pallodd y ffyddloniaid o blith meibion dynion.
12:2 Oferedd a ddywedant bob un wrth ei gymydog: â gwefus wenieithgar, ac â chalon ddauddyblyg, y llefarant.
12:3 Torred yr ARGLWYDD yr holl wefusau gwenieithus, a’r tafod a ddywedo fawrhydi:
12:4 Y rhai a ddywedant, A’n tafod y gorfyddwn; ein gwefusau sydd eiddom ni: pwy sydd arglwydd arnom ni?
12:5 Oherwydd anrhaith y rhai cystuddiedig, oherwydd uchenaid y tlodion, y cyfodaf yn awr, medd yr ARGLWYDD; rhoddaf rnewn iachawdwriaeth yr hwn y magler iddo.
12:6 Geiriau yr ARGLWYDD ydynt eiriau purion; fel arian wedi ei goethi mewn ffwrn bridd, wedi ei buro seithwaith.
12:7 Ti, ARGLWYDD, a’u cedwi hwynt: cedwi hwynt rhag y genhedlaeth hon yn dragywydd.
12:8 Yr annuwiolion a rodiant o amgylch, pan ddyrchafer y gwaelaf o feibion dynion.
SALM 13
13:1 I’r Pencerdd, Salm Dafydd. Pa hyd, ARGLWYDD, y’m hanghofi? ai yn dragywydd? pa hyd y cuddi dy wyneb rhagof?
13:2 Pa hyd y cymeraf gynghorion yn fy enaid, gan fod blinder beunydd yn fy nghalon? pa hyd y dyrchefir fy ngelyn arnaf?
13:3 Edrych, a chlyw fi, O ARGLWYDD fy NUW; ac goleua fy llygaid, rhag i mi huno yn yr angau:
13:4 Rhag dywedyd o’m gelyn, Gorchfygais ef; ac i’m gwrthwynebwyr lawenychu, os gogwyddaf.
13:5 Minnau hefyd a ymddiriedais yn dy drugaredd di; fy nghalon a ymlawenycha yn dy iachawdwriaeth: canaf i’r ARGLWYDD, am iddo synio arnaf.
SALM 14
14:1 I’r Pencerdd, Salm Dafydd. Yr ynfyd a ddywedodd yn ei galon, Nid oes un DUW. Ymlygrasant; ffieiddwaith a wnaethant: nid oes a wnêl ddaioni.
14:2 Yr ARGLWYDD a edrychodd i lawr o’r nefoedd ar feibion dynion, i weled a oedd neb deallgar, yn ymgeisio â DUW.
14:3 Ciliodd pawb; cydymddifwynasant: nid oes a wnêl ddaioni, nac oes un.
14:4 Oni ŵyr holl weithredwyr anwiredd? y rhai sydd yn bwyta fy mhobl fel y bwytaent fara: ni alwasant ar yr ARGLWYDD.
14:5 Yno y dychrynasant gan ofn; canys y mae DUW yng nghenhedlaeth y cyfiawn.
14:6 Cyngor y tlawd a waradwyddasoch chwi; am fod yr ARGLWYDD yn obaith iddo.
14:7 Pwy a ddyry iachawdwriaeth i Israel o Seion! pan ddychwelo yr ARGLWYDD gaethiwed ei bobl, yr ymhyfryda Jacob, ac y llawenha Israel.
SALM 15
15:1 Salm Dafydd. ARGLWYDD, pwy a drig yn dy babell? pwy a breswylia ym mynydd dy sancteiddrwydd?
15:2 Yr hwn a rodia yn berffaith, ac a wnêl gyfiawnder, ac a ddywed wir yn ei galon:
15:3 Heb absennu â’i dafod, heb wneuthur drwg i’w gymydog, ac heb dderbyn enllib yn erbyn ei gymydog
15:4 Yr hwn y mae y drygionus yn ddirmygus yn ei olwg; ond a anrhydedda y rhai a ofnant yr ARGLWYDD: yr hwn a dwng i’w niwed ei hun, ac ni newidia.
15:5 Yr hwn ni roddes ei arian ar usuriaeth, ac ni chymer wobr yn erbyn y gwirion. A wnelo hyn, nid ysgogir yn dragywydd.
SALM 16
16:1 Michtam Dafydd. Cadw fi, O DDUW: canys ynot yr ymddiriedaf.
16:2 Fy enaid, dywedaist wrth yr ARGLWYDD, Fy Arglwydd ydwyt ti: fy na nid yw ddim i ti:
16:3 Ond i’r saint sydd ar y ddaear, a’r rhai rhagorol, yn y rhai y mae fy holl hyfrydwch.
16:4 Gofidiau a amlhânt i’r rhai a frysiant ar ôl duw dieithr: