ni lefarant, eithr sefyll heb ateb mwy,)
32:17 Dywedais, Minnau a atebaf fy rhan, minnau a ddangosaf fy meddwl.
32:18 Canys yr ydwyf yn llawn geiriau: y mae yr ysbryd sydd ynof yn fy nghymell i.
32:19 Wele, fy mol sydd fel gwin nid agorid arno: y mae efe yn hollti fel costrelau newyddion.
32:20 Dywedaf, fel y caffwyf fy anadl: agoraf fy ngwefusau, ac atebaf.
32:21 Ni dderbyniaf yn awr wyneb neb: ni wenieithiaf wrth ddyn.
32:22 Canys ni fedraf wenieithio; pe gwnelwn, buan y’m cymerai fy Ngwneuthurwr ymaith.
PENNOD 33
33:1 Oherwydd paham, Job, clyw, atolwg, fy ymadroddion; a gwrando fy holl eiriau.
33:2 Wele, yr ydwyf yn awr yn agoryd fy ngenau; mae fy nhafod yn dywedyd yn nhaflod fy ngenau.
33:3 O uniondeb fy nghalon- y bydd fy ngeiriau; a’m gwefusau a adroddant wybodaeth bur.
33:4 Ysbryd DUW a’m gwnaeth i; ac anadl yr Hollalluog a’m bywiocaodd i.
33:5 Os gelli, ateb fi: ymbaratoa, a saf o’m blaen i.
33:6 Wele fi, yn ôl dy ddymuniad di, yn lle Duw: allan o’r clai y torrwyd finnau.
33:7 Wele, ni’th ddychryna fy arswyd i, ac ni bydd fy llaw yn drom arnat.
33:8 Dywedaist yn ddiau lle y clywais i, a myfi a glywais lais dy ymadroddion:
33:9 Pur ydwyf fi heb gamwedd: glân ydwyf, ac heb anwiredd ynof.
33:10 Wele, efe a gafodd achosion yn fy erbyn: y mae efe yn fy nghyfrif yn elyn iddo.
33:11 Y mae yn gosod fy nhraed yn y cyffion; y mae yn gwylied fy holl lwybrau.
33:12 Wele, yn hyn nid ydwyt gyfiawn. Mi a’th atebaf, mai mwy ydyw DUW na dyn.
33:13 Paham yr ymrysoni yn ei erbyn ef? oherwydd nid ydyw efe yn rhoi cyfrif am ddim o’i weithredoedd.
33:14 Canys y mae DUW yn llefaru unwaith, ie, ddwywaith; ond ni ddeall dyn.
33:15 Trwy hun, a thrwy weledigaeth nos, pan syrthio trymgwsg ar ddynion, wrth hepian ar wely;
33:16 Yna yr egyr efe glustiau dynion, ac y selia efe addysg iddynt:
33:17 I dynnu dyn oddi wrth ei waith, ac i guddio balchder oddi wrth ddyn.
33:18 Y mae efe yn cadw ei enaid ef rhag y pwll; a’i hoedl ef rhag ei cholli trwy y cleddyf.
33:19 Ac efe a geryddir trwy ofid ar ei wely; a lliaws ei esgyrn ef a gofid caled:
33:20 Fel y ffieiddio ei fywyd ef fara, a’i enaid fwyd blasus.
33:21 Derfydd ei gnawd ef allan o olwg; saif ei esgyrn allan, y rhai ni welid o’r blaen.
33:22 Nesau y mae ei enaid i’r bedd, a’i fywyd i’r dinistrwyr.
33:23 Os bydd gydag ef gennad o ladmerydd, un o fil, i ddangos i ddyn ei uniondeb:
33:24 Yna efe a drugarha wrtho, ac a ddywed, Gollwng ef, rhag disgyn ohono i’r clawdd: myfi a gefais iawn.
33:25 Ireiddiach fydd ei gnawd na bachgen: efe a ddychwel at ddyddiau ei ieuenctid.
33:26 Efe a weddia ar DDUW, ac yntau a fydd bodlon iddo; ac efe a edrych yn ei wyneb ef mewn gorfoledd: canys efe a dâl i ddyn ei gyfiawnder.
33:27 Efe a edrych ar ddynion, ac os dywed neb. Mi a bechais, ac a wyrais uniondeb, ac ni lwyddodd i mi,
33:28 Efe a wared ei enaid ef rhag myned i’r clawdd, a’i fywyd a wêl oleuni.
33:29 Wele, hyn oll a wna DUW ddwywaith neu dair â dyn,
33:30 I ddwyn ei enaid ef o’r pwll, i’w oleuo â goleuni y rhai byw.
33:31 Gwrando, Job, clyw fi: taw, a mi a lefaraf.
33:32 Od oes geiriau gennyt, ateb fi: llefara, canys chwenychwn dy gyfiawn hau di.
33:33 Onid e, gwrando arnaf fi: bydd ddistaw, a myfi a ddysgaf i ti ddoethineb.