Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/580

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

yrn i’m herbyn; nid ar fy mai na’m pechod i, O ARGLWYDD.

59:4 Rhedant, ymbaratoant, heb anwiredd ynof fi: deffro dithau i’m cymorth, ac edrych.

59:5 A thi, ARGLWYDD DDUW y lluoedd, DUW Israel, deffro i ymweled â’r holl genhedloedd: na thrugarha wrth neb a wnânt anwiredd yn faleisus. Sela.

59:6 Dychwelant gyda’r hwyr, cyfarthant fel cŵn, ac amgylchant y ddinas.

59:7 Wele, bytheiriant â’u genau: cleddyfau sydd yn eu gwefusau: canys pwy, meddant, a glyw?

59:8 Ond tydi, O ARGLWYDD, a’u gwatweri hwynt; ac a chwerddi am ben yr holl genhedloedd.

59:9 Oherwydd ei nerth ef, y disgwyliaf wrthyt ti: canys DUW yw fy amddiffynfa.

59:10 Fy NUW trugarog a’m rhagflaena: DUW a wna i mi weled fy ewyllys ar fy ngelynion.

59:11 Na ladd hwynt, rhag i’m pobl anghofio: gwasgar hwynt yn dy nerth, a darostwng hwynt, O ARGLWYDD ein tarian.

59:12 Am bechod eu genau, ac ymadrodd eu gwefusau, dalier hwynt yn eu balchder: ac am y felltith a’r celwydd a draethant.

59:13 Difa hwynt yn dy lid, difa, fel na byddont: a gwybyddant mai DUW sydd yn llywodraethu yn Jacob, hyd eithafoedd y ddaear. Sela.

59:14 A dychwelant gyda’r hwyr, a chyfarthant fel cŵn, ac amgylchant y ddinas.

59:15 Crwydrant am fwyd; ac onis digonir, grwgnachant.

59:16 Minnau a ganaf am dy nerth, ie, llafarganaf am dy drugaredd yn fore: canys buost yn amddiffynfa i mi, ac yn noddfa yn y dydd y bu cyfyngder arnaf.

59:17 I ti, fy nerth, y canaf; canys DUW yw fy amddiffynfa, a DUW fy nhrugaredd.


SALM 60

60:1 I’r Pencerdd ar Susan-eduth, Michtam Dafydd, i ddysgu; pan ymladdodd yn erbyn Syriaid Mesopotamia, a Syriaid Soba, pan ddychwelodd Joab, a lladd deuddeng mil o’r Edomiaid yn nyffryn yr halen. DDUW, bwriaist ni ymaith, gwasgeraist ni, a sorraist: dychwel atom drachefn.

60:2 Gwnaethost i’r ddaear grynu, a holltaist hi: iachâ ei briwiau; canys y mae yn crynu.

60:3 Dangosaist i’th bobl galedi: diodaist ni â gwin madrondod.

60:4 Rhoddaist faner i’r rhai a’th ofnant, i’w dyrchafu oherwydd y gwirionedd. Sela.

60:5 Fel y gwareder dy rai annwyl: achub â’th ddeheulaw, a gwrando fi.

60:6 DUW a lefarodd yn ei sancteiddrwydd, Llawenychaf: rhannaf Sichem, a mesuraf ddyffryn Succoth.

60:7 Eiddof fi yw Gilead, ac eiddof fi Manasse: Effraim hefyd yw nerth fy mhen; Jwda yw fy neddfwr.

60:8 Moab yw fy nghrochan golchi; dros Edom y bwriaf fy esgid: Philistia, ymorfoledda di o’m plegid i.

60:9 Pwy a’m dwg i’r ddinas gadarn? pwy a’m harwain hyd yn Edom?

60:10 Onid tydi, DDUW, yr hwn a’n bwriaist ymaith? a thydi, O DDUW, yr hwn nid ait allan gyda’n lluoedd?

60:11 Moes i ni gynhorthwy rhag cyfyngder: canys ofer yw ymwared dyn.

60:12 Yn NUW y gwnawn wroldeb: canys efe a sathr ein gelynion.


SALM 61

61:1 I’r Pencerdd ar Neginoth, Salm Dafydd. Clyw, O DDUW, fy llefain; gwrando ar fy ngweddi.

61:2 O eithaf y ddaear y llefaf atat, pan lesmeirio fy nghalon: arwain fi i graig a fyddo uwch na mi.

61:3 Canys buost yn noddfa i mi, ac yn dŵr cadarn rhag y gelyn.

61:4 Preswyliaf yn dy babell byth: a’m hymddiried fydd dan orchudd dy adenydd. Sela.

61:5 Canys ti, DDUW, a llywaist fy addunedau: rhoddaist etifeddiaeth i’r rhai a ofnant dy enw.

61:6 Ti a estynni oes y Brenin; ei flynyddoedd fyddant fel cenedlaethau lawer.

61:7 Efe a erys byth gerbron DUW; darpar drugaredd a gwirionedd, fel y cadwont ef.

61:8 Felly y canmolaf dy enw yn dragywydd, fel y talwyf fy addunedau beunydd.