Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/576

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

49:18 Er iddo yn ei fywyd fendithio ei enaid: canmolant dithau, o byddi da wrthyt dy hun.

49:19 Efe a â at genhedlaeth ei dadau, ac ni welant oleuni byth.

49:20 Dyn mewn anrhydedd, ac heb ddeall, sydd gyffelyb i anifeiliaid a ddifethir.


SALM 50

50:1 Salm Asaff. DUW y duwiau, sef yr ARGLWYDD, a lefarodd, ac a alwodd y ddaear, o godiad haul hyd ei fachludiad.

50:2 Allan o Seion, perffeithrwydd tegwch, y llewyrchodd DUW.

50:3 Ein DUW ni a ddaw, ac ni bydd distaw: tân a ysa o’i flaen ef, a thymestl ddirfawr fydd o’i amgylch.

50:4 Geilw at y nefoedd oddi uchod, ac ar y ddaear, i farnu ei bobl.

50:5 Cesglwch fy saint ynghyd ataf fi, y rhai a wnaethant gyfamod â mi trwy aberth.

50:6 A’r nefoedd a fynegant ei gyfiawnder ef: canys DUW ei hun sydd Farnwr. Sela.

50:7 Clywch, fy mhobl, a mi a lefaraf; O Israel, a mi a dystiolaethaf i’th erbyn: DUW, sef dy DDUW di, ydwyf fi.

50:8 Nid am dy aberthau y’th geryddaf, na’th boethoffrymau, am nad oeddynt ger fy mron i yn wastad.

50:9 Ni chymeraf fustach o’th dŷ, na bychod o’th gorlannau.

50:10 Canys holl fwystfilod y coed ydynt eiddof fi, a’r anifeiliaid ar fil o fynyddoedd.

50:11 Adwaen holl adar y mynyddoedd: a gwyllt anifeiliaid y maes ydynt eiddof fi.

50:12 Os bydd newyn arnaf, ni ddywedaf i ti: canys y byd a’i gyfiawnder sydd eiddof fi.

50:13 A fwytfâf fi gig teirw? neu a yfaf fi waed bychod?

50:14 Abertha foliant i DDUW; a thâl i’r Goruchaf dy addunedau:

50:15 A galw arnaf fi yn nydd trallod: mi a’th waredaf, a thi a’m gogoneddi.

50:16 Ond wrth yr annuwiol y dywedodd DUW, Beth sydd i ti a fynegech ar fy neddfau, neu a gymerech ar fy nghyfamod yn dy enau?

50:17 Gan dy fod yn casáu addysg, ac yn taflu fy ngeiriau i’th ôl.

50:18 Pan welaist leidr, cytunaist ag ef; a’th gyfran oedd gyda’r godinebwyr.

50:19 Gollyngaist dy safn i ddrygioni, a’th dafod a gydbletha ddichell.

50:20 Eisteddaist a dywedaist yn erbyn dy frawd: rhoddaist enllib i fab dy fam.

50:21 Hyn a wnaethost, a mi a dewais: tybiaist dithau fy mod yn gwbl fel ti dy hun: ond mi a’th argyhoeddaf, ac a’u trefnaf o flaen dy lygaid.

50:22 Deellwch hyn yn awr, y rhai ydych yn anghofio DUW; rhag i mi eich rhwygo, ac na byddo gwaredydd.

50:23 Yr hwn a abertho foliant, a’m gogonedda i: a’r neb a osodo ei ffordd yn iawn, dangosaf iddo iachawdwriaeth DUW.


SALM 51

51:1 I’r Pencerdd, Salm Dafydd, pan ddaeth Nathan y proffwyd ato, wedi iddo fyned i mewn at Bathseba. Trugarha wrthyf, O DDUW, yn ôl dy drugarowgrwydd:, yn ôl lliaws dy dosturiaethau, dilea fy anwireddau.

51:2 Golch fi yn llwyr ddwys oddi wrth fy anwiredd, a glanha fi oddi wrth fy mhechod.

51:3 Canys yr wyf yn cydnabod fy nghamweddau: a’m pechod rydd yn wastad ger fy mron.

51:4 Yn dy erbyn di, dydi dy hunan, y pechais ac y gwneuthum y drwg hwn yn dy olwg: fel y’th gyfiawnhaer pan leferych, ac y byddit bur pan farnech.

51:5 Wele, mewn anwiredd y’m lluniwyd; ac mewn pechod y beichiogodd fy mam arnaf.

51:6 Wele, ceraist wirionedd oddi mewn: a pheri i mi wybod doethineb yn y dirgel.

51:7 Glanha fi ag isop, a mi a lanheir: golch fi, a byddaf wynnach na’r eira.

51:8 Pâr i mi glywed gorfoledd a llawenydd; fel y llawenycho yr esgyrn a ddrylliaist.