dod fy nagrau yn dy gostrel: onid ydynt yn dy lyfr di?
56:9 Y dydd y llefwyf arnat, yna y dychwelir fy ngelynion yn eu gwrthol: hyn a wn; am fod DUW gyda mi.
56:10 Yn NUW y moliannaf ei air: yn yr ARGLWYDD y moliannaf ei air.
56:11 Yn NUW yr ymddiriedais: nid ofnaf beth a wnêl dyn i mi.
56:12 Arnaf fi, O DDUW, y mae dy addunedau: talaf i ti foliant.
56:13 Canys gwaredaist fy enaid rhag angau: oni waredi fy nhraed rhag syrthio, fel y rhodiwyf gerbron DUW yng ngoleuni y rhai byw?
SALM 57
57:1 I'r Pencerdd, Al-taschith, Michtam. Dafydd, pan ffodd rhag Saul i'r ogof. Trugarha wrthyf, O DDUW, trugarha wrthyf: canys ynot y gobeithiodd fy enaid; ie, yng nghysgod dy adenydd y gobeithiaf, hyd onid êl yr aflwydd hwn heibio.
57:2 Galwaf ar DDUW Goruchaf; ar DDUW a gwblha â mi.
57:3 Efe a enfyn o'r nefoedd, ac a’m gwared oddi wrth warthrudd yr hwn a’m llyncai. Sela. Denfyn Duw ei drugaredd a’i wirionedd.
57:4 Fy enaid sydd ymysg llewod: gorwedd yr wyf ymysg dynion poethion, sef meibion dynion, y rhai y mae eu dannedd yn waywffyn a saethau, a'u tafod yn gleddyf llym.
57:5 Ymddyrcha, DDUW, uwch y nefoedd; a bydded dy ogoniant ar yr holl ddaear.
57:6 Darparasant rwyd i'm traed; crymwyd fy enaid; cloddiasant bydew o’m blaen; syrthiasant yn ei ganol. Sela.
57:7 Parod yw fy nghalon, O DDUW, parod yw fy nghalon: canaf a chanmolaf.
57:8 Deffro, fy ngogoniant; deffro, nabl a thelyn: deffroaf yn fore.
57:9 Clodforaf di, ARGLWYDD, ymysg bobloedd: canmolaf di ymysg y cenhedloedd.
57:10 Canys mawr yw dy drugaredd hyd y nefoedd, a'th wirionedd hyd y cymylau.
57:11 Ymddyrcha, DDUW, uwch y nefoedd; a bydded dy ogoniant ar yr ddaear.
SALM 58
58:1 I’r Pencerdd, Al-taschith, Michtam Dafydd. Ai cyfiawnder yn ddiau a draethwch chwi, O gynulleidfa? a fernwch uniondeb, O feibion dynion?
58:2 Anwiredd yn hytrach a weithredwch yn y galon: trawster eich dwylo yr ydych yn ei bwyso ar y ddaear.
58:3 O’r groth yr ymddieithriodd yr annuwiol: o’r bru y cyfeiliornasant, gan ddywedyd celwydd.
58:4 Eu gwenwyn sydd fel gwenwyn sarff: y maent fel y neidr fyddar yr hon a gae ei chlustiau;
58:5 Yr hon ni wrendy ar lais y rhinwyr, er cyfarwydded fyddo y swynwr.
58:6 Drylla, O DDUW, eu dannedd yn eu geneuau: tor, O ARGLWYDD, gilddannedd y llewod ieuainc.
58:7 Todder hwynt fel dyfroedd sydd yn rhedeg yn wastad: pan saetho eu saethau, byddant megis wedi eu torri.
58:8 Aed ymaith fel malwoden dawdd, neu erthyl gwraig; fel na welont yr haul.
58:9 Cyn i’ch crochanau glywed y mieri, efe a’u cymer hwynt ymaith megis â chorwynt, yn fyw, ac yn ei ddigofaint.
58:10 Y cyfiawn a lawenycha pan welo ddial: efe a ylch ei draed yng ngwaed yr annuwiol.
58:11 Fel y dywedo dyn, Diau fod ffrwyth i’r cyfiawn: diau fod DUW a farna ar y ddaear.
SALM 59
59:1 I’r pencerdd, Al-taschith, Michtam Dafydd, pan yrrodd Saul rai i gadw y tŷ i’w ladd ef. Fy NUW, gwared fi oddi wrth fy ngelynion: amddiffyn fi oddi wrth y rhai a ymgyfodant i’m herbyn.
59:2 Gwared fi oddi wrth weithredwyr anwiredd, ac achub fi rhag y gwŷr gwaedlyd.
59:3 Canys wele, cynllwynasant yn erbyn fy enaid: ymgasglodd ced-