Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/577

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

51:9 Cuddia dy wyneb oddi wrth fy mhechodau, a dilea fy holl anwireddau.

51:10 Crea galon lân ynof, O DDUW; ac adnewydda ysbryd uniawn o’m mewn.

51:11 Na fwrw fi ymaith oddi ger dy fron; ac na chymer dy ysbryd sanctaidd oddi wrthyf.

51:12 Dyro drachefn i mi orfoledd dy iachawdwriaeth; ac â’th hael ysbryd cynnal fi.

51:13 Yna y dysgaf dy ffyrdd i rai anwir; a phechaduriaid a droir atat.

51:14 Gwared fi oddi wrth waed, O DDUW, DUW fy iachawdwriaeth: a’m tafod a gân yn llafar am dy gyfiawnder.

51:15 ARGLWYDD, agor fy ngwefusau, a’m genau a fynega dy foliant.

51:16 Canys ni chwenychi aberth; pe amgen, mi a’i rhoddwn: poethoffrwm ni fynni.

51:17 Aberthau DUW ydynt ysbryd drylliedig: calon ddrylliog gystuddiedig, O DDUW, ni ddirmygi.

51:18 Gwna ddaioni yn dy ewyllysgarwch i Seion: adeilada furiau Jerusalem.

51:19 Yna y byddi fodlon i ebyrth cyfiawnder, i boethoffrwm ac aberth llosg: yna yr offrymant fustych ar dy allor.


SALM 52

52:1 I’r Pencerdd, Maschil, Salm Dafydd, pan ddaeth Doeg yr Edomiad a mynegi i Saul, a dywedyd wrtho, Daeth Dafydd i dŷ Ahimelech. Paham yr ymffrosti mewn drygioni, O gadarn? y mae trugaredd DUW yn parhau yn wastadol.

52:2 Dy dafod a ddychymyg ysgelerder; fel ellyn llym, yn gwneuthur twyll.

52:3 Hoffaist ddrygioni yn fwy na daioni; a chelwydd yn fwy na thraethu cyflawnder. Sela.

52:4 Hoffaist bob geiriau distryw, O dafod twyllodrus.

52:5 DUW a’th ddistrywia dithau yn dragywydd: efe a’th gipia di ymaith, ac a’th dynn allan o’th babell, ac a’th ddiwreiddia o dir y rhai byw. Sela.

52:6 Y cyfiawn hefyd a welant, ac a ofnant, ac a chwarddant am ei ben.

52:7 Wele y gŵr ni osododd DDUW yn gadernid iddo; eithr ymddiriedodd yn lluosowgrwydd ei olud, ac a ymnerthodd yn ei ddrygioni.

52:8 Ond myfi sydd fel olewydden werdd yn nhŷ DDUW: ymddiriedaf yn nhrugaredd DUW byth ac yn dragywydd.

52:9 Clodforaf di yn dragywydd, oherwydd i ti wneuthur hyn: a disgwyliaf wrth dy enw; canys da yw gerbron dy saint.


SALM 53

53:1 I'r Pencerdd ar y Mahalath, Maschil, Salm Dafydd. Dywedodd yr ynfyd yn ei galon, Nid oes un Duw. Ymlygrasant, a gwnaethant ffiaidd anwiredd: nid oes un yn gwneuthur daioni.

53:2 Edrychodd Duw i lawr o'r nefoedd ar feibion dynion, i edrych a oedd neb yn ddeallus, ac yn ceisio Duw.

53:3 Ciliasai pob un ohonynt yn wysg ei gefn: cydymddifwynasent; nid oes a wnêl ddaioni, nac oes un.

53:4 Oni ŵyr gweithredwyr anwiredd? y rhai sydd yn bwyta fy mhobl, fel y bwytaent fara: ni alwasant ar DDUW.

53:5 Yno yr ofnasant gan ofn, lle nid oedd ofn: canys DUW a wasgarodd esgyrn yr hwn a'th warchaeodd: gwdradwyddaist hwynt am i DDUW eu dirmygu hwy.

53:6 O na roddid iachawdwriaeth i Israel o Seion! pan ymchwelo Duw gaethiwed ei bobl, y llawenycha Jacob, ac yr ymhyfryda Israel.


SALM 54

54:1 I’r Pencerdd ar Neginoth, Maschib Salm Dafydd, pan ddaeth y Siffiaid a dywedyd wrth Saul. Onid ydyw Dafydd yn ymguddio gyda ni? Achub fi, O DDUW, yn dy enw; a barn fi yn dy gadernid.

54:2 DUW, clyw fy ngweddi; gwrando ymadrodd fy ngenau.

54:3 Canys dieithriaid a gyfodasant i’m herbyn, a’r trawsion a geisiant fy enaid: ni osodasant DDUW o’u blaen. Sela.