Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/531

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

9:18 Ni ddioddef efe i mi gymryd fy anadl: ond efe a’m lleinw â chwerwder.

9:19 Os soniaf am gadernid, wele ef yn gadarn: ac os am farn, pwy a ddadlau drosof fi?

9:20 Os myfi a ymgyfiawnhaf, fy ngenau a’m barn yn euog: os perffaith y dywedaf fy mod, efe a’m barn yn gildyn.

9:21 Pe byddwn berffaith, eto nid adwaenwn fy enaid; ffiaidd fyddai gennyf fy einioes.

9:22 Dyma un peth, am hynny mi a’i dywedais: y mae efe yn difetha y perffaith a’r annuwiol.

9:23 Os lladd y ffrewyll yn ddisymwth, efe a chwardd am ben profedigaeth y diniwed.

9:24 Y ddaear a roddwyd yn llaw yr annuwiol: efe a fwrw hug dros wynebau ei barnwyr hi: onid e, pa le y mae, a phwy yw efe?

9:25 A’m dyddiau i sydd gynt na rhedegwr: ffoant ymaith heb weled daioni.

9:26 Aethant heibio megis llongau buain, megis yr eheda eryr at ymborth.

9:27 Os dywedaf, Gollyngaf fy nghwyn dros gof; mi a adawaf fy nhrymder, ac a ymgysuraf:

9:28 Yr wyf yn ofni fy holl ddoluriau: gwn na’m berni yn wirion.

9:29 Os euog fyddaf, paham yr ymflinaf yn ofer?

9:30 Os ymolchaf mewn dwfr eira, ac os glanhaf fy nwylo yn lân;

9:31 Eto ti a’m trochi yn y pwll; a’m dillad a’m ffieiddiant.

9:32 Canys nid gŵr fel myfi yw efe, fel yr atebwn iddo, ac y delem ynghyd i farn.

9:33 Nid oes rhyngom ni ddyddiwr a all osod ei law arnom ein dau.

9:34 Tynned ymaith ei wialen oddi arnaf; ac na ddychryned ei ofn ef fyfi:

9:35 Yna y dywedwn, ac nid ofnwn ef: ond nid felly y mae gyda myfi.

PENNOD 10

10:1 Y mae fy enaid yn blino ar fy einioes: arnaf fy hun y gadawaf fy nghwyn; ac yn chwerwder fy enaid y llefaraf.

10:2 Dywedaf wrth DDUW, Na farn fi yn euog; gwna i mi wybod paham yr ymrysoni â mi.

10:3 Ai da i ti orthrymu, fel y diystyrit waith dy ddwylo, ac y llewyrchit gyngor yr annuwiol?

10:4 Ai llygaid o gnawd sydd i ti? ai fel y gwêl dyn y gweli di?

10:5 A ydyw dy ddyddiau di fel dyddiau dyn? a ydyw dy flynyddoedd di fel dyddiau gŵr,

10:6 Pan geisi fy anwiredd, a phan ymofynni am fy mhechod?

10:7 Ti a wyddost nad ydwyf annuwiol; ac nid oes a waredo o’th law di.

10:8 Dy ddwylo di a’m gweithiasant, ac a’m cydluniasant o amgylch; eto fy nifetha yr wyt.

10:9 Cofia, atolwg, mai fel clai y gwnaethost fi; ac a ddygi di fi i’r pridd drachefn?

10:10 Oni thywelltaist fi fel llaeth; ac oni cheulaist fi fel caws?

10:11 Ti a’m gwisgaist i â chroen, ac â chnawd; ti a’m diffynnaist i âg esgyrn ac â gïau.

10:12 Bywyd a thrugaredd a ddarperaist i mi, a’th ymgeledd a gadwodd fy ysbryd.

10:13 A’r pethau hyn a guddiaist ti yn dy galon: gwn fod hyn gyda thi.

10:14 Os pechaf, ti a’m gwyli, ac ni’m glanhei oddi wrth fy anwiredd.

10:15 Os ydwyf annuwiol, gwae fi; ac os cyfiawn ydwyf, er hynny ni chodaf fy mhen: yr ydwyf yn llawn o warthrudd, am hynny gwêl fy nghystudd;

10:16 Canys cynyddu y mae: fy hela yr ydwyt fel llew creulon: er hynny drachefn ti a wnei yn rhyfedd â mi.

10:17 Yr wyt ti yn adnewyddu dy dystion i’m herbyn, ac yn amlhau dy ddigofaint wrthyf; cyfnewidiau a rhyfel sydd i’m herbyn.

10:18 Paham gan hynny y dygaist fi allan o’r groth? O na buaswn farw, ac na’m gwelsai llygad!

10:19 Mi a fuaswn megis pe na buaswn, a myfi a ddygasid o’r bru i’r bedd.

10:20 Onid ychydig yw fy nyddiau? paid gan hynny, gad im lonydd, fel yr ymgysurwyf ychydig;

10:21 Cyn myned ohonof lle ni ddychwelwyf, i dir tywyllwch a chysgod angau;

10:22 Tir tywyllwch fel y fagddu, a chysgod angau, a heb drefn; lle y mae y goleuni fel y tywyllwch.