PENNOD 8
8:1 Yna Bildad y Suhiad a atebodd ac ddywedodd,
8:2 Pa hyd y dywedi di hynny? ac y bydd geiriau dy enau megis gwynt cryf?
8:3 A ŵyra DUW farn? neu a ŵyra yr Hollalluog gyfiawnder?
8:4 Os dy feibion a bechasant yn ei erbyn ef; a bwrw ohono ef hwynt ymaith am eu camwedd;
8:5 Os tydi a foregodi at DDUW, ac a weddïi ar yr Hollalluog;
8:6 Os pur ac uniawn fyddi, yn wir efe a ddeffry atat ti yr awron, ac a wna drigfa dy gyfiawnder yn llwyddiannus.
8:7 Er bod dy ddechreuad yn fychan, eto dy ddiwedd a gynydda yn ddirfawr.
8:8 Oblegid gofyn, atolwg, i’r oes gynt, ac ymbaratoa i chwilio eu hynafiaid hwynt:
8:9 (Canys er doe yr ydym ni, ac ni wyddom ddim, oherwydd cysgod yw ein dyddiau ni ar y ddaear:)
8:10 Oni ddysgant hwy di? ac oni ddywedant i ti? ac oni ddygant ymadroddion allan o’u calon?
8:11 A gyfyd brwynen heb wlybaniaeth? a dyf hesg heb ddwfr?
8:12 Tra fyddo hi eto yn wyrddlas heb ei thorri, hi a wywa o flaen pob glaswelltyn.
8:13 Felly y mae llwybrau pawb a’r sydd yn gollwng DUW dros gof, ac y derfydd am obaith y rhagrithiwr;
8:14 Yr hwn y torrir ymaith ei obaith; ac fel tŷ pryf copyn y bydd ei hyder ef.
8:15 Efe a bwysa ar ei dŷ, ond ni saif; efe a ymeifl ynddo, ond ni phery.
8:16 Y mae efe yn ir o flaen yr haul, ac yn ei ardd y daw ei frig allan.
8:17 Plethir ei wraidd ef ynghylch y pentwr, ac efe a wêl le cerrig.
8:18 Os diwreiddia efe ef allan o’i le, efe a’i gwad ef, gan ddywedyd, Ni’th welais.
8:19 Wele, dyma lawenydd ei ffordd ef: ac o’r ddaear y blagura eraill.
8:20 Wele, ni wrthyd DUW y perffaith, ac nid ymeifl efe yn llaw y rhai drygionus;
8:21 Oni lanwo efe dy enau di â chwerthin, a’th wefusau â gorfoledd.
8:22 A gwisgir dy gaseion di â chywilydd, ac ni bydd lluesty yr annuwiol.
PENNOD 9
9:1 Yna Job a atebodd ac a ddywedodd,
9:2 Yn wir mi a wn mai felly y mae: canys pa fodd y cyfiawnheir dyn gyda Duw?
9:3 Os myn efe ymryson ag ef, ni all ateb iddo am un peth o fil.
9:4 Y mae efe yn ddoeth o galon, ac yn alluog o nerth; pwy a ymgaledodd yn ei erbyn ef, ac a lwyddodd?
9:5 Yr hwn sydd yn symud mynyddoedd, ac heb wybod iddynt: yr hwn sydd yn eu dymchwelyd hwynt yn ei ddigofaint.
9:6 Yr hwn sydd yn cynhyrfu y ddaear allan o’i lle, fel y cryno ei cholofnau hi.
9:7 Yr hwn a ddywed wrth y haul, ac ni chyfyd: ac a selia ar y sêr.
9:8 Yr hwn yn unig sydd yn taenu y nefoedd, ac yn sathru ar donnau y môr.
9:9 Yr hwn sydd yn gwneuthur Arcturus, Orion, a Phleiades, ac ystafelloedd y deau.
9:10 Yr hwn sydd yn gwneuthur pethau mawrion anchwiliadwy, a rhyfeddodau aneirif.
9:11 Wele, efe a â heibio i mi, ac nis gwelaf ef; ac efe a a rhagddo, ac ni chanfyddaf ef.
9:12 Wele, efe a ysglyfaetha, pwy a’i lluddia? pwy a ddywed wrtho, Pa beth yr wyt yn ei wneuthur?
9:13 Oni thry DUW ei ddicllonedd ymaith, dano ef y cryma cynorthwywyr balchder.
9:14 Pa faint llai yr atebaf iddo ef, ac y gallaf ddewis fy ngeiriau i ymresymu ag ef?
9:15 I’r hwn, pe bawn gyfiawn, nid atebwn, eithr ymbiliwn â’m barnwr.
9:16 Pe galwaswn, a phed atebasai efe i mi, ni chredwn y gwrandawai efe fy lleferydd.
9:17 Canys efe a’m dryllia â chorwynt, ac a amlha fy archollion yn ddiachos.