LLYFR Y PSALMAU.
PSALM 1
1:1 Gwyn ei fyd y gŵr ni rodia y’nghyngor yr annuwiolion, ac ni saif yn ffordd pechaduriaid, ac nid eistedd yn eisteddfa gwatwarwyr.
1:2 Ond sydd â’i ewyllys y’nghyfraith yr ARGLWYDD; ac yn myfyrio yn ei gyfraith ef ddydd a nos.
1:3 Ac efe a fydd fel pren wedi ei blannu ar làn afonydd dyfroedd, yr hwn a rydd ei ffrwyth yn ei bryd; a’i ddalen ni wywa; a pha beth bynnag a wnel, efe a lwydda.
1:4 Nid felly y bydd yr annuwiol; ond fel mân us yr hwn a chwal y gwynt ymaith.
1:5 Am hynny yr annuwiolion ni safant yn y farn, na phechaduriaid y’nghynulleidfa y rhai cyfiawn.
1:6 Canys yr ARGLWYDD a edwyn ffordd y rhai cyfiawn: ond ffordd yr annuwiolion a ddifethir.
PSALM 2
2:1 Paham y terfysga y cenhedloedd, ac y myfyria y bobloedd beth ofer?
2:2 Y mae brenhinoedd y ddaear yn ymosod, a’r pennaethiaid yn ymgynghori ynghyd, yn erbyn yr ARGLWYDD, ac yn erbyn ei Grist ef, gan ddywedyd,
2:3 Drylliwn eu rhwymau hwy, a thaflwn eu rheffynnau oddi wrthym.
2:4 Yr hwn sydd yn preswylio yn y nefoedd a chwardd: yr ARGLWYDD a’u gwatwar hwynt.
2:5 Yna y llefara efe wrthynt yn ei lid, ac yn ei ddigllonrwydd y dychryna efe hwynt.
2:6 Minnau a osodais fy Mrenhin ar Sïon fy mynydd sanctaidd.
2:7 Mynegaf y ddeddf: dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, Fy Mab ydwyt ti; myfi heddiw a’th genhedlais.
2:8 Gofyn i mi, a rhoddaf y cenhedloedd yn etifeddiaeth i ti, a therfynau y ddaear i’th feddiant.
2:9 Drylli hwynt â gwïalen haiarn; maluri hwynt fel llestr pridd.
2:10 Gan hynny yr awr hon, frenhinoedd, byddwch synhwyrol: barnwyr y ddaear, cymerwch ddysg.
2:11 Gwasanaethwch yr ARGLWYDD mewn ofn, ac ymlawenhêwch mewn dychryn.
2:12 Cusenwch y Mab, rhag iddo ddigio, a’ch difetha chwi o’r ffordd, pan gynneuo ei lid ef ond ychydig. Gwyn eu byd pawb a ymddiriedant ynddo ef.
PSALM 3
3:1 Psalm Dafydd, pan ffodd efe rhag Absalom ei fab. ARGLWYDD, mor aml yw fy nhrallodwyr! llawer yw y rhai sydd yn codi i’m herbyn.
3:2 Llawer yw y rhai sydd yn dywedyd am fy enaid, Nid oes iachawdwriaeth iddo yn ei DDUW. Selah.
3:3 Ond tydi, ARGLWYDD, ydwyt darian i mi; fy ngogoniant, a dyrchafydd fy mhen.
3:4 A’m llef y gelwais ar yr ARGLWYDD, ac efe a’m clybu o’i fynydd sanctaidd. Selah.
3:5 Mi a orweddais, ac a gysgais, ac a ddeffroais: canys yr ARGLWYDD a’m cynhaliodd.
3:6 Nid ofnaf fyrddiwn o bobl, y rhai o amgylch a ymosodasant i’m herbyn.
3:7 Cyfod, ARGLWYDD; achub fi, fy NUW: canys tarewaist fy holl elynion ar gar yr ên; torraist ddannedd yr annuwiolion.
3:8 Iachawdwriaeth sydd eiddo yr ARGLWYDD: dy fendith sydd ar dy bobl. Selah.
PSALM 4
4:1 I’r Pencerdd ar Neginoth, Psalm Dafydd. Gwrando fi pan alwyf, O DDUW fy nghyfiawnder: mewn cyfyngder yr ehengaist arnaf; trugarhâ wrthyf, ac erglyw fy ngweddi.
4:2 O feibion dynion, pa hyd y trowch fy ngogoniant yn warth? yr hoffwch wegi, ac yr argeisiwch gelwydd? Selah.
4:3 Ond gwybyddwch i’r ARGLWYDD neillduo y duwiol iddo ei hun: yr