Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/573

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

y mae fy ngwrthwynebwyr yn fy ngwaradwyddo, pan ddywedant wrthyf bob dydd, Pa le y mae dy DDUW?

42:11 Paham y’th ddarostyngir, fy enaid? a phaham y terfysgi ynof? ymddiried yn NUW; canys eto y moliannaf ef, sef iachawdwriaeth fy wyneb, a’m DUW.


SALM 43

43:1 Barn fi, O DDUW, a dadlau fy nadl yn erbyn y genhedlaeth anhrugarog: gwared fi rhag y dyn twyllodrus ac anghyfiawn.

43:2 Canys ti yw DUW fy nerth: paham y’m bwri ymaith? paham yr af yn alarus trwy orthrymder y gelyn?

43:3 Anfon dy oleuni a’th wirionedd: tywysant hwy fi; ac arweiniant fi i fynydd dy sancteiddrwydd, ac i’th bebyll.

43:4 Yna yr af at allor DUW, at DDUW hyfrydwch fy ngorfoledd; a mi a’th foliannaf ar y delyn, O DDUW, fy NUW.

43:5 Paham y’th ddarostyngir, fy enaid? a phaham y terfysgi ynof? gobeithia yn NUW; canys eto y moliannaf ef, iachawdwriaeth fy wyneb, a’m DUW.


SALM 44

44:1 I’r Pencerdd, i feibion Cora, Maschil. DUW, clywsom â’n clustiau, ein tadau a fynegasant i ni, y weithred a wnaethost yn eu hamser hwynt, yn y dyddiau gynt.

44:2 Ti â’th law a yrraist allan y cenhedloedd, ac a’u plennaist hwythau; ti a ddrygaist y bobloedd, ac a’u cynyddaist hwythau.

44:3 Canys nid â’u cleddyf eu hun y goresgynasant y tir, nid eu braich a barodd iachawdwriaeth iddynt; eithr dy ddeheulaw di, a’th fraich, a llewyrch dy wyneb, oherwydd i ti eu hoffi hwynt.

44:4 Ti, DDUW, yw fy mrenin: gorchymyn iachawdwriaeth i Jacob.

44:5 Ynot ti y cilgwthiwn ni ein gelynion: yn dy enw di y sathrwn y rhai a gyfodant i’n herbyn.

44:6 Oherwydd nid yn fy mwa yr ymddiriedaf; nid fy nghleddyf chwaith a’m hachub.

44:7 Eithr ti a’n hachubaist ni oddi wrth ein gwrthwynebwyr, ac a waradwyddaist ein caseion.

44:8 Yn NUW yr ymffrostiwn trwy y dydd; a ni a glodforwn dy enw yn dragywydd. Sela.

44:9 Ond ti a’n bwriaist ni ymaith, ac a’n gwaradwyddaist; ac nid wyt yn myned allan gyda’n lluoedd.

44:10 Gwnaethost i ni droi yn ôl oddi wrth y gelyn: a’n caseion a anrheithiasant eu hun.

44:11 Rhoddaist ni fel defaid i’w bwyta; gwasgeraist ni ymysg y cenhedloedd.

44:12 Gwerthaist dy bobl heb elw, ac ni chwanegaist dy olud o’u gwerth hwynt.

44:13 Gosodaist ni yn warthrudd i’n watwargerdd ac yn wawd i’r rhai o’n hamgylch.

44:14 Gosodaist ni yn ddihareb ymysg y cenhedloedd, yn rhai i ysgwyd pen arnynt ymysg y bobloedd.

44:15 Fy ngwarthrudd sydd beunydd ger fy mron, a chywilydd fy wyneb a’m todd:

44:16 Gan lais y gwarthruddwr a’r cablwr; oherwydd y gelyn a’r ymddialwr.

44:17 Hyn oll a ddaeth arnom; eto ni’th anghofiasom di, ac ni buom anffyddlon yn dy gyfamod.

44:18 Ni throdd ein calon yn ei hôl, ac nid aeth ein cerddediad allan o’th lwybr di;

44:19 Er i ti ein curo yn nhrigfa dreigiau, a rhoi drosom â chysgod angau.

44:20 Os anghofiasom enw ein DUW, neu estyn ein dwylo at dduw dieithr:

44:21 Oni chwilia DUW hyn allan? canys efe a ŵyr ddirgeloedd y galon.

44:22 Ie, er dy fwyn di y’n lleddir beunydd; cyfrifir ni fel defaid i’w lladd.

44:23 Deffro, paham y cysgi, O ARGLWYDD? cyfod, na fwrw ni ymaith yn dragywydd.

44:24 Paham y cuddi dy wyneb? ac yr anghofi ein cystudd a’n gorthrymder?

44:25 Canys gostyngwyd ein henaid i’r llwch: glynodd ein bol wrth y ddaear.