Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/582

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

64:10 Y cyfiawn a lawenycha yn yr ARGLWYDD, ac a obeithia ynddo; a'r rhai uniawn o galon oll a orfoleddant.


SALM 65

65:1 I'r Pencerdd, Salm a Chân Dafydd. Mawl a’th erys di yn Seion, O DDUW: ac i ti y telir yr adduned.

65:2 Ti yw yr hwn a wrandewi weddi, atat ti y daw pob cnawd.

65:3 Pethau anwir a’m gorchfygasant: ein camweddau ni, ti a’u glanhei.

65:4 Gwyn ei fyd yr hwn a ddewisech, ac a nesaech atat; fel y trigo yn dy gynteddoedd: nyni a ddigonir â daioni dy dŷ, sef dy deml sanctaidd.

65:5 Atebi i ni trwy bethau ofnadwy, yn dy gyfiawnder, O DDUW ein hiachawdwriaeth; gobaith holl gyrrau y ddaear, a’r rhai sydd bell ar y môr.

65:6 Yr hwn a sicrha y mynyddoedd trwy ei nerth, ac a wregysir â chadernid.

65:7 Yr hwn a ostega dwrf y moroedd, twrf eu tonnau, a therfysg y bobloedd.

65:8 A phreswylwyr eithafoedd y byd a ofnant dy arwyddion: gwnei i derfyn bore a hwyr lawenychu.

65:9 Yr wyt yn ymweled â'r ddaear, ac yn ei dyfrhau hi; yr ydwyt yn ei chyfoethogi hi yn ddirfawr ag afon DUW, yr hon sydd yn llawn dwfr: yr wyt yn paratoi ŷd iddynt, pan ddarperaist felly iddi.

65:10 Gan ddyfrhau ei chefnau, a gostwng ei rhychau, yr ydwyt yn ei mwydo hi â chafodau, ac yn bendithio ei chnwd hi.

65:11 Coroni yr ydwyt y flwyddyn â’th ddaioni; a'th lwybrau a ddiferant fraster.

65:12 Diferant ar borfeydd yr anialwch: a'r bryniau a ymwgregysant â hyfrydwch.

65:13 Y dolydd a wisgir â defaid, a'r dyffrynnoedd a orchuddir ag ŷd; am hynny y bloeddiant, ac y canant.


SALM 66

66:1 I'r Pencerdd, Cân neu Salm. Llawenfloeddiwch i DDUW, yr holl ddaear:

66:2 Datgenwch ogoniant ei enw: gwnewch ei foliant yn ogoneddus.

66:3 Dywedwch wrth DDUW, Mor ofnadwy wyt yn dy weithredoedd! oherwydd maint dy nerth, y cymer dy elynion arnynt fod yn ddarostyngedig i ti.

66:4 Yr holl ddaear a’th addolant di, ac a ganant i ti; ie, canant i’th enw. Sela.

66:5 Deuwch, a gwelwch weithredoedd DUW: ofnadwy yw yn ei weithred tuag at feibion dynion.

66:6 Trodd efe y môr yn sychdir: aethant trwy yr afon ar draed: yna y llawenychasom ynddo.

66:7 Efe a lywodraetha trwy ei gadernid byth; ei lygaid a edrychant at y cenhedloedd: nac ymddyrchafed y rhai anufudd. Sela.

66:8 O bobloedd, bendithiwch ein DUW, a pherwch glywed llais ei fawl ef.

66:9 Yr hwn sydd yn gosod ein henaid mewn bywyd, ac ni ad i'n troed lithro.

66:10 Canys profaist ni, O DDUW: coethaist, fel coethi arian.

66:11 Dygaist ni i’r rhwyd: gosodaist wasgfa at ein llwynau.

66:12 Peraist i ddynion farchogaeth ar ein pennau; aethom trwy y tân a'r dwfr: a thi a'n dygaist allan i le diwall.

66:13 Deuaf i'th dŷ ag offrymau poeth: talaf i ti fy addunedau,

66:14 Y rhai a adroddodd fy ngwefusau, ac a ddywedodd fy ngenau yn fy nghyfyngder.

66:15 Offrymaf i ti boethoffrymau breision, ynghyd ag arogl-darth hyrddod; aberthaf ychen a bychod. Sela.

66:16 Deuwch, gwrandewch, y rhai oll a ofnwch DDUW; a mynegaf yr hyn a wnaeth efe i'm henaid.

66:17 Llefais arno â’m genau, ac efe a ddyrchafwyd â’m tafod.

66:18 Pe edrychaswn ar anwiredd yn fy nghalon, ni wrandawsai yr Arglwydd.

66:19 DUW yn ddiau a glybu, ac a wrandawodd ar lais fy ngweddi

66:20 Bendigedig fyddo DUW, yr hwn ni throdd fy ngweddi oddi wrtho, na’i drugaredd ef oddi wrthyf finnau.