Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/559

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

eu diod-offrwm o waed nid offrymaf fi, ac ni chymeraf eu henwau yn fy ngwefusau.

16:5 Yr ARGLWYDD yw rhan fy etifeddiaeth, i a’m ffiol: ti a gynheli fy nghoelbren.

16:6 Y llinynnau a syrthiodd i mi mewn lleoedd hyfryd: ie, y mae i mi etifeddiaeth deg.

16:7 Bendithiaf yr ARGLWYDD, yr hwn a’m cynghorodd: fy arennau hefyd a’m dysgant y nos.

16:8 Gosodais yr ARGLWYDD bob amser ger fy mron: am ei fod ar fy neheulaw, ni’m hysgogir.

16:9 Oherwydd hynny llawenychodd fy nghalon ac ymhyfrydodd fy ngogoniant: fy nghnawd hefyd a orffwys mewn gobaith:

16:10 Canys ni adewi fy enaid yn uffern; ac ni oddefi i’th Sanct weled llygredigaeth.

16:11 Dangosi i mi lwybr bywyd: digonolrwydd llawenydd sydd ger dy fron, ar dy ddeheulaw y mae digrifwch yn dragywydd.


SALM 17

17:1 Gweddi Dafydd. Clyw, ARGLWYDD, gyfiawnder; ystyria fy llefain, gwrando fy ngweddi o wefusau didwyll.

17:2 Deued fy marn oddi ger dy fron: edryched dy lygaid at uniondeb.

17:3 Profaist fy nghalon; gofwyaist fi y nos; chwiliaist fi, ac ni chei ddim: bwriedais na throseddai fy ngenau.

17:4 Tuag at am weithredoedd dynion, wrth eiriau dy wefusau yr ymgedwais rhag llwybrau yr ysbeilydd.

17:5 Cynnal fy ngherddediad yn dy lwybrau, fel na lithro fy nhraed.

17:6 Mi a elwais arnat; canys gwrandewi arnaf fi, O DDUW: gostwng dy glust ataf, ac erglyw fy ymadrodd.

17:7 Dangos dy ryfedd drugareddau. O Achubydd y rhai a ymddiriedant ynot, rhag y sawl a ymgyfodant yn erbyn dy ddeheulaw.

17:8 Cadw fi fel cannwyll llygad: cudd fi dan gysgod dy adenydd,

17:9 Rhag yr annuwiolion, y rhai a’m gorthrymant; rhag fy ngelynion marwol, y rhai a’m hamgylchant.

17:10 Caeasant gan eu braster: â’u genau y llefarant mewn balchder.

17:11 Ein cyniweirfa ni a gylchynasant hwy yr awron: gosodasant eu llygaid i dynnu i lawr i’r ddaear.

17:12 Eu dull sydd fel llew a chwenychai ysglyfaethu, ac megis llew ieuanc yn aros mewn lleoedd dirgel.

17:13 Cyfod, ARGLWYDD, achub ei flaen ef, cwympa ef: gwared fy enaid rhag yr annuwiol, yr hwn yw dy gleddyf di;

17:14 Rhag dynion, y rhai yw dy law, ARGLWYDD, rhag dynion y byd, y rhai mae eu rhan yn y bywyd yma, a’r rhai llenwaist eu boliau â’th guddiedig drysor: llawn ydynt o feibion, a gadawant eu gweddill i’w rhai bychain.

17:15 Myfi a edrychaf ar dy wyneb mewn cyfiawnder: digonir fi, pan ddihunwyf, â’th ddelw di.


SALM 18

18:1 I’r Pencerdd, Salm Dafydd, gwas yr ARGLWYDD yr hwn a lefarodd wrth yr ARGLWYDD eiriau y gân hon, yn y dydd y gwaredodd yr ARGLWYDD ef o law ei holl elynion, ac o law Saul: ac efe a ddywedodd, Caraf di, ARGLWYDD fy nghadernid.

18:2 Yr ARGLWYDD yw fy nghraig, a’m hamddiffynfa, a’m gwaredydd; fy NUW, fy nghadernid, yn yr hwn yr ymddiriedaf fy nharian, a chorn fy iachawdwriaeth a’m huchel dŵr.

18:3 Galwaf ar yr ARGLWYDD canmoladwy felly y’m cedwir rhag fy ngelynion.

18:4 Gofidion angau a’m cylchynasant, ac afonydd y fall a’m dychrynasant i.

18:5 Gofidiau uffern a’m cylchynasant: maglau angau a achubasant fy mlaen.

18:6 Yn fy nghyfyngder y gelwais ar yr ARGLWYDD, ac y gwaeddais ar fy NUW: efe a glybu fy llef o’i deml, a’m gwaedd ger ei fron a ddaeth i’w glustiau ef.

18:7 Yna y siglodd ac y crynodd y ddaear; a seiliau y mynyddoedd a gynhyrfodd ac a ymsiglodd, am iddo ef ddigio.

18:8 Dyrchafodd mwg o’i ffroenau, a thân a ysodd o’i enau: glo a enynasant ganddo.