Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/451

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

º17 Ac aur pur i’r cigweiniau, ac i’r phïolau, ac i’r dysglau, ac i’r gorflychau aur, wrth bwys pob gorflwch: ac i’r gorflychau arian wrth bwys pob gorflwch;

º18 Ac i allor yr arogl-darth, aur pur wrth bwys; ac aur i bortreiad cerbyd y cerubiaid oedd yn ymledu, ac yn gorchuddio arch cyfammod yr ARGLWYDD.

º19 Hyn oll, ebe Dafydd, a wnaeth yr ARGLWYDD i mi ei ddeall mewn ysgrifen, trwy ei law ef arnaf fi, sef holl waith y portreiad hwn.

º20 A dywedodd Dafydd wrth Solomon ei fab, Ymgryfhâ, ac ymegnïa, a gweithia; nac ofna, ac na arswyda: canys yr ARGLWYDD DDUW, fy Nuw i, fydd gyd â thi; nid ymedy efe â thi, ac ni’th wrthyd, nes gorphen holl waith gwasanaeth tŷ yr ARGLWYDD.

º21 Wele hefyd ddosparthiadau yr offeiriaid a’r Lefiaid, i holl wasanaeth tŷ DDUW, a chyd â thi y maent yn yr holl waith, a phob un ewyllysgar cywraint i bob gwasanaeth; y tywysogion hefyd a’r bobl oll fyddant wrth dy orchymyn yn gwbl.

PENNOD 29

º1 YNA y dywedodd Dafydd y brenhin wrth yr holl dyrfa, Duw a ddewisodd yn unig fy mab Solomon, ac y mae efe yn ieuanc, ac yn dyner, a’r gwaith sydd fawr; canys nid i ddyn y mae y llys, ond i’r ARGLWYDD DDUW.

º2 Ac â’m holl gryfder y parottoais i dŷ fy NUW, aur i’r gwaith aur, ac arian i’r arian, a phres i’r pres, a haiarn i’r haiarn, a choed i’r gwaith coed; meini onix, a meini gosod, meini carbunculus, ac o amryw liw, a phob maen gwerthfawr, a meini marmor yn aml.

º3 Ac etto am fod fy ewyllys tu a thŷ fy NUW, y mae gennyf o’m heiddo fy hun, aur ac arian, yr hwn a roddaf tu ag at dŷ fy NUW; heb law yr hyn oll a barottoais tu a’r tŷ sanctaidd:

º4 Tair mil o dalentau aur, o aur Ophir a saith mil o dalentau arian puredig, i oreuro parwydydd y tai:

º5 Yr aur i’r gwaith aur, a’r arian i’r arian; a thu ag at yr holl waith, trwy law y rhai celfydd. Pwy hefyd a ymrŷdd yn ewyllysgar i ymgyssegru heddyw i’r ARGLWYDD?

º6 Yna tywysogion y teuluoedd, a thywysogion llwythau Israel, a thywysogion y miloedd a’r cannoedd, a swyddogion gwaith y brenhin, a offrymmasant yn ewyllysgar,

º7 Ac a roddasant tu ag at wasanaeth tŷ DDUW, bùm mil o dalentau aur, a deng mil o sylltau, a deng mil o dalentau arian, a deunaw mil o dalentau pres, a chàn mil o dalentau haiarn.

º8 A chyd â’r hwn y ceid meini, hwy a’u rhoddasant i drysor tŷ yr ARGLWYDD, trwy law Jehiel y Gersoniad.

º9 A’r bobl a lawenhasant pan offrymment o’u gwirfodd; am eu bod â chalon berffaith yn ewyllysgar yn offrymmu i’r ARGLWYDD: a Dafydd y brenhin hefyd a lawenychodd â llawenydd mawr.

º10 Yna y bendithiodd Dafydd yr ARGLWYDD y'ngŵydd yr holl dyrfa, a dywedodd Dafydd, Bendigedig wyt ti, ARGLWYDD DDUW Israel, ein tad ni, o dragwyddoldeb hyd dragywyddoldeb.

º11 I ti, ARGLWYDD, y mae mawredd, a gallu, a gogoniant, a goruchafiaeth, a harddwch: canys y cwbl yn y nefoedd ac yn y ddaear sydd eiddot ti; y deyrnas sydd eiddot ti, ARGLWYDD, yr hwn hefyd a ymddyrchefaist yn ben ar bob peth.

º12 Cyfoeth hefyd ac anrhydedd a ddeuant oddi wrthyt ti, a thi sydd yn arglwyddiaethu ar bob peth, ac yn dy law di y mae nerth a chadernid; yn dy law di hefyd y mae mawrhâu, a nerthu pob dim.

º13 Ac yn awr, ein DUW ni, yr ydym ni yn dy foliannu, ac yn clodfori dy enw gogoneddus.

º14 Eithr pwy ydwyf fi, a phwy yw fy mhobl i, fel y caem ni rym i offrymmu yn ewyllysgar fel hyn? canys oddi wrthyt ti y mae pob peth, ac o’th law dy hun y rhoisom i ti.

º15 O herwydd dïeithriaid ydym ni ger dy fron di, ac alltudion fel ein holl dadauː fel cysgod yw ein dyddiau ni ar y ddaear, ac nid oes ymaros.

º16 O ARGLWYDD ein DUW, yr holl amlder hyn a barottoisom ni i adeiladu i ti dŷ i’th enw sanctaidd,