Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/594

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

86:2 Cadw fy enaid; canys sanctaidd ydwyf: achub di dy was, O fy NUW, yr hwn sydd yn ymddiried ynot.

86:3 Trugarha wrthyf, ARGLWYDD: canys arnat y llefaf beunydd.

86:4 Llawenha enaid dy was: canys atat ti, ARGLWYDD, y dyrchafaf fy enaid.

86:5 Canys ti, O ARGLWYDD, ydwyt dda, a maddeugar; ac o fawr drugaredd i’r rhai oll a alwant arnat.

86:6 Clyw, ARGLWYDD, fy ngweddi; ac ymwrando â llais fy ymbil.

86:7 Yn nydd fy nghyfyngder y llefaf arnat: canys gwrandewi fi.

86:8 Nid oes fel tydi ymysg y duwiau, O ARGLWYDD; na gweithredoedd fel dy weithredoedd di.

86:9 Yr holl genhedloedd y rhai a wnaethost a ddeuant, ac a addolant ger dy fron di, O Arglwydd; ac a ogoneddant dy enw.

86:10 Canys ydwyt fawr, ac yn gwneuthur rhyfeddodau: ti yn unig wyt DDUW.

86:11 Dysg i mi dy ffordd, O ARGLWYDD; mi a rodiaf yn dy, wirionedd: una fy nghalon i ofni dy enw.

86:12 Moliannaf di, O Arglwydd fy NUW â’m holl galon: a gogoneddaf dy enw yn dragywydd.

86:13 Canys mawr yw dy drugaredd tuag ataf fi: a gwaredaist fy enaid o uffern isod.

86:14 Rhai beilchion a gyfodasant i’m herbyn, O DDUW, a chynulleidfa y trawsion a geisiasant fy enaid; ac ni’th osodasant di ger eu bron.

86:15 Eithr ti, O Arglwydd, wyt DDUW trugarog a graslon; hwyrfrydig i lid, a helaeth o drugaredd a gwirionedd.

86:16 Edrych arnaf, a thrugarha wrthyf: dyro dy nerth i’th was, ac achub fab dy wasanaethferch.

86:17 Gwna i mi arwydd er daioni: fel y gwelo fy nghaseion, ac y gwaradwydder hwynt; am i ti, O ARGLWYDD, fy nghynorthwyo a’m diddanu.


SALM 87

87:1 Salm neu Gân meibion, Cora. Ei sail sydd ar y mynyddoedd sanctaidd.

87:2 Yr ARGLWYDD a gâr byrth Seion yn yn fwy na holl breswylfeydd Jacob.

87:3 Gogoneddus bethau a ddywedir amdanat ti, O ddinas DUW. Sela.

87:4 Cofiaf Rahab a Babilon wrth fy nghydnabod: wele Philistia, a Thyrus, ynghyd ag Ethiopia. Yno y ganwyd hwn.

87:5 Ac am Seion y dywedir, Y gŵr a’r gŵr a anwyd ynddi: a’r Goruchaf ei hun a’i sicrha hi.

87:6 Yr ARGLWYDD a gyfrif pan ysgrifenno y bobl, eni hwn yno. Sela.

87:7 Y cantorion a’r cerddorion a fyddant yno: fy holl ffynhonnau sydd ynot ti.


SALM 88

88:1 Salm neu Gân meibion Cora, i’r Pencerdd ar Mahalath Leannoth, Maschil Heman yr Esrahiad. ARGLWYDD DDUW fy iachawdwriaeth, gwaeddais o’th flaen ddydd a nos.

88:2 Deued fy ngweddi ger dy fron: gostwng dy glust at fy llefain.

88:33 Canys fy enaid a lanwyd o flinderau; a’m heinioes a nesâ i’r beddrod.

88:4 Cyfrifwyd fi gyda’r rhai a ddisgynnant i’r pwll: ydwyf fel gŵr heb nerth.

88:5 Yn rhydd ymysg y meirw, fel rhai wedi eu lladd, yn gorwedd mewn bedd, y rhai ni chofi mwy; a hwy a dorrwyd oddi wrth dy law.

88:6 Gosodaist fi yn y pwll isaf, mewn tywyllwch, yn y dyfnderau.

88:7 Y mae dy ddigofaint yn pwyso arnaf: ac â’th holl donnau y’m cystuddiaist. Sela.

88:8 Pellheaist fy nghydnabod oddi wrthyf; gwnaethost fi yn ffieidd-dra iddynt: gwarchaewyd fi fel nad awn allan.

88:9 Fy llygad a ofidiodd gan fy nghystudd: llefais arnat ARGLWYDD, beunydd; estynnais fy nwylo atat.

88:10 Ai i’r meirw y gwnei ryfeddod? a gyfyd y meirw a’th foliannu di? Sela.

88:11 A draethir dy drugaredd mewn bedd? a’th wirionedd yn nistryw?

88:12 A adwaenir dy ryfeddod yn y tywyllwch? a’th gyfiawnder yn nhir angof?

88:13 Ond myfi a lefais arnat, ARGLWYDD; yn fore yr achub fy ngweddi dy flaen.