Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/560

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

18:9 Efe hefyd a ostyngodd y nefoedd, ac a ddisgynnodd: a thywyllwch oedd dan ei draed ef.

18:10 Marchogodd hefyd ar y ceriwb, ac a ehedodd: ie, efe a ehedodd ar adenydd y gwynt.

18:11 Efe a wnaeth dywyllwch yn ddirgelfa iddo; a’i babell o’i amgylch oedd dywyllwch dyfroedd, a thew gymylau yr awyr.

18:12 Gan y disgleirdeb oedd ger ei fron, a aethant heibio; cenllysg a marwor tanllyd.

18:13 Yr ARGLWYDD hefyd a daranodd yn y nefoedd, a’r Goruchaf a roddes ei lef; cenllysg a marwor tanllyd.

18:14 Ie, efe a anfonodd ei saethau, ac a’u gwasgarodd hwynt; ac a saethodd ei fellt, ac a’u gorchfygodd hwynt.

18:15 Gwaelodion y dyfroedd a welwyd, a seiliau y byd a ddinoethwyd gan dy gerydd di, O ARGLWYDD, a chan chwythad anadl dy ffroenau.

18:16 Anfonodd oddi uchod, cymerodd fi, tynnodd fi allan o ddyfroedd lawer.

18:17 Efe a’m gwaredodd oddi wrth fy ngelyn cadarn, a rhag fy nghaseion: canys yr oeddynt yn drech na mi.

18:18 Achubasant fy mlaen yn nydd fy ngofid; ond yr ARGLWYDD oedd gynhaliad i mi.

18:19 Dug fi hefyd i ehangder: gwaredodd fi; canys ymhoffodd ynof.

18:20 Yr ARGLWYDD a’m gobrwyodd yn ôl fy nghyfiawnder; yn ôl glendid fy nwylo y talodd efe i mi.

18:21 Canys cedwais ffyrdd yr ARGLWYDD, ac ni chiliais yn annuwiol oddi wrth fy NUW.

18:22 Oherwydd ei holl farnedigaethau ef oedd ger fy mron i, a’i ddeddfau ni fwriais oddi wrthyf.

18:23 Bûm hefyd yn berffaith gydag ef, ac ymgedwais rhag fy anwiredd.

18:24 A’r ARGLWYDD a’m gobrwyodd yn ôl fy nghyfiawnder, yn ôl purdeb fy nwylo o flaen ei lygaid ef.

18:25 A’r trugarog y gwnei drugaredd; â’r gŵr perffaith y gwnei berffeithrwydd.

18:26 A’r glân y gwnei lendid; ac â’r cyndyn yr ymgyndynni.

18:27 Canys ti a waredi y bobl gystuddiedig: ond ti a ostyngi olygon uchel.

18:28 Oherwydd ti a oleui fy nghannwyll: yr ARGLWYDD fy NUW a lewyrcha fy nhywyllwch.

18:29 Oblegid ynot ti yr hedais trwy fyddin; ac yn fy NUW y llemais dros fur.

18:30 DUW sydd berffaith ei ffordd: gair yr ARGLWYDD sydd wedi ei buro: tarian yw efe i bawb a ymddiriedant ynddo.

18:31 Canys pwy sydd DDUW heblaw yr ARGLWYDD? a phwy sydd graig ond ein DUW ni?

18:32 DUW sydd yn fy ngwregysu â nerth, ac yn gwneuthur fy ffordd yn berffaith.

18:33 Gosod y mae efe fy nhraed fel traed ewigod; ac ar fy uchelfannau y’m sefydla.

18:34 Efe sydd yn dysgu fy nwylo i ryfel; fel y dryllier bwa dur yn fy mreichiau.

18:35 Rhoddaist hefyd i mi darian dy iachawdwriaeth; a’th ddeheulaw a’m cynhaliodd, a’th fwynder a’m lluosogodd.

18:36 Ehengaist fy ngherddediad danaf; fel na lithrodd fy nhraed.

18:37 Erlidiais fy ngelynion, ac a’u goddiweddais: ac ni ddychwelais nes eu difa hwynt.

18:38 Archollais hwynt, fel na allent godi: syrthiasant dan fy nhraed.

18:39 Canys gwregysaist fi â nerth i ryfel: darostyngaist danaf y rhai a ymgododd i’m herbyn.

18:40 Rhoddaist hefyd i mi warrau fy ngelynion; fel y difethwn fy nghaseion.

18:41 Gwaeddasant, ond nid oedd achubydd - sef ar yr ARGLWYDD, ond nid atebodd efe hwynt.

18:42 Maluriais hwynt hefyd fel llwch o flaen y gwynt: teflais hwynt allan megis tom yr heolydd.

18:43 Gwaredaist fi rhag cynhennau y bobl; gosodaist fi yn ben cenhedloedd: pobl nid adnabûm a’m gwasanaethant.

18:44 Pan glywant amdanaf, ufuddhant i mi: meibion dieithr a gymerant arnynt ymddarostwng i mi.

18:45 Meibion dieithr a ballant, ac a ddychrynant allan o’u dirgel fannau.

18:46 Byw yw yr ARGLWYDD, a bendithier fy nghraig: a dyrchafer DUW fy iachawdwriaeth.

18:47 DUW sydd yn rhoddi i mi ymddial, ac a ddarostwng y bobloedd danaf.

18:48 Efe sydd yn fy ngwared oddi wrth fy ngelynion: ie, ti a’m dyrchefi uwchlaw y rhai a gyfodant i’m herbyn: achubaist fi rhag y gŵr traws.