Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/514

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

Joiacim mab Jesua, fab Josadac, ac yn nyddiau Nehemeia y tywysog, ac Esra yr offeiriad a’r ysgrifennydd.

12:27 Ac yng nghysegriad mur Jerwsalem y ceisiasant y Lefiaid o’u holl leoedd, i’w dwyn i Jerwsalem, i wneuthur y cysegriad â gorfoledd, mewn diolchgarwch, ac mewn cân, â symbalau, nablau, ac â thelynau.

12:28 A meibion y cantorion a ymgynullasant o’r gwastadedd o amgylch i Jerwsalem, ac o drefydd Netoffathi,

12:29 Ac o dŷ Gilgal, ac o feysydd Geba ac Asmafeth: canys y cantorion a adeiladasent bentrefi iddynt o amgylch Jerwsalem.

12:30 Yr offeiriaid hefyd a’r Lefiaid a ymlanhasant; glanhasant hefyd y bobl, a’r pyrth, a’r mur.

12:31 A mi a berais i dywysogion Jwda ddringo ar y mur; a gosodais ddwy fintai fawr o rai yn moliannu; a mynediad y naill oedd ar y llaw ddeau ar y mur tua phorth y dom:

12:32 Ac ar eu hôl hwynt yr aeth Hosaia, a hanner tywysogion Jwda,

12:33 Asareia hefyd, Esra, a Mesulam,

12:34 Jwda, a Benjamin, a Semaia, a Jeremeia,

12:35 Ac o feibion yr offeiriaid ag utgyrn, Sechareia mab Jonathan, fab Semaia, fab Mataneia, fab Michaia, fab Saccur, fab Asaff;

12:36 A’i frodyr ef, Semaia, ac Asarael, Milalai, Gilalai, Maai, Nethaneel, a Jwda, Hanani, ag offer cerdd Dafydd gŵr DUW, ac Esra yr ysgrifennydd o’u blaen hwynt.

12:37 Ac wrth borth y ffynnon, yr hoa oedd ar eu cyfer hwynt, y dringasant ar risiau dinas Dafydd yn nringfa y mur, oddi ar dŷ Dafydd, hyd borth y dwfr tua’r dwyrain.

12:38 A’r ail fintai o’r rhai oedd yn moliannu, oedd yn myned ar eu cyfer hwynt; a minnau ar eu hôl; a hanner y bobl oedd ar y mur, oddi ar dŵr y ffyrnau, hyd y mur llydan;

12:39 Ac oddi ar borth Effraim, ac oddi ar yr hen borth, ac oddi ar borth y pysgod, a thŵr Hananeel, a thŵr Mea, hyd borth y defaid, a hwy a safasant ym mhorth yr wyliadwriaeth.

12:40 Felly y ddwy fintai, y rhai oedd yn moliannu, a safasant yn nhŷ DDUW, a minnau, a hanner y swyddogion gyda mi:

12:41 Yr offeiriaid hefyd; Eliacim, Maaseia, Miniamin, Michaia, Elioenai, Sechareia, Hananeia, ag utgyrn:

12:42 Maaseia hefyd, a Semaia, ac Eleasar, ac Ussi, a Jehohanan, a Malcheia, ac Elam, ac Esra. A’r cantorion a ganasant yn groch, a Jasraheia eu blaenor.

12:43 A’r diwrnod hwnnw yr aberthasant ebyrth mawrion, ac y llawenhasant: canys DUW a’u llawenychasai hwynt â llawenydd mawr: y gwragedd hefyd a’r plant a orfoleddasant: fel y clybuwyd llawenydd Jerwsalem hyd ymhell.

12:44 A’r dwthwn hwnnw y gosodwyd gwŷr ar gelloedd y trysorau, ar yr offrymau, ar y blaenffrwyth, ac ar y degymau, i gasglu iddynt hwy o feysydd y dinasoedd y rhannau cyfreithlon i’r offeiriaid a’r Lefiaid: canys llawenydd Jwda oedd ar yr offeiriaid ac ar y Lefiaid y rhai oedd yn sefyll yno.

12:45 Y cantorion hefyd a’r porthorion a gadwasant wyliadwriaeth eu DUW, a gwyliadwriaeth y glanhad, yn ôl gorchymyn Dafydd, a Solomon ei fab.

12:46 Canys gynt, yn nyddiau Dafydd ac Asaff, yr oedd y pen-cantorion, a chaniadau canmoliaeth a moliant i DDUW.

12:47 Ac yn nyddiau Sorobabel, ac yn nyddiau Nehemeia, holl Israel oedd yn rhoddi rhannau i’r cantorion, a’r porthorion, dogn dydd yn ei ddydd: a hwy a gysegrasant bethau sanctaidd i’r Lefiaid; a’r Lefiaid a’u cysegrasant i feibion Aaron.


PENNOD 13

13:1 Y dwthwn hwnnw y darllenwyd yn llyfr Moses lle y clybu’r bobl; a chafwyd yn ysgrifenedig ynddo, na ddylai yr Ammoniad na’r Moabiad ddyfod i gynulleidfa DUW yn dragywydd;

13:2 Am na chyfarfuasent â meibion Israel â bara ac â dwfr, eithr cyflogasent Balaam yn eu herbyn i’w melltithio hwynt: eto ein DUW ni a drodd y felltith yn fendith.