69:27 Dod ti anwiredd at eu hanwiredd hwynt; ac na ddelont i’th gyfiawnder di.
69:28 Dileer hwynt o lyfr y rhai byw; ac na ysgrifenner hwynt gyda’r rhai cyfiawn.
69:29 Minnau, truan a gofidus ydwyf: dy iachawdwriaeth di, O DDUW, a’m dyrchafo.
69:30 Moliannaf enw DUW ar gân, a mawrygaf ef mewn mawl.
69:31 A hyn fydd well gan yr ARGLWYDD nag ych neu fustach corniog, carnol.
69:32 Y trueiniaid a lawenychant pan welant hyn: eich calon chwithau, y rhai a geisiwch DDUW, a fydd byw.
69:33 Canys gwrendy yr ARGLWYDD ar dlodion, ac ni ddiystyra efe ei garcharorion.
69:34 Nefoedd a daear, y môr a’r hyn oll a ymlusgo ynddo, molant ef.
69:35 Canys DUW a achub Seion, ac a adeilada ddinasoedd Jwda; fel y trigont yno, ac y meddiannont hi.
69:36 A hiliogaeth ei weision a’i meddiannant hi: a’r rhai a hoffant ei enw ef, a breswyliant ynddi.
SALM 70
70:1 I’r Pencerdd, Salm Dafydd i goffa. O DDUW, prysura i’m gwaredu; brysia, ARGLWYDD, i’m cymorth.
70:2 Cywilyddier a gwarthrudder y rhai a geisiant fy enaid: troer yn eu hôl a gwaradwydder y rhai a ewyllysiant ddrwg i mi.
70:3 Datroer yn lle gwobr am eu cywilydd y rhai a ddywedant, Ha, ha.
70:4 Llawenyched, a gorfoledded ynot ti y rhai oll a’th geisiant; a dyweded y rhai a garant dy iachawdwriaeth yn wastad, Mawryger Duw. i
70:5 Minnau ydwyf dlawd ac anghenus; O DDUW, brysia ataf: fy nghymorth a’m gwaredydd ydwyt ti, O ARGLWYDD; na hir drig.
SALM 71
71:1 Ynot ti, O ARGLWYDD, y gobeithiais; na’m cywilyddier byth.
71:2 Achub fi, a gwared fi yn dy iawnder: gostwng dy glust ataf, ac achub fi.
71:3 Bydd i mi yn drigfa gadarn, i ddyfod iddi bob amser: gorchmynnaist fy achub; canys ti yw fy nghraig a’m hamddiffynfa.
71:4 Gwared fi, O fy NUW, o law yr annuwiol, o law yr anghyfiawn a’r traws.
71:5 Canys ti yw fy ngobaith, O Arglwydd DDUW; fy ymddiried o’m hieuenctid.
71:6 Wrthyt ti y’m cynhaliwyd o’r bru; ti a’m tynnaist o groth fy mam: fy mawl fydd yn wastad amdanat ti.
71:7 Oeddwn i lawer megis yn rhyfeddod: eithr tydi yw fy nghadarn noddfa.
71:8 Llanwer fy ngenau â’th foliant, ac â’th ogoniant beunydd.
71:9 Na fwrw fi ymaith yn amser henaint: na wrthod fi pan ballo fy nerth.
71:10 Canys fy ngelynion sydd yn dywedyd i’m herbyn; a’r rhai a ddisgwyliant am fy enaid a gydymgynghorant,
71:11 Gan ddywedyd, DUW a’i gwrthododd ef: erlidiwch a deliwch ef; canys nid oes gwaredydd.
71:12 O DDUW, na fydd bell oddi wrthyf: fy NUW, brysia i’m cymorth.
71:13 Cywilyddier a difether y rhai a wrthwynebant fy enaid: â gwarth ac â gwaradwydd y gorchuddier y rhai a geisiant ddrwg i mi.
71:14 Minnau a obeithiaf yn wastad, ac a’th foliannaf di fwyfwy.
71:15 Fy ngenau a fynega dy gyfiawnder a’th iachawdwriaeth beunydd; canys ni wn rifedi arnynt.
71:16 Yng nghadernid yr Arglwydd DDUW y cerddaf: dy gyfiawnder di yn unig a gofiaf fi.
71:17 O’m hieuenctid y’m dysgaist, O DDUW: hyd yn hyn y mynegais dy ryfeddodau.
71:18 Na wrthod fi chwaith, O DDUW, mewn henaint a phenllwydni; hyd oni fynegwyf dy nerth i’r genhedlaeth hon, a’th gadernid i bob un a ddelo.
71:19 Dy gyfiawnder hefyd, O DDUW, sydd uchel, yr hwn a wnaethost bethau mawrion: pwy, O DDUW, sydd debyg i ti?