Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/575

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

47:3 Efe a ddwg y bobl danom ni, a’r cenhedloedd dan ein traed.

47:4 Efe a ddethol ein hetifeddiaeth i ni, ardderchowgrwydd Jacob, yr hwn a hoffodd efe. Sela.

47:5 Dyrchafodd DUW â llawen floedd, yr ARGLWYDD â sain utgorn.

47:6 Cenwch fawl i DDUW, Cenwch: cenwch fawl i’n Brenin, cenwch.

47:7 Canys Brenin yr holl ddaear yw DUW: cenwch fawl yn ddeallus.

47:8 DUW sydd yn teyrnasu ar y cenhedloedd: eistedd y mae DUW ar orseddfainc ei sancteiddrwydd.

47:9 Pendefigion y bobl a ymgasglasant ynghyd, sef pobl DUW Abraham - canys tarianau y ddaear ydynt eiddo DUW, dirfawr y dyrchafwyd ef.


SALM 48

48:1 Cân a Salm i feibion Cora. Mawr yw yr ARGLWYDD, a thra moliannus, yn ninas ein DUW yn ei fynydd sanctaidd.

48:2 Tegwch bro, llawenydd yr holl ddaear, yw mynydd Seion, yn ystlysau y gogledd, dinas y Brenin mawr.

48:3 DUW yn ei phalasau a adwaenir yn amddiffynfa.

48:4 Canys, wele, y brenhinoedd a ymgynullasant, aethant heibio ynghyd.

48:5 Hwy a welsant, felly y rhyfeddasant; brawychasant, ac aethant ymaith ar ffrwst.

48:6 Dychryn a ddaeth arnynt yno, a dolur, megis gwraig yn esgor.

48:7 Â gwynt y dwyrain y drylli longau y môr.

48:8 Megis y clywsom, felly y gwelsom yn ninas ARGLWYDD y lluoedd, yn ninas ein DUW ni: DUW a’i sicrha hi yn dragywydd. Sela.

48:9 Meddyliasom, O DDUW, am dy drugaredd yng nghanol dy deml.

48:10 Megis y mae dy enw, O DDUW, felly y mae dy fawl hyd eithafoedd y tir: cyfiawn o gyfiawnder yw dy ddeheulaw.

48:11 Llawenyched mynydd Seion, ac ymhyfryded merched Jwda, oherwydd dy farnedigaethau.

48:12 Amgylchwch Seion, ac ewch o’i hamgylch hi; rhifwch ei thyrau hi.

48:13 Ystyriwch ei rhagfuriau, edrychwch ar ei phalasau; fel y mynegoch i’r oes a ddelo ar ôl.

48:14 Canys y DUW hwn yw ein DUW ni byth ac yn dragywydd: efe a’n tywys ni hyd angau.


SALM 49

49:1 I’r Pencerdd, Salm i feibion Cora. Clywch hyn, yr holl bobloedd, gwrandewch hyn, holl drigolion y byd;

49:2 Yn gystal gwreng a bonheddig, cyfoethog a thlawd ynghyd.

49:3 Fy ngenau a draetha ddoethineb; a myfyrdod fy nghalon fydd am ddeall.

49:4 Gostyngaf fy nghlust at ddihareb; fy nameg a ddatguddiaf gyda’r delyn.

49:5 Paham yr ofnaf yn amser adfyd, pan y’m hamgylchyno anwiredd fy sodlau?

49:6 Rhai a ymddiriedant yn eu golud, ac a ymffrostiant yn lluosowgrwydd eu cyfoeth.

49:7 Gan waredu ni wared neb ei frawd, ac ni all efe roddi iawn drosto i DDUW:

49:8 (Canys gwerthfawr yw pryniad eu henaid, a hynny a baid byth:)

49:9 Fel y byddo efe byw byth, ac na welo lygredigaeth.

49:10 Canys efe a wêl fod y doethion yn yr un ffunud y derfydd am ffôl ac ynfyd, gadawant eu golud i eraill.

49:11 Eu meddwl yw, y pery eu tai yn dragywydd, a’u trigfeydd hyd genhedlaeth a chenhedlaeth: enwant eu tiroedd ar eu henwau eu hunain.

49:12 Er hynny dyn mewn anrhydedd, nid erys: tebyg yw i anifeiliaid a ddifethir.

49:13 Eu ffordd yma yw eu hynfydrwydd: eto eu hiliogaeth ydynt fodlon i’w hymadrodd. Sela.

49:14 Fel defaid y gosodir hwynt yn uffern; angau a ymborth arnynt; a’r rhai a lywodraetha arnynt y bore; a’u tegwch a dderfydd yn y bedd, o’u cartref.

49:15 Eto DUW a wared fy enaid i o feddiant uffern: canys efe a’m derbyn i. Sela.

49:16 Nac ofna pan gyfoethogo un, pan ychwanego gogoniant ei dŷ ef:

49:17 Canys wrth farw ni ddwg efe ddim ymaith, ac ni ddisgyn ei ogoniant ar ei ôl ef.