Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/574

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

44:26 Cyfod yn gynhorthwy i ni, a gwared ni er mwyn dy drugaredd.


SALM 45

45:1 I’r Pencerdd ar Sosannim, i feibion Cora, Maschil, Cân cariadau. Traetha fy nghalon beth da: dywedyd yr ydwyf y pethau a wneuthum i’r brenin: fy nhafod sydd bin ysgrifennydd buan.

45:2 Tecach ydwyt na meibion dynion: tywalltwyd gras ar dy wefusau: oherwydd hynny y’th fendithiodd DUW yn dragywydd.

45:3 Gwregysa dy gleddyf ar dy glun, O Gadarn, a’th ogoniant a’th harddwch.

45:4 Ac yn dy harddwch marchoga yn llwyddiannus, oherwydd gwirionedd, a lledneisrwydd, a’th ddeheulaw a ddysg i ti bethau ofnadwy.

45:5 Pobl a syrthiant danat; oherwydd dy saethau llymion yn glynu yng nghalon gelynion y Brenin.

45:6 Dy orsedd di, O DDUW, sydd byth ac yn dragywydd: teyrnwialen uniondeb yw teyrnwialen dy frenhiniaeth di.

45:7 Ceraist gyfiawnder, a chaseaist ddrygioni: am hynny y’th eneiniodd DUW, sef dy DDUW di, ag olew llawenydd yn fwy na’th gyfeillion.

45:8 Arogl myrr, aloes, a chasia, sydd ar dy holl wisgoedd: allan o’r palasau ifori, â’r rhai y’th lawenhasant.

45:9 Merched brenhinoedd oedd ymhlith dy bendefigesau: safai y frenhines ar dy ddeheulaw mewn aur coeth o Offir.

45:10 Gwrando, ferch, a gwêl, a gostwng dy glust; ac anghofia dy bobl dy hun, a thŷ dy dad.

45:11 A’r Brenin a chwennych dy degwch; canys efe yw dy Iôr di; ymostwng dithau iddo ef.

45:12 Merch Tyrus hefyd fydd yno ag anrheg; a chyfoethogion y bobl a ymbiliant â’th wyneb.

45:13 Merch y Brenin sydd oll yn ogoneddus o fewn: gemwaith aur yw ei gwisg hi.

45:14 Mewn gwaith edau a nodwydd y dygir hi at y Brenin: y morynion y rhai a ddeuant, ar ei hôl, yn gyfeillesau iddi, a ddygir atat ti.

45:15 Mewn llawenydd a gorfoledd y dygir hwynt: deuant i lys y Brenin.

45:16 Dy feibion fydd yn lle dy dadau, y rhai a wnei yn dywysogion yn yr holl dir.

45:17 Paraf gofio dy enw ym mhob cenhedlaeth ac oes: am hynny y bobl a’th folianniant byth ac yn dragywydd.


SALM 46

46:1 I’r Pencerdd o feibion Cora, Cân ar Alamoth. Duw sydd noddfa a nerth i ni, cymorth hawdd ei gael mewn cyfyngder.

46:2 Am hynny nid ofnwn pe symudai y ddaear, a phe treiglid y mynyddoedd i ganol y môr.

46:3 Er rhuo a therfysgu o’i ddyfroedd, er crynu o’r mynyddoedd gan ei ymchwydd ef. Sela.

46:4 Y mae afon, a’i ffrydiau a lawenhânt ddinas DUW; cysegr preswylfeydd y Goruchaf.

46:5 DUW sydd yn ei chanol; nid ysgog hi: DUW a’i cynorthwya yn fore iawn.

46:6 Y cenhedloedd a derfysgasant, y teyrnasoedd a ysgogasant: efe a roddes ei lef, toddodd y ddaear.

46:7 Y mae ARGLWYDD y lluoedd gyda ni; y mae DUW Jacob yn amddiffynfa i ni. Sela.

46:8 Deuwch, gwelwch weithredoedd yr ARGLWYDD; pa anghyfanhedd-dra a wnaeth efe ar y ddaear.

46:9 Gwna i ryfeloedd beidio hyd eithaf y ddaear; efe a ddryllia y bwa, ac a dyr y waywffon, efe a lysg y cerbydau â thân.

46:10 Peidiwch, a gwybyddwch mai myfi sydd DDUW: dyrchefir fi ymysg y cenhedloedd, dyrchefir fi ar y ddaear.

46:11 Y mae ARGLWYDD y lluoedd gyda ni; amddiffynfa i ni yw DUW Jacob. Sela.


SALM 47

47:1 I’r Pencerdd, Salm i feibion Cora. Yr holl bobl, curwch ddwylo; llafargenwch i DDUW â llef gorfoledd.

47:2 Canys yr ARGLWYDD goruchaf sydd ofnadwy; Brenin mawr ar yr holl ddaear.