SALM 67
67:1 I’r Pencerdd ar Neginoth, Salm neu Gân. DUW a drugarhao wrthym, ac a’n bendithio; a thywynned ei wyneb arnom: Sela:
67:2 Fel yr adwaener dy ffordd ar y ddaear, a’th iachawdwriaeth ymhlith yr holl genhedloedd.
67:3 Molianned y bobl di, O DDUW; molianned yr holl bobl dydi.
67:4 Llawenhaed y cenhedloedd, a byddant hyfryd: canys ti a ferni y bobl yn uniawn, ac a lywodraethi y cenhedloedd ar y ddaear. Sela.
67:5 Molianned y bobl di, O DDUW; molianned yr holl bobl dydi.
67:6 Yna y ddaear a rydd ei ffrwyth; a DUW, sef ein DUW ni, a’n bendithia.
67:7 DUW a’n bendithia; a holl derfynau y ddaear a’i hofnant ef.
SALM 68
68:1 I’r Pencerdd, Salm neu Gân Dafydd. Cyfoded DUW, gwasgarer ei elynion: a ffoed ei gaseion o’i flaen ef.
68:2 Chweli hwynt fel chwalu mwg: fel y tawdd cwyr wrth y tân, difether y rhai annuwiol o flaen DUW.
68:3 Ond llawenycher y rhai cyfiawn, a gorfoleddant gerbron DUW; a byddant hyfryd o lawenydd.
68:4 Cenwch i DDUW, canmolwch ei enw: dyrchefwch yr hwn sydd yn marchogaeth ar y nefoedd, a’i enw yn JAH, a gorfoleddwch ger ei fron ef.
68:5 Tad yr amddifaid, a Barnwr y gweddwon, yw DUW, yn ei breswylfa sanctaidd.
68:6 DUW sydd yn gosod yr unig mewn teulu: yn dwyn allan y rhai a rwymwyd mewn gefynnau; ond y rhai cyndyn a breswyliant grastir.
68:7 Pan aethost, O DDUW, O flaen dy bobl, pan gerddaist trwy yr anialwch; Sela:
68:8 Y ddaear a grynodd, a’r nefoedd a ddiferasant o flaen DUW: Sinai yntau a grynodd o flaen DUW, sef DUW Israel.
68:9 Dihidlaist law graslon, O DDUW, at dy etifeddiaeth: ti a’i gwrteithiaist wedi ei blino.
68:10 Dy gynulleidfa di sydd yn trigo ynddi: yn dy ddaioni, O DDUW, yr wyt yn darparu i’r tlawd.
68:11 Yr ARGLWYDD a roddes y gair; mawr oedd mintai y rhai a’i pregethent.
68:12 Brenhinoedd byddinog a ffoesant ar ffrwst: a’r hon a drigodd yn tŷ, rannodd yr ysbail.
68:13 Er gorwedd ohonoch ymysg y crochanau, byddwch fel esgyll colomen wedi eu gwisgo ag arian, a’i hadenydd ag aur melyn.
68:14 Pan wasgarodd yr Hollalluog frenhinoedd ynddi, yr oedd hi yn wen fel eira yn Salmon.
68:15 Mynydd DUW sydd fel mynydd Basan; yn fynydd cribog fel mynydd Basan.
68:16 Paham y llemwch, chwi fynyddoedd cribog? dyma y mynydd a chwenychodd DUW ei breswylio; ie, preswylia yr ARGLWYDD ynddo byth.
68:17 Cerbydau DUW ydynt ugain mil, sef miloedd o angylion: yr Arglwydd sydd yn eu plith, megis yn Sinai yn y cysegr.
68:18 Dyrchefaist i’r uchelder, caethgludaist gaethiwed: derbyniaist roddion i ddynion; ie, i’r rhai cyndyn hefyd, fel yr ARGLWYDD DDUW yn eu plith.
68:19 Bendigedig fyddo yr Arglwydd, yr hwn a’n llwytha beunydd â daioni; sef DUW ein hiachawdwriaeth. Sela.
68:20 Ein DUW ni sydd DDUW iachawdwriaeth; ac i’r ARGLWYDD DDUW y perthyn diangfâu rhag marwolaeth.
68:21 DUW yn ddiau a archolla ben ei elynion; a chopa walltog yr hwn a rodio rhagddo yn ei gamweddau.
68:22 Dywedodd yr Arglwydd, Dygaf fy mhobl drachefn o Basan, dygaf hwynt drachefn o ddyfnder y môr;
68:23 Fel y trocher dy droed yng ngwaed dy elynion, a thafod dy gŵn yn yr unrhyw.
68:24 Gwelsant dy fynediad, O DDUW; mynediad fy NUW, fy Mrenin, yn y cysegr.
68:25 Y cantorion a aethant o’r blaen, a’r cerddorion ar ôl; yn eu mysg yr oedd y llancesau yn canu tympanau.
68:26 Bendithiwch DDUW yn y cynlleidfaoedd, sef yr Arglwydd, y rhai ydych o ffynnon Israel.