Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/515

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

13:3 A phan glywsant hwy y gyfraith, hwy a neilltuasant yr holl rai cymysg oddi wrth Israel.

13:4 Ac o flaen hyn, Eliasib yr offeiriad, yr hwn a osodasid ar ystafell tŷ ein DUW ni, oedd gyfathrachwr i Tobeia:

13:5 Ac efe a wnaeth iddo ef ystafell fawr; ac yno y byddent o’r blaen yn rhoddi y bwyd-offrymau, y thus, a’r llestri, a degwm yr ŷd, y gwin, a’r olew, a orchmynasid eu rhoddi i’r Lefiaid, a’r cantorion, a’r porthorion, ac offrymau yr offeiriaid.

13:6 Ac yn hyn i gyd o amser ni bûm i yn Jerwsalem: canys yn y ddeuddegfed flwyddyn ar hugain i Artacsercses brenin Babilon y deuthum i at y brenin, ac ymhen talm o ddyddiau y cefais gennad gan y brenin;

13:7 Ac a ddeuthum i Jerwsalem, ac a ddeellais y drygioni a wnaethai Eliasib er Tobeia, gan wneuthur iddo ystafell yng nghynteddoedd tŷ DDUW.

13:8 A bu ddrwg iawn gennyf, am hynny mi a fwriais holl ddodrefn tŷ Tobeia allan o’r ystafell.

13:9 Erchais hefyd iddynt lanhau yr ystafelloedd: a mi a ddygais yno drachefn lestri tŷ DDUW, yr offrwm a’r thus.

13:10 Gwybum hefyd fod rhannau y Lefiaid heb eu rhoddi iddynt: canys ffoesai y Lefiaid a’r cantorion, y rhai oedd yn gwneuthur y gwaith, bob un i’w faes.

13:11 Yna y dwrdiais y swyddogion, ac y dywedais, Paham y gwrthodwyd tŷ DDUW? A mi a’u cesglais hwynt ynghyd, ac a’u gosodais yn eu lle.

13:12 Yna holl Jwda a ddygasant ddegwm yr ŷd, a’r gwin, a’r olew, i’r trysordai.

13:13 A mi a wneuthum yn drysorwyr ar y trysorau, Selemeia yr offeiriad, a Sadoc yr ysgrifennydd, a Phedaia, o’r Lefiaid: a cherllaw iddynt hwy yr oedd Hanan mab Saccur, mab Mataneia: canys ffyddlon y cyfrifid hwynt, ac arnynt hwy yr oedd rhannu i’w brodyr.

13:14 Cofia fi, fy Nuw oherwydd hyn; ac na ddilea fy ngharedigrwydd a wneuthum i dŷ fy Nuw, ac i’w wyliadwriaethau ef.

13:15 Yn y dyddiau hynny y gwelais yn Jwda rai yn sengi gwinwryfau ar y Saboth, ac yn dwyn i mewn ysgubau ŷd, ac yn llwytho asynnod, gwin hefyd, a grawnwin, a ffigys, a phob beichiau, ac yn eu dwyn i Jerwsalem ar y dydd Saboth: a mi a dystiolaethais yn eu herbyn ar y dydd y gwerthasant luniaeth.

13:16 Y Tyriaid hefyd oedd yn trigo ynddi, ac yn dwyn pysgod, a phob peth gwerthadwy, y rhai yr oeddynt hwy yn eu gwerthu ar y Saboth i feibion Jwda, ac yn Jerwsalem.

13:17 Yna y dwrdiais bendefigion Jwda, ac y dywedais wrthynt, Pa beth drygionus yw hwn yr ydych chwi yn ei wneuthur, gan halogi’r dydd Saboth?

13:18 Onid fel hyn y gwnaeth eich tadau chwi? ac oni ddug ein DUW ni yr holl ddrwg hyn arnom ni, ac ar y ddinas hon? a chwithau ydych yn ychwanegu digofaint ar Israel, trwy halogi’r Saboth.

13:19 A phan dywyllasai pyrth Jerwsalem cyn y Saboth, yr erchais gau’r dorau, ac a orchmynnais nad agorid hwynt hyd wedi’r Saboth: a mi a osodais rai o’m gweision wrth y pyrth, fel na ddelai baich i mewn ar ddydd y Saboth.

13:20 Felly y marchnadwyr, a gwerthwyr pob peth gwerthadwy, a letyasant o’r tu allan i Jerwsalem unwaith neu ddwy.

13:21 A mi a dystiolaethais yn eu herbyn hwynt, ac a ddywedais wrthynt, Paham yr ydych chwi yn aros dros nos wrth y mur? os gwnewch eilwaith, mi a estynnaf fy llaw i’ch erbyn. O’r pryd hwnnw ni ddaethant ar y Saboth mwyach.

13:22 A mi a ddywedais wrth y Lefiaid, am iddynt ymlanhau, a dyfod i gadw y pyrth, gan sancteiddio’r dydd Saboth. Am hyn hefyd cofia fi, fy Nuw, ac arbed fi yn ôl lliaws dy drugaredd.

13:23 Yn y dyddiau hynny hefyd y gwelais Iddewon a briodasent Asdodesau, Ammonesau, a Moabesau, yn wragedd iddynt:

13:24 A'u plant hwy oedd yn llefaru y naill banner o'r Asdodeg, ac heb fedru ymddiddan yn iaith yr Iddewon, ond yn ôl tafodiaith y ddeubar bobl.

13:25 Yna yr ymrysonais â hwynt, ac y melltithiais hwynt; trewais hefyd rai ohonynt, ac a bliciais eu gwallt hwynt; a mi a’u tyngais hwynt trwy DDUW, gan ddywedyd, Na roddwch eich merched i’w meibion hwynt, ac na chymmerwch o’u