr gan hynny, yng ngŵydd holl Israel, cynulleidfa yr ARGLWYDD, a lle y clywo ein Duw ni, cedwch a cheisiwch holl orchmymon yr ARGLWYDD eich Duw, fel y meddiannoch y wlad dda hon, ac y gadawoch hi yn etifeddiaeth i’ch meibion ar eich ôl yn dragywydd.

º9 A thithau Solomon fy mab, adne-bydd DDUW dy dad, a gwasanaetha ef a chalon berffaith, ac a meddwl ewyllysgar: canys yr ARGLWYDD sydd yn Chwilio yr holl galonnau, ac yn deall pob dychymyg meddyliau. O cheisi ef, ti a’i cei; ond os gwrthodi ef, efe a’th fwrw di ymaith yn dragywydd.

º10 gwêl yn awr mai yr ARGLWYDD a’th ddewisodd di i adeiladu tŷ y cysegr? yrngryfha, a gwna.

º11 Yna y rhoddes Dafydd i Sblomon ei fab bortreiad y porth, a’i dai, a’i selerau, a’i gellau, a’i ystafelloedd oddi fewn, a thŷ y drugareddfa,

º12 A phortreiad yr hyn oll a oedd ganddo trwy yr ysbryd, am gynteddau tŷ yr ARGLWYDD, ac am yr holl ystafelloedd o amgylch, am drysorau tŷ DDUW, ac am drysorau y pethau cysegredig:

º13 Ac am ddosbarthiadau yr offeiriaid a’r Lefiaid, ac am holl waith gweinidogaeth tŷ yr ARGLWYDD, ac am holl lestri gwasanaeth tŷ yr ARGLWYDD.

º14 Efe a roddes o aur wrth bwys, i’r pethau o aur, tuag at holl lestri pob gwasanaeth, ac arian i’r holl lestri arian, mewn pwys, tuag at holl lestri pob math ar wasanaeth:

º15 Sef pwys y canwyllbrenni aur, a’u lampau aur, wrth bwys i bob canhwyll-bren ac i’w lampau: ac i’r canwyll-brennau arian wrth bwys, i’r canhwyll-bren ac i’w lampau, yn ôl gwasanaeth pob canhwyllbren.

º16 Aur hefyd dan bwys, tuag at fyrddau y bara gosod, i bob bwrdd; ac arian i’r byrddau arian;