gŵyr DUW? a oes gwybodaeth gan y Goruchaf?
73:12 Wele, dyma y rhai annuwiol, a’r rhai sydd lwyddiannus yn y byd, ac a amlhasant olud.
73:13 Diau mai yn ofer y glanheais fy nghalon, ac y golchiais fy nwylo mewn diniweidrwydd.
73:14 Canys ar hyd y dydd y’m maeddwyd; fy ngherydd a ddeuai bob bore.
73:15 Os dywedwn, Mynegaf fel hyn; wele, â chenhedlaeth dy blant di y gwnawn gam.
73:16 Pan amcenais wybod hyn, blin oedd hynny yn fy ngolwg i;
73:17 Hyd onid euthum i gysegr DUW: yna y deellais eu diwedd hwynt.
73:18 Diau osod ohonot hwynt mewn llithrigfa, a chwympo ohonot hwynt i ddinistr.
73:19 Mor ddisymwth yr aethant yn anghyfannedd! pallasant, a darfuant gan ofn.
73:20 Fel breuddwyd wrth ddihuno un; felly, O Arglwydd, pan ddeffroech, dirmygi eu gwedd hwynt.
73:21 Fel hyn y gofidiodd fy nghalon, ac y’m pigwyd yn fy arennau.
73:22 Mor ynfyd oeddwn, ac heb wybod; anifail oeddwn o’th flaen di.
73:23 Eto yr ydwyf yn wastad gyda thi: ymaflaist yn fy llaw ddeau.
73:24 A’th gyngor y’m harweini; ac wedi hynny y’m cymeri i ogoniant.
73:25 Pwy sydd gennyf fi yn y nefoedd ond tydi? ac ni ewyllysiais at y ddaear neb gyda thydi.
73:26 Pallodd fy nghnawd a’m calon: ond nerth fy nghalon a’m rhan yw DUW yn dragywydd.
73:27 Canys wele, difethir y rhai a bellhânt oddi wrthyt: torraist ymaith bob un a buteinio oddi wrthyt.
73:28 Minnau, nesáu at DDUW sydd i mi: yn yr Arglwydd DDUW y gosodais fy ngobaith, i draethu dy holl weithredoedd.
SALM 74
74:1 Maschil Asaff. Paham, DDUW, y’n bwriaist heibio yn dragywydd, ac y myga dy ddigofaint yn erbyn defaid dy borfa?
74:2 Cofia dy gynulleidfa, yr hon a brynaist gynt; a llwyth dy etifeddiaeth, yr hwn a waredaist; mynydd Seion hwn, y preswyli ynddo.
74:3 Dyrcha dy draed at anrhaith dragywyddol; sef at yr holl ddrwg a wnaeth y gelyn yn y cysegr.
74:4 Dy elynion a ruasant yng nghanol dy gynulleidfaoedd; gosodasant eu banerau yn arwyddion.
74:5 Hynod oedd gŵr, fel y codasai fwyell mewn drysgoed.
74:6 Ond yn awr y maent yn dryllio ei cherfiadau ar unwaith â bwyeill ac morthwylion.
74:7 Bwriasant dy gysegroedd yn tân; hyd lawr yr halogasant breswylfa dy enw.
74:8 Dywedasant yn eu calonnau, Cydanrheithiwn hwynt: llosgasant holl synagogau DUW yn y tir.
74:9 Ni welwn ein harwyddion: nid oes broffwyd mwy, nid oes gennym a ŵyr pa hyd.
74:10 Pa hyd, DDUW, y gwarthrudda y gwrthwynebwyr? a gabla y gelyn dy enw yn dragywydd?
74:11 Paham y tynni yn ei hôl dy law, sef dy ddeheulaw? tyn hi allan o ganol dy fynwes.
74:12 Canys DUW yw fy Mrenin o’r dechreuad, gwneuthurwr iachawdwriaeth o fewn y tir.
74:13 Ti yn dy nerth a berthaist y môr: drylliaist bennau dreigiau yn y dyfroedd.
74:14 Ti a ddrylliaist ben lefiathan; rhoddaist ef yn fwyd i’r bobl yn yr anialwch.
74:15 Ti a holltaist y ffynnon a’r afon; ti a ddihysbyddaist afonydd cryfion.
74:16 Y dydd sydd eiddot ti, y nos hefyd sydd eiddot ti: ti a baratoaist oleuni a haul.
74:17 Ti a osodaist holl derfynau y ddaear: ti a luniaist haf a gaeaf.
74:18 Cofia hyn, i’r gelyn gablu, O ARGLWYDD, ac i’r bobl ynfyd ddifenwi dy enw.
74:19 Na ddyro enaid dy durtur i gynulleidfa y gelynion: nac anghofia gynulleidfa dy drueiniaid byth.
74:20 Edrych ar y cyfamod: canys llawn yw tywyll leoedd y ddaear o drigfannau trawster.
74:21 Na ddychweled y tlawd yn waradwyddus: molianned y truan a’r anghenus dy enw.
74:22 Cyfod, O DDUW, dadlau dy ddadl: cofia dy waradwydd gan yr ynfyd beunydd.