LLYFR JOB
PENNOD 1
1:1 Yr oedd gŵr yng ngwlad Us a’i enw Job, ac yr oedd y gŵr hwnnw yn berffaith ac yn uniawn, ac yn ofni Duw, ac yn cilio oddi wrth ddrygioni.
1:2 Ac iddo y ganwyd saith o feibion, a thair o ferched.
1:3 A’i olud oedd saith mil o ddefaid, a thair mil o gamelod, a phum can iau o ychen, a phum cant o asynnod, a llawer iawn o wasanaethyddion, ac yr oedd y gŵr hwn yn fwyaf o holl feibion y dwyrain.
1:4 A’i feibion ef a aent ac a wnaent wledd yn eu tai, bob un ar ei ddiwrnod; ac a anfonent ac a wahoddent eu tair chwaer i fwyta ac i yfed gyda hwynt.
1:5 A phan ddeuai dyddiau y wledd oddi amgylch, yna Job a anfonai ac a’u sancteiddiai hwynt, ac a gyfodai yn fore, ac a offrymai boethoffrymau yn ôl eu rhifedi hwynt oll: canys dywedodd Job, Fy meibion ond odid a bechasant, ac a felltithiasant DDUW yn eu calonnau. Felly y gwnai Job yr holl ddyddiau hynny.
1:6 A dydd a ddaeth i feibion Duw ddyfod i sefyll gerbron yr ARGLWYDD; a Satan hefyd a ddaeth yn eu plith hwynt.
1:7 A’r ARGLWYDD a ddywedodd wrth Satan, O ba le yr ydwyt ti yn dyfod? A Satan a atebodd yr ARGLWYDD, ac a ddywedodd, O dramwy ar hyd y ddaear, ac o ymrodio ynddi.
1:8 A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Satan, A ddeliaist ti ar fy ngwas Job, nad oes gyffelyb iddo ar y ddaear, yn ŵr perffaith ac uniawn, yn ofni Duw, ac yn cilio oddi wrth ddrygioni?
1:9 Yna Satan a atebodd yr ARGLWYDD, ac a ddywedodd, Ai yn ddiachos y mae Job yn ofni DUW?
1:10 Oni chaeaist o’i amgylch ef, ac o amgylch ei dŷ, ac ynghylch yr hyn oll sydd eiddo oddi amgylch? ti a fendithiaist waith ei ddwylo ef, a’i dda ef a gynyddodd ar y ddaear.
1:11 Eithr estyn yn awr dy law, a chyffwrdd â’r hyn oll sydd ganddo, ac efe a’th felltithia o flaen dy wyneb.
1:12 A’r ARGLWYDD a ddywedodd wrth Satan, Wele, yr hyn oll sydd eiddo ef yn dy law di; yn unig yn ei erbyn ef ei hun nac estyn dy law. Felly Satan a aeth allan oddi gerbron yr ARGLWYDD.
1:13 A dydd a ddaeth, pan oedd ei feibion ef a’i ferched yn bwyta ac yn yfed gwin yn nhŷ eu brawd hynaf.
1:14 A daeth cennad at Job, ac a ddy¬wedodd, Yr ychen oedd yn aredig, a’r asynnod oedd yn pori gerllaw iddynt;
1:15 A’r Sabeaid a ruthrasant, ac a’u dygasant ymaith; y llanciau hefyd a drawsant hwy â min y cleddyf, a mi fy hunan yn unig a ddihengais i fynegi i ti.
1:16 Tra yr oedd hwn yn llefaru, un arall hefyd a ddaeth, ac a ddywedodd, Tân Duw a syrthiodd o’r nefoedd, ac a losgodd y defaid, a’r gweision, ac a’u hysodd hwynt; ond myfi fy hunan yn unig a ddihengais i fynegi i ti.
1:17 Tra yr ydoedd hwn yn llefaru, un arall hefyd a ddaeth, ac a ddywedodd, Y Caldeaid a osodasant dair byddin, ac a ruthrasant i’r camelod, ac a’u dygasant ymaith, ac a drawsant y llanciau â min y cleddyf; a minnau fy hun yn unig a ddi¬hengais i fynegi i ti.
1:18 Tra yr ydoedd hwn yn llefaru, un arall hefyd a ddaeth, ac a ddywedodd, Dy feibion a’th ferched oedd yn bwyta ac yn yfed gwin yn nhŷ eu brawd hynaf:
1:19 Ac wele, gwynt mawr a ddaeth oddi ar yr anialwch, ac a drawodd wrth bedair congl y tŷ, ac efe a syrthiodd ar y llanciau, a buant feirw; ond myfi fy hun yn unig a ddihengais i fynegi i ti.
1:20 Yna y cyfododd Job, ac a rwygodd ei fantell, ac a eilliodd ei ben, ac a syrthiodd i lawr, ac a addolodd;
1:21 Ac a ddywedodd, Noeth y