Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/586

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

71:20 Ti, yr hwn a wnaethost i mi weled aml a blin gystuddiau, a’m bywhei ac a’m cyfodi drachefn o orddyfnder y ddaear.

71:21 Amlhei fy mawredd, ac a’m cysuri oddi amgylch.

71:22 Minnau a’th foliannaf ar offeryn nabl, sef dy wirionedd, O fy NUW: canaf i ti â’r delyn, O Sanct Israel.

71:23 Fy ngwefusau a fyddant hyfryd pan ganwyf i ti; a’m henaid, yr hwn a waredaist.

71:24 Fy nhafod hefyd a draetha dy gyfiawnder beunydd: oherwydd cywilyddiwyd a gwaradwyddwyd y rhai a geisiant niwed i mi.


SALM 72

72:1 Salm i Solomon. O DDUW, dod i’r Brenin dy farnedigaethau, ac i fab y Brenin dy gyfiawnder.

72:2 Efe a farn dy bobl mewn cyfiawnder,a’th drueiniaid â barn.

72:3 Y mynyddoedd a ddygant heddwchi’r bobl, a’r bryniau, trwy gyfiawnder

72:4 Efe a farn, drueiniaid y bobl, efe a achub feibion yr anghenus, ac a ddryllia y gorthrymydd.

72:5 Tra fyddo haul a lleuad y’th ofnant, yn oes oesoedd.

72:6 Efe a ddisgyn fel glaw ar gnu gwlân; fel cawodydd yn dyfrhau y ddaear.

72:7 Yn ei ddyddiau ef y blodeua y cyfiawn; ac amlder o heddwch fydd tra fyddo lleuad.

72:8 Ac efe a lywodraetha o fôr hyd fôr, ac o’r afon hyd derfynau y ddaear.

72:9 O’i flaen ef yr ymgryma trigolion yr anialwch: a’i elynion a lyfant y llwch.

72:10 Brenhinoedd Tarsis a’r ynysoedd a dalant anrheg: brenhinoedd Sheba a Seba a ddygant rodd.

72:11 Ie, yr holl frenhinoedd a ymgrymant iddo: yr holl genhedloedd a’i gwasanaethant ef.

72:12 Canys efe a wared yr anghenog pan waeddo: y truan hefyd, a’r hwn ni byddo cynorthwywr iddo.

72:13 Efe a arbed y tlawd a’r rheidus, ac a achub eneidiau y rhai anghenus.

72:14 Efe a wared eu henaid oddi wrth dwyll a thrawster: a gwerthfawr fydd eu gwaed yn ei olwg ef.

72:15 Byw hefyd fydd efe, a rhoddir iddo aur Seba: gweddïant hefyd drosto ef yn wastad: beunydd y clodforir ef.

72:16 Bydd dyrnaid o ŷd ar y ddaear ym mhen y mynyddoedd: ei ffrwyth a ysgwyd fel Libanus; a phobl y ddinas a flodeuant fel gwellt y ddaear.

72:17 Ei enw fydd yn dragywydd: ei enw a bery tra fyddo haul; ac ymfendithiant ynddo: yr holl genhedloedd a’i galwant yn wynfydedig.

72:18 Bendigedig fyddo yr ARGLWYDD DDUW, DUW Israel, yr hwn yn unig sydd yn gwneuthur rhyfeddodau.

72:19 Bendigedig hefyd fyddo ei enw gogoneddus ef yn dragywydd; a’r holl ddaear a lanwer o’i ogoniant. Amen, ac Amen.

72:20 Gorffen gweddïau Dafydd mab Jesse.


SALM 73

73:1 Salm Asaff. Yn ddiau da yw DUW i Israel; sef i’r rhai glân o galon.

73:2 Minnau, braidd na lithrodd fy nhraed: prin na thripiodd fy ngherddediad.

73:3 Canys cenfigennais wrth y rhai ynfyd, pan welais lwyddiant y rhai annuwiol.

73:4 Canys nid oes rhwymau yn eu marwolaeth; a’u cryfder sydd heini.

73:5 Nid ydynt mewn blinder fel dynion eraill; ac ni ddialeddir arnynt hwy gyda dynion eraill.

73:6 Am hynny y cadwynodd balchder hwynt, ac y gwisg trawster amdanynt fel dilledyn.

73:7 Eu llygaid a saif allan gan fraster: aethant dros feddwl calon o gyfoeth.

73:8 Y maent wedi llygru, yn chwedleua yn ddrygionus am drawster; yn dywedyd yn uchel.

73:9 Gosodasant eu genau yn erbyn y nefoedd: a’u tafod a gerdd trwy y ddaear.

73:10 Am hynny y dychwel ei bobl ef yma; ac y gwesgir iddynt ddwfr ffiol lawn.

73:11 Dywedant hefyd, Pa fodd y