Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/578

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

54:4 Wele, DUW sydd yn fy nghynorthwyo: yr Arglwydd sydd ymysg y rhai a gynhaliant fy enaid.

54:5 Efe a ddâl ddrwg i’m gelynion: tor hwynt ymaith yn dy wirionedd.

54:6 Aberthaf i ti yn ewyllysgar: clodforaf dy enw, O ARGLWYDD; canys da yw.

54:7 Canys efe a’m gwaredodd o bob trallod; a’m llygad a welodd ei ewyllys ar fy ngelynion.


SALM 55

55:1 I’r Pencerdd ar Neginoth, Maschil, Salm Dafydd Gwrando fy ngweddi, O DDUW; ac ymguddia rhag fy neisyfiad.

55:2 Gwrando arnaf, ac erglyw fi: cwynfan yr ydwyf yn fy ngweddi, a thuchan,

55:3 Gan lais y gelyn, gan orthrymder yr annuwiol: oherydd y maent yn bwrw arnaf, ac yn fy nghasáu yn llidiog.

55:4 Fy nghalon a ofidia o’m mewn: ac ofn angau a syrthiodd arnaf.

55:5 Ofn ac arswyd a ddaeth arnaf, a dychryn a’m gorchuddiodd.

55:6 A dywedais, O na bai i mi adenydd fel colomen! yna yr ehedwn ymaith, ac y gorffwyswn.

55:7 Wele, crwydrwn ymhell, ac arhoswn yn yr anialwch. Sela.

55:8 Brysiwn i ddianc, rhag y gwynt ystormus a’r dymestl.

55:9 Dinistria, O ARGLWYDD, a gwahan eu tafodau: canys gwelais drawster a chynnen yn y ddinas.

55:10 Dydd a nos yr amgylchant hi ar ei muriau: ac y mae anwiredd a blinder yn ei chanol hi.

55:11 Anwireddau sydd yn ei chanol hi; ac ni chilia twyll a dichell o’i heolydd hi.

55:12 Canys nid gelyn a’m difenwodd; yna y dioddefaswn: nid fy nghasddyn a ymfawrygodd i’m herbyn; yna mi a ymguddiasiwn rhagddo ef:

55:13 Eithr tydi, ddyn, fy nghydradd, fy fforddwr, a’m cydnabod,

55:14 Y rhai oedd felys gennym gydgyfrinachu, ac a rodiasom i dŷ DDUW ynghyd.

55:15 Rhuthred marwolaeth arnynt, a disgynnant i uffern yn fyw: canys drygioni sydd yn eu cartref, ac yn eu mysg.

55:16 Myfi a waeddaf ar DDUW; a’r ARGLWYDD a’m hachub i.

55:17 Hwyr a bore, a hanner dydd, y gweddïaf, a byddaf daer: ac efe a glyw fy lleferydd.

55:18 Efe a waredodd fy enaid mewn heddwch oddi wrth y rhyfel oedd i’m herbyn: canys yr oedd llawer gyda mi.

55:19 DUW a glyw, ac a’u darostwng hwynt, yr hwn sydd yn aros erioed: Sela: am nad oes gyfnewidiau iddynt, am hynny nid ofnant DDUW.

55:20 Efe a estynnodd ei law yn erbyn y rhai oedd heddychlon ag ef: efe a dorrodd ei gyfamod.

55:21 Llyfnach oedd ei enau nag ymenyn, a rhyfel yn ei galon: tynerach oedd ei eiriau nag olew, a hwynt yn gleddyfau noethion.

55:22 Bwrw dy faich ar yr ARGLWYDD, ac efe a’th gynnal di: ni ad i’r cyfiawn ysgogi byth.

55:23 Tithau, DDUW, a’u disgynni hwynt i bydew dinistr: gwŷr gwaedlyd a thwyllodrus ni byddant byw hanner eu dyddiau; ond myfi a obeithiaf ynot ti.


SALM 56

56:1 I’r Pencerdd ar Jonath-Elem-Rechocim, Michtam Dafydd, pan ddaliodd y Philistiaid ef yn Gath. Trugarha wrthyf, O DDUW: canys a’m llyncai: beunydd, gan ymladd, y’m gorthryma.

56:2 Beunydd y’m llyncai fy ngelynion: canys llawer sydd yn rhyfela i’m herbyn, O DDUW Goruchaf.

56:3 Y dydd yr ofnwyf, mi a ymddiriedaf ynot ti.

56:4 Yn NUW y clodforaf ei air, yn NUW y gobeithiaf; nid ofnaf beth a wnêl cnawd i mi.

56:5 Beunydd y camgymerant fy ngeiriau: eu holl feddyliau sydd i’m herbyn er drwg.

56:6 Hwy a ymgasglant, a lechant, ac a wyliant fy nghamre, pan ddisgwyliant am fy enaid.

56:7 A ddihangant hwy trwy anwiredd? disgyn y bobloedd hyn, O DDUW, yn dy lidiowgrwydd.

56:8 Ti a gyfrifaist fy symmudiadau: