Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/524

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

heinioes, ac a gawsant lonyddwch gan eu gelynion, ac a laddasant bymtheng mil a thrigain o’u caseion: ond nid estynasant eu llaw ar yr anrhaith.

9:17 Ar y trydydd dydd ar ddeg o fis Adar y bu hyn, ac ar y pedwerydd dydd ar ddeg ohono y gorffwysasant, ac y cynaliasant ef yn ddydd gwledd a gorfoledd.

9:18 Ond yr Iddewon, y rhai oedd yn Susan, a ymgynullasant ar y trydydd dydd ar ddeg ohono, ac ar y pedwerydd dydd ar ddeg ohono; ac ar y pymthegfed ohono y gorffwysasant, a gwnaethant ef yn ddydd cyfeddach a llawenydd.

9:19 Am hynny Iddewon y pentrefi, y rhai oedd yn trigo mewn dinasoedd heb gaerau, oedd yn cynnal y pedwerydd dydd ar ddeg o’r mis Adar, mewn llawenydd a chyfeddach, ac yn ddiwrnod daionus, ac i anfon rhannau i’w gilydd.

9:20 A Mordecai a ysgrifennodd y geiriau hyn, ac a anfonodd lythyrau at yr holl Iddewon oedd trwy holl daleithiau y brenin Ahasferus, yn agos oc ymhell,

9:21 I ordeinio iddynt gadw y pedwerydd dydd ar ddeg o fis Adar, a’r pymthegfed dydd ohono, bob blwyddyn;

9:22 Megis y dyddiau y cawsai yr Iddewon ynddynt lonydd gan eu gelynion, a’r mis yr hwn a ddychwelasai iddynt o dristwch i lawenydd, ac o alar yn ddydd daionus: gan eu cynnal hwynt yn ddyddiau gwledd a llawenydd, a phawb yn anfon anrhegion i’w gilydd, a rhoddion i’r rhai anghenus.

9:23 A’r Iddewon a gymerasant arnynt wneuthur fel y dechreuasent, ae fel yr ysgrifenasai Mordecai atynt.

9:24 Canys Haman mab Hammedatha yr Agagiad, gwrthwynebwr yr holl Iddewon, a arfaethasai yn erbyn yr Iddewon, am eu difetha hwynt; ac efe a fwriasai Pwr, hwnnw yw y coelbren, i’w dinistrio hwynt, ac i’w difetha:

9:25 A phan ddaeth Esther o flaen y brenin, efe a archodd trwy lythyrau, ddychwelyd ei ddrwg fwriad ef, yr hwn a fwriadodd efe yn erbyn yr Iddewon, ar ei ben ei hun; a’i grogi ef a’i feibion ar y pren.

9: 26 Am hynny y galwasant y dyddiau hynny Pwrim, ar enw y Pwr: am hynny, oherwydd holl eiriau y llythyr hwn, ac oherwydd y peth a welsent hwy am y peth hyn, a’r peth a ddigwyddasai iddynt,

9:27 Yr Iddewon a ordeiniasant, ac a gymerasant arnynt, ac ar eu had, ac ar yr holl rai oedd yn un â hwynt, na phallai bod cynnal y ddau ddydd hynny, yn ôl eu hysgrifen hwynt, ac yn ôl eu tymor, bob blwyddyn:

9:28 Ac y byddai y dyddiau hynny i’w cofio, ac i’w cynnal trwy bob cenhedlaeth, a phob teulu, pob talaith, a phob dinas; sef na phallai y dyddiau Pwrim hynny o fysg yr Iddewon, ac na ddarfyddai eu coffadwriaeth hwy o blith eu had.

9:29 Ac ysgrifennodd Esther y frenhines merch Abihail, a Mordecai yr Iddew, trwy eu holl rym, i sicrhau ail lythyr y Pwrim hwn.

9:30 Ac efe a anfonodd lythyrau at yr holl Iddewon, trwy y cant a’r saith, dalaith ar hugain o frenhiniaeth Ahasferus, a geiriau heddwch a gwirionedd;

9:31 I sicrhau y dyddiau Pwrim hynny yn eu tymhorau, fel yr ordeiniasai Mordecai yr Iddew, ac Esther y frenhines, iddynt hwy, ac fel yr ordeiniasent hwythau drostynt eu hun, a thros eu had, eiriau yr ymprydiau a’u gwaedd.

9:32 Ac ymadrodd Esther a gadarnhaodd achosion y dyddiau Pwrim hynny: ae ysgrifennwyd hyn mewn llyfr.

PENNOD 10

10:1 A’r brenin Ahasferus a osododd dreth ar y wlad, ac ar ynysoedd y môr.

10:2 A holl weithredoedd ei rym ef, a’i gadernid, a hysbysrwydd o fawredd Mordecai, â’r hwn y mawrhaodd y brenin ef, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Media a Phersia?

10:3 Canys Mordecai yr Iddew oedd yn nesaf i’r brenin Ahasferus, ac yn fawr gan yr Iddewon, ac yn gymeradwy ymysg lliaws ei frodyr; yn ceisio daioni i’w bobl, ac yn dywedyd am heddwch i’w holl hiliogaeth.