Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/545

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

31:21 Os codais fy llaw yn erbyn yr amddi¬fad, pan welwn fy nghymorth yn y porth;

31:22 Syrthied fy mraich oddi wrth fy ysgwydd, a thorrer fy mraich oddi wrth y cymal.

31:23 Canys ofn dinistr DUW oedd arnaf; a chan ei uchelder ef ni allwn oddef.

31:24 Os gosodais fy ngobaith mewn aur; ac os dywedais wrth aur coeth, Fy ymddiried wyt;

31:25 Os llawenychais am fod fy nghyfoeth yn fawr, ac oblegid i’m llaw gael llawer;

31:26 Os edrychais ar yr haul pan dywynnai, a’r lleuad yn cerdded yn ddisglair;

31:27 Ac os hudwyd fy nghalon yn guddiedig, ac os fy ngenau a gusanodd fy llaw:

31:28 Hyn hefyd fuasai anwiredd i’w gosbi gan y barnwyr: canys gwadaswn DDUW uchod.

31:29 Os llawenychais i am drychineb yr hwn a’m casai, ac os ymgodais pan ddigwyddodd drwg iddo:

31:30 (Ac ni ddioddefais i daflod fy ngenau bechu; gan ofyn ei einioes ef trwy felltithio.)

31:31 Oni ddywedodd dynion fy mhabell, O na chaem o’i gnawd ef! ni ddigonir ni.

31:32 Ni letyodd dieithrddyn yn yr heol: agorais fy nrysau i’r fforddolion.

31:33 Os cuddiais fy nghamweddau fel Adda; gan guddio fy anwiredd yn fy mynwes;

31:34 A ofnais i dyrfa luosog, neu a’m dychrynai dirmyg teulu; fel y tawn, heb fyned allan o’m drws?

31:35 O am un a’m gwrandawai! wele, fy nymuniad yw, i’r Hollalluog fy ateb i, ac ysgrifennu o’m gwrthwynebwr lyfr.

31:36 Diau y dygwn ef ar fy ysgwydd; a rhwymwn ef yn lle coron i mi.

31:37 Mynegwn iddo rifedi fy nghamre; fel tywysog y nesawn ato.

31:38 Os ydyw fy nhir i yn llefain yn fy erbyn, ac os ydyw ei gwysau ef yn cydwylo;

31:39 Os bwyteais i ei gnwd ef heb arian, ac os cystuddiais enaid ei berchenogion ef:

31:40 Tyfed ysgall yn lle gwenith, a bulwg yn lle haidd. Diweddwyd geiriau Job.

PENNOD 32

32:1 Felly y tri gŵr yma a beidiasant ag ateb i Job, am ei fod ef yn gyfiawn yn ei olwg ei hun.

32:2 Yna digofaint Elihu, mab Barachel y Busiad, o genedl Ram, a gyneuodd: ei ddigofaint ef a enynnodd yn erbyn Job, am farnu ohono ei enaid yn gyfiawn o flaen Duw.

32:3 A’i ddigofaint ef a gyneuodd yn erbyn ei dri chyfaill, am na chawsent hwy ateb, ac er hynny, farnu ohonynt Job yn euog.

32:4 Elihu hefyd a arosasai ar Job nes darfod iddo lefaru: canys yr oeddynt hwy yn hŷn nag ef o oedran.

32:5 Pan welodd Elihu nad oedd ateb gan y triwyr hyn, yna y cyneuodd ei ddigo¬faint ef.

32:6 Ac Elihu, mab Barachel y Busiad, a atebodd ac a ddywedodd, Ieuanc ydwyf o oedran, chwithau ydych hen iawn: am hynny yr arswydais, ac yr ofnais ddangos fy meddwl i chwi.

32:7 Dywedais, Dyddiau a draethant, a lliaws o flynyddoedd a ddysgant ddoethineb.

32:8 Ond y mae ysbryd mewn dyn; ac ysbrydoliaeth yr Hollalluog sydd yn gwneuthur iddynt hwy ddeall.

32:9 Nid yw gwŷr mawrion ddoeth bob amser: ac nid yw hynafgwyr yn deall barn.

32:10 Am hynny y dywedais, Gwrando fi; minnau a ddangosaf fy meddwl.

32:11 Wele, disgwyliais wrth eich geiriau; clustymwrandewais â’ch rhesymau, tra y chwiliasoch chwi am eiriau.

32:12 Ie, mi a ddeliais arnoch: ac wele, nid oedd un ohonoch yn argyhoeddi Job, gan ateb ei eiriau ef:

32:13 Rhag dywedyd ohonoch, Ni a gawsom ddoethineb: DUW sydd yn ei wthio ef i lawr, ac nid dyn.

32:14 Er na hwyliodd efe ei ymadroddion yn fy erbyn i: ac nid atebaf finnau iddo â’ch geiriau chwi.

32:15 Hwy a synasant, nid atebasant mwy; peidiasant â llefaru.

32:16 Wedi disgwyl ohonof, (canys