6:13 Onid ydyw fy nghymorth ynof fi? a fwriwyd doethineb yn llwyr oddi wrthyf?
6:14 I’r cystuddiol y byddai trugaredd oddi wrth ei gyfaill; ond efe a adawodd ofn yr Hollalluog.
6:15 Fy mrodyr a’m twyllasant megis afon: aethant heibio fel llifeiriant afonydd;
6:16 Y rhai a dduasant gan rew, ac yr ymguddiodd eira ynddynt:
6:17 Yr amser y cynhesant, hwy a dorrir ymaith: pan wresogo yr hin, hwy a ddarfyddant allan o’u lle.
6:18 Llwybrau eu ffordd hwy a giliant: hwy a ânt yn ddiddim, ac a gollir.
6:19 Byddinoedd Tema a edrychasant, minteioedd Seba a ddisgwyliasant amdanynt.
6:20 Hwy a gywilyddiwyd, am iddynt obeithio; hwy a ddaethant hyd yno, ac a wladeiddiasant.
6:21 Canys yn awr nid ydych chwi ddim; chwi a welsoch fy nhaflu i lawr, ac a ofnasoch.
6:22 A ddywedais i, Dygwch i mi? neu, O’ch golud rhoddwch roddion drosof fi?
6:23 Neu, Gwaredwch fi o law y gelyn? neu, Rhyddhewch fi o law y cedyrn?
6:24 Dysgwch fi, a myfi a dawaf: A gwnewch i mi ddeall ym mha beth y camgymerais.
6:25 Mor gryfion ydyw geiriau uniondeb! ond pa beth a argyhoedda argyhoeddiad un ohonoch chwi?
6:26 Ai argyhoeddi ymadroddion a amcenwch chwi â geiriau un diobaith, y rhai sydd megis gwynt?
6:27 Chwi a ruthrwch hefyd am ben yr amddifad, ac a gloddiwch bwll i’ch cyfaill.
6:28 Yn awr gan hynny byddwch fodlon; edrychwch arnaf fi; canys y mae yn eglur i chwi os dywedaf gelwydd.
6:29 Dychwelwch, atolwg, na fydded anwiredd; ie, trowch eto, y mae fy nghyfiawnder yn hyn.
6:30 A oes anwiredd yn fy nhafod? oni ddeall taflod fy ngenau gam flas?
PENNOD 7
7:1 Onid oes amser terfynedig i ddyn ar y ddaear? onid yw ei ddyddiau ef megis dyddiau gwas cyflog?
7:2 Megis y dyhea gwas am gysgod, ac y disgwyl cyflogddyn wobr ei waith:
7:3 Felly y gwnaethpwyd i mi feddiannu misoedd o oferedd, a nosweithiau blinion a osodwyd i mi.
7:4 Pan orweddwyf, y dywedaf. Pa bryd y codaf, ac yr ymedy y nos? canys caf ddigon o ymdroi hyd y cyfddydd.
7:5 Fy nghnawd a wisgodd bryfed a thom priddlyd: fy nghroen a agennodd, ac a aeth yn ffiaidd.
7:6 Fy nyddiau sydd gynt na gwennol gwehydd, ac a ddarfuant heb obaith.
7:7 Cofia mai gwynt yw fy hoedl: ni wêl fy llygad ddaioni mwyach.
7:8 Y llygad a’m gwelodd, ni’m gwêl mwyach: dy lygaid sydd arnaf, ac nid ydwyf.
7:9 Fel y derfydd y cwmwl, ac yr â ymaith: felly yr hwn sydd yn disgyn i’r bedd, ni ddaw i fyny mwyach.
7:10 Ni ddychwel mwy i’w dŷ: a’i le nid edwyn ef mwy.
7:11 Gan hynny ni warafunaf i’m genau; mi a lefaraf yng nghyfyngdra fy ysbryd; myfi a gwynaf yn chwerwder fy enaid.
7:12 Ai môr ydwyf, neu forfil, gan dy fod yn gosod cadwraeth arnaf?
7:13 Pan ddywedwyf, Fy ngwely a’m cysura, fy ngorweddfa a esmwytha fy nghwynfan;
7:14 Yna y’m brawychi â breuddwydion, ac y’m dychryni â gweledigaethau:
7:15 Am hynny y dewisai fy enaid ymdagu, a marwolaeth yn fwy na’m hoedl.
7:16 Ffieiddiais einioes, ni fynnwn fyw byth: paid â mi, canys oferedd ydyw fy nyddiau.
7:17 Pa beth ydyw dyn, pan fawrheit ef? a phan osodit dy feddwl arno?
7:18 Ac ymweled ag ef bob bore, a’i brofi ar bob moment?
7:19 Pa hyd y byddi heb gilio oddi wrthyf, ac na adewi fi yn llonydd tra llyncwyf fy mhoeryn?
7:20 Myfi a bechais; beth a wnaf i ti, O geidwad dyn? paham y gosodaist fi yn nod i ti, fel yr ydwyf yn faich i mi fy hun?
7:21 A phaham na faddeui fy nghamwedd, ac na fwri heibio fy anwiredd? canys yn awr yn y llwch y gorweddaf, a thi a’m ceisi yn fore, ond ni byddaf.