ARGLWYDD a wrendy pan alwyf arno
4:4 Ofnwch, ac na phechwch: ymddiddenwch â’ch calon ar eich gwely, a thewch. Sela.
4:5 Aberthwch ebyrth cyfiawnder; a gobeithiwch yn yr ARGLWYDD.
4:6 Llawer sydd yn dywedyd, Pwy a ddengys i ni ddaioni? ARGLWYDD, dyrcha arnom lewyrch dy wyneb.
4:7 Rhoddaist lawenydd yn fy nghalon, mwy na’r amser yr amlhaodd eu hŷd a’u gwin hwynt.
4:8 Mewn heddwch hefyd y gorweddaf, ac yr hunaf: canys ti, ARGLWYDD, yn unig a wnei i mi drigo mewn diogelwch.
PSALM 5
5:1 I’r Pencerdd ar Nehiloth, Salm Dafydd. Gwrando fy ngeiriau, ARGLWYDD; deall fy myfyrdod.
5:2 Erglyw ar lef fy ngwaedd, fy Mrenin, a’m Duw: canys arnat y gweddïaf.
5:3 Yn fore, ARGLWYDD, y clywi fy llef; yn fore y cyfeiriaf fy ngweddi atat, ac yr edrychaf i fyny.
5:4 Oherwydd nid wyt ti DDUW yn ewyllysio anwiredd: a drwg ni thrig gyda thi.
5:5 Ynfydion ni safant yn dy olwg: caseaist holl weithredwyr anwiredd.
5:6 Difethi y rhai a ddywedant gelwydd: yr ARGLWYDD a ffieiddia y gŵr gwaedlyd a’r twyllodrus.
5:7 A minnau a ddeuaf ith dŷ di yn amlder dy drugaredd; ac a addolaf tua’th deml sanctaidd yn dy ofn di.
5:8 ARGLWYDD, arwain fi yn dy gyfiawnder, o achos fy ngelynion; ac uniona dy ffordd o’m blaen.
5:9 Canys nid oes uniondeb yn eu genau; eu ceudod sydd anwireddau: bedd agored yw eu ceg; gwenieithiant â’u tafod.
5:10 Distrywia hwynt, O Dduw; syrthiant oddi wrth eu cynghorion: gyr hwynt ymaith yn amlder eu camweddau: canys gwrthryfelasant i’th erbyn.
5:11 Ond llawenhaed y rhai oll a ymddiriedant ynot ti: llafarganant yn dragywydd, am i ti orchuddio drostynt: a’r rhai a garant dy enw, gorfoleddant ynot.
5:12 Canys ti, ARGLWYDD, a fendithi y cyfiawn: â charedigrwydd megis â tharian y coroni di ef.
PSALM 6
6:1 I’r Pencerdd ar Neginoth ar Seminith, Salm Dafydd. ARGLWYDD, na cherydda fi yn dy lidiowgrwydd, ac na chosba fi yn dy lid.
6:2 Trugarha wrthyf, ARGLWYDD: canys llesg ydwyf fi: iachâ fi, O ARGLWYDD, canys fy esgyrn a gystuddiwyd.
6:3 A’m henaid a ddychrynwyd yn ddirfawr: tithau, ARGLWYDD, pa hyd?
6:4 Dychwel, ARGLWYDD, gwared fy enaid: achub fi er mwyn dy drugaredd.
6:5 Canys yn angau nid oes goffa amdanat; yn y bedd pwy a’th folianna?
6:6 Diffygiais gan fy ochain; bob nos yr ydwyf yn gwneuthur fy ngwely yn foddfa: yr ydwyf fi yn gwlychu fy ngorweddfa â’m dagrau.
6:7 Treuliodd fy llygad gan ddicter: heneiddiodd oherwydd fy holl elynion.
6:8 Ciliwch oddi wrthyf, holl weithredwyr anwiredd; canys yr ARGLWYDD a glywodd lef fy wylofain.
6:9 Clybu yr ARGLWYDD fy neisyfiad: yr ARGLWYDD a dderbyn fy ngweddi.
6:10 Gwaradwydder a thralloder yn ddirfawr fy holl elynion: dychweler a chywilyddier hwynt yn ddisymwth.
PSALM 7
7:1 Sigaion Dafydd, yr hwn a ganodd efe i’r ARGLWYDD, oblegid geiriau Cus mab Jemini. ARGLWYDD fy NUW, ynot yr ymddiriedais: achub fi rhag fy holl erlidwyr a gwared fi:
7:2 Rhag iddo larpio fy enaid fel llew, gan ei rwygo, pryd na byddo gwaredydd.
7:3 ARGLWYDD fy NUW, os gwneuthum hyn; od oes anwiredd yn fy nwylo;
7:4 O thelais ddrwg i’r neb oedd heddychol â mi, (ie, mi a waredais yr hwn sydd elyn i mi heb achos;)
7:5 Erlidied y gelyn fy enaid, a go-