fel gŵr; a mynega i mi yr hyn a ofynnwyf i ti.
38:4 Pa le yr oeddit ti pan sylfaenais i y ddaear? mynega, os medri ddeall.
38:5 Pwy a osododd ei mesurau hi, os gwyddost? neu pwy a estynnodd linyn arni hi?
38:6 Ar ba beth y sicrhawyd ei sylfeini hi? neu pwy a osododd ei chonglfaen hi,
38:7 Pan gydganodd sêr y bore, ac y gorfoleddodd holl feibion Duw?
38:8 A phwy a gaeodd y môr â dorau, pan ruthrodd efe allan megis pe delai allan o’r groth?
38:9 Pan osodais i y cwmwl yn wisg iddo, a niwl tew yn rhwymyn iddo,
38:10 Pan osodais fy ngorchymyn arno, a phan osodais drosolion a dorau,
38:11 Gan ddywedyd, Hyd yma y deui, ac nid ymhellach; ac yma yr atelir ymchwydd dy donnau di.
38:12 A orchmynnaist ti y bore er dy ddyddiau? a ddangosaist ti i’r wawrddydd ei lle,
38:13 I ymaflyd yn eithafoedd y ddaear, fel yr ysgydwer yr annuwiol allan ohoni hi?
38:14 Canys hi a ymnewidia fel clai y sêl; a hwy a safant fel dillad.
38:15 Ac atelir eu goleuni oddi wrth yr annuwiol: dryllir y braich dyrchafedig.
38:16 A ddaethost ti i eigion y môr? ac a rodiaist ti yng nghilfachau y dyfnder?
38:17 A agorwyd pyrth marwolaeth i ti? neu a welaist ti byrth cysgod angau?
38:18 A ystyriaist ti led y ddaear? mynega, os adwaenost ti hi i gyd.
38:19 Pa ffordd yr eir lle y trig goleuni? a pha le y mae lle y tywyllwch,
38:20 Fel y cymerit ef hyd ei derfyn, ac y medrit y llwybrau i’w dy ef?
38:21 A wyddit ti yna y genid tydi? ac y byddai rhifedi dy ddyddiau yn fawr?
38:22 A aethost ti i drysorau yr eira? neu a welaist ti drysorau y cenllysg,
38:23 Y rhai a gedwais i hyd amser cyf-yngder, hyd ddydd ymladd a rhyfel?
38:24 Pa ffordd yr ymranna goleuni, yr hwn a wasgar y dwyreinwynt ar y ddaear?
38:25 Pwy a rannodd ddyfrlle i’r llifddyfroedd? a ffordd i fellt y taranau,
38:26 I lawio ar y ddaear lle ni byddo dyn, ar yr anialwch, sydd heb ddyn ynddo?
38:27 I ddigoni y tir diffaith a gwyllt, ac i beri i gnwd o laswellt dyfu?
38:28 A oes dad i’r glaw? neu pwy a genhedlodd ddefnynnau y gwlith?
38:29 O groth pwy y daeth yr iâ allan? a phwy a genhedlodd lwydrew y nefoedd?
38:30 Y dyfroedd a guddir megis â charreg’, ac wyneb y dyfnder a rewodd.
38:31 A rwymi di hyfrydwch Pleiades? neu a ddatodi di rwymau Orion?
38:32 A ddygi di allan Massaroth yn eu hamser? neu a dywysi di Arcturus a’i feibion?
38:33 A adwaenost ti ordeiniadau y nefoedd? a osodi di ei lywodraeth ef ar y ddaear?
38:34 A ddyrchefi di dy lef ar y cwmwl, fel y gorchuddio helaethrwydd o ddyfroedd dydi?
38:35 A ddanfoni di fellt allan, fel yr elont, ac y dywedont wrthyt, Wele ni?
38:36 Pwy a osododd ddoethineb yn yr ymysgaroedd? neu pwy a roddodd ddeall i’r galon?
38:37 Pwy a gyfrif y cymylau trwy ddoethineb? a phwy a all atal costrelau y nefoedd.
38:38 Pan droer y llwch yn dom, fel y glyno y priddellau ynghyd?
38:39 A elli di hela ysglyfaeth i’r llew? neu a elli di lenwi gwanc cenawon y llewod,
38:40 Pan ymgrymant yn eu llochesau, pan eisteddant mewn ffau i gynllwyn?
38:41 Pwy a ddarpar i’r gigfran ei bwyd? pan lefo ei chywion ar DDUW, gwibiant o eisiau bwyd.
PENNOD 39
39:1 A wyddost ti yr amser i eifr gwylltion y creigiau lydnu? a fedri di wylied yr amser y bwrw yr ewigod loi?
39:2 A gyfrifi di y misoedd a gyflawnant hwy? ac a wyddost ti yr amser y llydnant?
39:3 Ymgrymant, bwriant eu llydnod, ac ymadawant â’u gofid.