Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/467

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

17:1 A Jehosaffat ei fab a deyrnasodd yn ei le ef, ac a ymgryfhaodd yn erbyn Israel.

17:2 Ac efe a roddodd fyddinoedd ym mhob un o gaerog ddinasoedd Jwda, ac a roddes raglawiaid yng ngwlad Jwda, ac yn ninasoedd Effraim, y rhai a enillasai Asa ei dad ef.

17:3 A’r ARGLWYDD a fu gyda Jehosaffat, oherwydd iddo rodio yn ffyrdd cyntaf Dafydd ei dad, ac nad ymofynnodd a Baalim:

17:4 Eithr Duw ei dad a geisiodd efe, ac yn ei orchmynion ef y rhodiodd, ac nid yn ôl gweithredoedd Israel.

17:5 Am hynny yr ARGLWYDD a sicrhaodd y frenhiniaeth yn ei law ef; a holl Jwda a roddasant anrhegion i Jehosaffat; ac yr ydoedd iddo olud ac anrhydedd yn helaeth.

17:6 Ac efe a ddyrchafodd ei galon yn ffyrdd yr ARGLWYDD: ac efe a fwriodd hefyd yr uchelfeydd a’r llwyni allan o Jwda.

17:7 Hefyd yn y drydedd flwyddyn o’i deyrnasiad, efe a anfonodd at ei dywysogion, sef Benhail, ac Obadeia, a Sechareia, a Nethaneel, a Michaia, i ddysgu yn ninasoedd Jwda.

17:8 A chyda hwynt yr anfonodd efe Lefiaid, Semaia, a Nethaneia, a Sebadeia, ac Asahel, a Semiramoth a Jehonathan, ac Adoneia, a Thobeia, a Thob Adoneia, y Lefiaid; a chyda hwynt Elisama, a Jehoram, yr offeiriaid.

17:9 A hwy a ddysgasant yn Jwda, a chyda hwynt yr oedd llyfr cyfraith yr ARGLWYDD: felly yr amgylchasant hwy holl ddinasoedd Jwda, ac y dysgasant y bobl.

17:10 Ac arswyd yr ARGLWYDD oedd ar holl deyrnasoedd y gwledydd oedd o amgylch Jwda, fel nad ymladdasant hwy yn erbyn Jehosaffat.

17:11 A rhai o’r Philistiaid oedd yn dwyn i Jehosaffat anrhegion, a theyrnged o arian: yr Arabiaid hefyd oedd yn dwyn iddo ef ddiadelloedd, saith mil a saith gant o hyrddod, a saith mil a saith gant o fychod.

17:12 Felly Jehosaffat oedd yn myned rhagddo, ac yn cynyddu yn uchel; ac efe a adeiladodd yn Jwda balasau, a dinasoedd trysorau.

17:13 A llawer o waith oedd ganddo ef yn ninasoedd Jwda; a rhyfelwyr cedyra nerthol yn Jerwsalem.

17:14 A dyma eu rhifedi hwynt, yn ôl tŷ eu tadau: O Jwda yn dywysogion miloedd, yr oedd Adna y pennaf, a chydag ef dri chan mil o wŷr cedyrn nerthol.

17:15 A cher ei law ef, Jehohanan y tywysog, a chydag ef ddau cant a phedwar ugain mil.

17:16 A cherllaw iddo ef, Amaseia mab Sichri, yr hwn o’i wirfodd a ymroddodd i’r ARGLWYDD; a chydag ef ddau can mil o wŷr cedyrn nerthol.

17:17 Ac o Benjamin, yr oedd Eliada yn ŵr cadarn nerthol, a chydag ef ddau can mil yn arfogion a bwau a tharianau.

17:18 A cherllaw iddo ef, Jehosabad, a chydag ef gant a phedwar ugain mil yn barod i ryfel.

17:19 Y rhai hyn oedd yn gwasanaethu y brenin, heblaw y rhai a roddasai y brenin yn y dinasoedd caerog, trwy holl Jwda.

PENNOD 18 18:1 Ac i Jehosaffat yr ydoedd golud ac anrhydedd yn helaeth; ac efe a ymgyfathrachodd ag Ahab.

18:2 Ac ymhen ennyd o flynyddoedd efe a aeth i waered at Ahab i Samaria. Ac Ahab a laddodd ddefaid a gwartheg lawer, iddo ef ac i’r bobl oedd gydag ef, ac a’i hanogodd ef i fyned i fyny gydag ef i Ramoth-Gilead.

18:3 Ac Ahab brenin Israel a ddywedodd wrth Jehosaffat brenin Jwda, A ei di gyda mi i Ramoth-Gilead? Yntau a ddy¬wedodd wrtho, Yr ydwyf fi fel tithau, a’m pobl i fel dy bobl dithau, a byddwn gyda thi yn y rhyfel.

18:4 Jehosaffat hefyd a ddywedodd wrth frenin Israel, Ymgynghora, atolwg, heddiw â gair yr ARGLWYDD.

18:5 Am hynny brenin Israel a gasglodd o’r proffwydi bedwar cant o wŷr, ac a ddywedodd wrthynt, A awn ni yn erbyn Ramoth-Gilead i ryfel, neu a beidiaf fi? Dywedasant hwythau, DOS i fyny; canys Duw a’i dyry yn llaw y brenin.

18:6 Ond Jehosaffat a ddywedodd, Onid oes yma un proffwyd i’r ARGLWYDD eto mwyach, fel yr ymgynghorem ag ef?

18:7 A brenin Israel a ddywedodd