Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/593

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

83:10 Yn Endor y difethwyd hwynt: aethant yn dail i’r ddaear.

83:11 Gwna eu pendefigion fel Oreb, ac fel Seeb; a’u holl dywysogion fel Seba, ac fel Salmunna:

83:12 Y rhai a ddywedasant, Cymerwn i ni gyfanheddau DUW i’w meddiannu.

83:13 Gosod hwynt, O fy NUW, fel olwyn; fel sofl o flaen y gwynt.

83:14 Fel y llysg tân goed, ac fel y goddeithia fflam fynyddoedd;

83:15 Felly erlid di hwynt â’th dymestl, a dychryna hwynt â’th gorwynt.

83:16 Llanw eu hwynebau â gwarth; fel y ceisiont dy enw, O ARGLWYDD.

83:17 Cywilyddier a thralloder hwynt yn dragywydd; ie, gwaradwydder a difether hwynt:

83:18 Fel y gwypont mai tydi, yr hwn yn unig wyt JEHOFAH wrth dy enw, wyt Oruchaf ar yr holl ddaear.


SALM 84

84:1 I’r Pencerdd ar Gittith, Salm meibion Cora. Mor hawddgar yw dy bebyll di, O ARGLWYDD y lluoedd!

84:2 Fy enaid a hiraetha, ie, ac a flysia am gynteddau yr ARGLWYDD: fy nghalon a’m cnawd a waeddant am y DUW byw.

84:3 Aderyn y to hefyd a gafodd dŷ, a’r wennol nyth iddi, lle y gesyd ei chywion; sef dy allorau di, O ARGLWYDD y lluoedd, fy Mrenin, a’m DUW.

84:4 Gwyn fyd preswylwyr dy dŷ: yn wastad y’th foliannant. Sela.

84:5 Gwyn ei fyd y dyn y mae ei gadernid ynot; a’th ffyrdd yn eu calon:

84:6 Y rhai yn myned trwy ddyffryn Bacha a’i gwnânt yn ffynnon: a’r glaw a leinw y llynnau.

84:7 Ant o nerth i nerth; ymddengys pob un gerbron DUW yn Seion.

84:8 O ARGLWYDD DDUW y lluoedd, clyw fy ngweddi: gwrando, O DDUW Jacob. Sela.

84:9 O Dduw ein tarian, gwêl, ac edrych ar wyneb dy Eneiniog.

84:10 Canys gwell yw diwrnod yn dy gynteddau di na mil: dewiswn gadw drws yn nhŷ fy NUW, o flaen trigo ym mhebyll annuwioldeb.

84:11 Canys haul a tharian yw yr ARGLWYDD DUW: yr ARGLWYDD a rydd ras a gogoniant - ni atal efe ddim daioni oddi wrth y rhai a rodiant yn berffaith.

84:12 O ARGLWYDD y lluoedd, gwyn fyd y dyn a ymddiried ynot.


SALM 85

85:1 I’r Pencerdd, Salm meibion Cora. Graslon fuost, O ARGLWYDD, i’th dir: dychwelaist gaethiwed Jacob.

85:2 Maddeuaist anwiredd dy bobl: cuddiaist eu holl bechod. Sela.

85:3 Tynnaist ymaith dy holl lid: troaist oddi wrth lidiowgrwydd dy ddicter.

85:4 Tro ni, O DDUW, ein hiachawdwriaeth, a thor ymaith dy ddigofaint oddi wrthym.

85:5 Ai byth y digi wrthym? a estynni di dy soriant hyd genhedlaeth a chenhedlaeth?

85:6 Oni throi di a’n bywhau ni, fel y llawenycho dy bobl ynot ti?

85:7 Dangos i ni, ARGLWYDD dy drugaredd, a dod i ni dy iachawdwriaeth.

85:8 Gwrandawaf beth a ddywed yr ARGLWYDD DDUW: canys efe a draetha heddwch i’w bobl, ac i’w saint: ond na throant at ynfydrwydd.

85:9 Diau fod ei iechyd ef yn agos i’r rhai a’i hofnant; fel y trigo gogoniant yn ein tir ni.

85:10 Trugaredd a gwirionedd a ymgyfarfuant; cyfiawnder a heddwch a ymgusanasant.

85:11 Gwirionedd a dardda o’r ddaear; a chyfiawnder a edrych i lawr o’r nefoedd.

85:12 Yr ARGLWYDD hefyd a rydd ddaioni; a’n daear a rydd ei chnwd.

85:13 Cyfiawnder a â o’i flaen ef; ac a esyd ei draed ef ar y ffordd.


SALM 86

86:1 Gweddi Dafydd. Gostwng, O ARGLWYDD, dy glust, gwrando fi: canys truan ac anghenus ydwyf.