Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/557

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

ffos a wnaethant: yn y rhwyd a guddiasant, y daliwyd eu troed eu hun.

9:16 Adwaenir yr ARGLWYDD wrth y farn a.wna: yr annuwiol a faglwyd yng ngweithredoedd ei ddwylo ei hun. Higgaion. Sela.

9:17 Y rhai drygionus a ymchwelant i uffem, a’r holl genhedloedd a anghofiant DDUW.

9:18 Canys nid anghofir y tlawd byth: gobaith y trueiniaid ni chollir byth.

9:19 Cyfod, ARGLWYDD; na orfydded dyn: barner y cenhedloedd ger dy fron di.

9:20 Gosod, ARGLWYDD, ofn arnynt: fel y gwybyddo y cenhedloedd mai dynion ydynt. Sela.

PSALM 10

10:1 Paham, ARGLWYDD, y sefi o bell? Pam yr ymguddi yn amser cyfyngder?

10:2 Yr annuwiol mewn balchder a erlid y tlawd: dalier hwynt yn y bwriadau a ddychmygasant.

10:3 Canys yr annuwiol a ymffrostia am ewyllys ei galon; ac a fendithia y cybydd, yr hwn y mae yr ARGLWYDD yn ei ffieiddio.

10:4 Yr annuwiol, gan uchder ei ffroen, ni chais DDUW: nid yw DUW yn ei holl feddyliau ef.

10:5 Ei ffyrdd sydd flin bob amser; uchel yw dy farnedigaethau allan o’i olwg ef: chwythu y mae yn erbyn ei holl elynion.

10:6 Dywedodd yn ei galon, Ni’m symudir: oherwydd ni byddaf mewn drygfyd hyd genhedlaeth a chenhedlaeth.

10:7 Ei enau sydd yn llawn melltith, a dichell, a thwyll: dan ei dafod y mae camwedd ac anwiredd.

10:8 Y mae efe yn eistedd yng nghynllwynfa y pentrefi: mewn cilfachau y lladd efe y gwirion: ei lygaid a dremiant yn ddirgel ar y tlawd.

10:9 Efe a gynllwyna mewn dirgelwch megis llew yn ei ffau: cynllwyn y mae i ddal y tlawd: efe a ddeil y tlawd, gan ei dynnu i’w rwyd.

10:10 Efe a ymgryma, ac a ymostwng, fel y cwympo tyrfa trueiniaid gan ei gedyrn ef.

10:11 Dywedodd yn ei galon, Anghofiodd DUW: cuddiodd ei wyneb; ni wêl byth.

10:12 Cyfod, ARGLWYDD; 0O DDUW, dyrcha dy law: nac anghofia y cystuddiol.

10:13 Paham y dirmyga yr annuwiol DDUW? dywedodd yn ei galon, nid ymofynni.

10:14 Gwelaist hyn; canys ti a ganfydd anwiredd a cham, i roddi tâl a’th ddwylo dy hun: arnat ti y gedy y tlawd; ti yw cynorthwywr yr amddifad.

10:15 Tor fraich yr annuwiol a’r drygionus: cais ei ddrygioni ef hyd na chaffech ddim.

10:16 Yr ARGLWYDD sydd frenin byth ac yn dragywydd: difethwyd y cenhedloedd allan o’i dir ef.

10:17 ARGLWYDD, clywaist ddymuniad y tlodion: paratoi eu calon hwynt, gwrendy dy glust arnynt;

10:18 I farnu yr amddifad a’r gorthrymedig, fel na chwanego dyn daearol beri ofn mwyach.

PSALM 11

11:1 I’r Pencerdd, Salm Dafydd. Yn yr ARGLWYDD yr wyf yn ymddiried: pa fodd y dywedwch wrth fy enaid, Eheda i’ch mynydd fel aderyn?

11:2 Canys wele, y drygionus a anelant fwa, paratoesant eu saethau ar y llinyn i saethu yn ddirgel y rhai uniawn o galon.

11:3 Canys y seiliau a ddinistriwyd; pa beth a wna y cyfiawn?

11:4 Yr ARGLWYDD sydd yn nheml ei sancteiddrwydd; gorseddfa yr ARGLWYDD sydd yn y nefoedd: y mae ei lygaid ef yn gweled, ei amrantau yn profi meibion dynion.

11:5 Yr ARGLWYDD a brawf y cyfiawn: eithr cas gan ei enaid ef y drygionus, a’r hwn sydd hoff ganddo drawster.

11:6 Ar yr annuwiolion y glawia efe faglau, tân a brwmstan, a phoethwynt ystormus: dyma ran eu ffiol hwynt.

11:7 Canys yr ARGLWYDD cyfiawn a gâr gyfiawnder: ei wyneb a edrych ar yr uniawn.

PSALM 12

12:1 I’r Pencerdd ar Seminith, Salm Dafydd. Achub, ARGLWYDD; canys darfu y trugarog: oherwydd