Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/466

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

GLWYDD DDUW Israel, fod ei roddi ef i farwolaeth, yn fychan ac yn fawr, yn ŵr ac yn wraig.

15:14 A hwy a dyngasant i’r ARGLWYDD â llef uchel, ac â bloedd, ag utgyrn hefyd, ac â thrwmpedau.

15:15 A holl Jwda a lawenychasant oherwydd y llw; canys a’u holl galon y tyngasent, ac â’u holl ewyllys y ceisiasant ef, a hwy a’i cawsant ef: a’r ARGLWYDD a roddodd lonyddwch iddynt o amgylch.

15:16 A’r brenin Asa a symudodd Maacha ei fam o fod yn frenhines; oherwydd gwneuthur ohoni ddelw mewn llwyn: ac Asa a donodd ei delw hi, ac a’i drylliodd, ac a’i llosgodd wrth afon Cidron.

15:17 Ond ni thynnwyd ymaith yr uchelfeydd o Israel: eto yr oedd calon Asa yn berffaith ei holl ddyddiau ef.

15:18 Ac efe a ddug i mewn i dŷ yr ARGLWYDD yr hyn a gysegrasai ei dad, a’r hyn a gysegrasai efe ei hun, arian, ac aur, a llestri.

15:19 Ac ni bu ryfel mwyach hyd y bymthegfed flwyddyn ar hugain o deyrnasiad Asa.

PENNOD 16 16:1 Yn yr unfed flwyddyn ar bymtheg ar hugain o deyrnasiad Asa, y daeth Baasa brenin Israel i fyny yn erbyn Jwda, ac a adeiladodd Rama, fel na adawai i neb fyned allan na dyfod i mewn at Asa brenin Jwda.

16:2 Yna Asa a ddug allan arian, ac aur, o drysorau tŷ yr ARGLWYDD, a thŷ y brenin, ac a’i hanfonodd at Benhadad brenin Syria, yr hwn oedd yn trigo yn Damascus, gan ddywedyd,

16:3 Cyfamod sydd rhyngof fi a thi, fel y bu rhwng fy nhad i a’th dad dithau: wele, anfonais atat arian, ac aur; dos, tor dy gyfamod â Baasa brenin Israel, fel y cilio efe oddi wrthyf fi.

16:4 A Benhadad a wrandawodd ar y brenin Asa, ac a anfonodd dywysogion ei luoedd yn.erbyn dinasoedd Israel, a hwy a drawsant Ijon, a Dan, ac Abel-maim, a holl drysor-ddinasoedd Nafftali.

16:5 A phan glybu Baasa hynny, efe a beidiodd ag adeiladu Rama, ac a adawodd ei waith i sefyll.

16:6 Yna Asa y brenin a gymerth holl Jwda, a hwy a gludasant ymaith gerrig Rama, a’i choed, a’r rhai yr adeiladai Baasa; ac a adeiladodd â hwynt Geba, a Mispa.

16:7 Y pryd hwnnw y daeth Hanani y gweledydd at Asa brenin Jwda, ac a ddywedodd wrtho, Gan i ti roi dy bwyd ar frenin Syria, ac na roddaist dy bwys ar yr ARGLWYDD dy DDUW, am hynny y dihangodd llu brenin Syria o’th law di.

16:8 Onid oedd yr Ethiopiaid a’r Lubiaid yn llu dirfawr, â cherbydau ac â gwŷr meirch yn aml iawn? ond am i ti roi dy bwys ar yr ARGLWYDD, efe a’u rhoddodd hwynt yn dy law di.

16:9 Canys y mae llygaid yr ARGLWYDD yn edrych ar yr holl ddaear, i’w ddangos ei hun yn gryf gyda’r rhai sydd a’u calon yn berffaith tuag ato ef. Ynfyd y gwnaethost yn hyn; am hynny rhyfeloedd fydd i’th erbyn o hyn allan.

16:10 Yna y digiodd Asa wrth y gweledydd, ac a’i rhoddodd ef mewn carchardy; canys yr oedd efe yn ddicllon wrtho am y peth hyn. Ac Asa a orthrymodd rai o’r bobl y pryd hwnnw.

16:11 Ac wele, gweithredoedd Asa, y rhai cyntaf a’r rhai diwethaf, wele, y maent yn ysgrifenedig yn llyfr brenhinoedd Jwda ac Israel.

16:12 Ac Asa a glafychodd o’i draed yn y bedwaredd flwyddyn ar bymtheg ar hugain o’i deyrnasiad, nes i’w glefyd fyned yn ddirfawr; eto ni cheisiodd efe yr ARGLWYDD yn ei glefyd, ond y meddygon.

16:13 Ac Asa a hunodd gyda’i dadau, ac a fu farw yn yr unfed flwyddyn a deugain o’i deyrnasiad.

16:14 A chladdasant ef yn ei feddrod ei hun, yr hwn a wnaethai efe iddo yn ninas Dafydd, a rhoddasant ef i orwedd mewn gwely a lanwasid â pheraroglau o amryw rywogaethau, wedi eu gwneuthur trwy waith apothecari; a hwy a gyneuasant iddo ef gynnau. mawr iawn.

PENNOD 17