88:14 Paham, ARGLWYDD, y gwrthodi fy enaid? y cuddi dy wyneb oddi wrthyf?
88:15 Truan ydwyf fi, ac ar drancedigaeth o’m hieuenctid: dygais dy ofn, ac yr ydwyf yn petruso.
88:16 Dy soriant a aeth drosof; dy ddychrynedigaethau a’m torrodd ymaith.
88:17 Fel dwfr y’m cylchynasant beunydd, ac y’m cydamgylchasant.
88:18 Câr a chyfaill a yrraist ymhell oddi wrthyf, a’m cydnabod i dywyllwch.
SALM 89
89:1 Maschil Ethan yr Esrahiad. Trugareddau yr ARGLWYDD a ddatganaf byth: â’m genau y mynegaf dy wirionedd o genhedlaeth hyd genhedlaeth.
89:2 Canys dywedais, Adeiledir trugaredd yn dragywydd: yn y nefoedd y sicrhei dy wirionedd.
89:3 Gwneuthum amod i’m hetholedig, tyngais i’m gwas Dafydd.
89:4 Yn dragywydd y sicrhaf dy had di: ac o genhedlaeth i genhediaeth yr adeiladaf dy orseddfainc di. Sela.
89:5 A’r nefoedd, O ARGLWYDD, a foliannant dy ryfeddod; a’th wirionedd yng nghynulleidfa y saint.
89:6 Canys pwy yn y nef a gystedlir â’r ARGLWYDD? pwy a gyffelybir i’r ARGLWYDD ymysg meibion y cedyrn?
89:7 DUW sydd ofnadwy iawn yng nghynulleidfa y saint, ac i’w arswydo yn ei holl amgylchoedd.
89:8 O ARGLWYDD DDUW y lluoedd, pwy sydd fel tydi, yn gadarn IÔR? a’th wirionedd o’th amgylch?
89:9 Ti wyt yn llywodraethu ymchwydd môr: pan gyfodo ei donnau, ti a’u gostegi.
89:10 Ti a ddrylliaist yr Aifft, fel un lladdedig: trwy nerth dy fraich y gwasgeraist dy elynion.
89:11 Y nefoedd ydynt eiddot ti, a’r ddaear sydd eiddot ti: ti a seiliaist y byd a’i gyfiawnder.
89:12 Ti a greaist ogledd a deau: Tabor a Hermon a lawenychant yn dy enw.
89:13 Y mae i ti fraich a chadernid: cadarn yw dy law, ac uchel yw dy ddeheulaw.
89:14 Cyfiawnder a barn yw trigfa dy orseddfainc: trugaredd a gwirionedd a ragflaenant dy wyneb.
89:15 Gwyn eu byd y bobl a adwaenant yr hyfrydlais: yn llewyrch dy wyneb, ARGLWYDD, y rhodiant hwy.
89:16 Yn dy enw di y gorfoleddant beunydd; ac yn dy gyfiawnder yr ymddyrchafant.
89:17 Canys godidowgrwydd eu cadernid hwynt ydwyt ti; ac yn dy ewyllys da y dyrchefir ein corn ni.
89:18 Canys yr ARGLWYDD yw ein tarian a Sanct Israel yw ein Brenin.
89:19 Yna yr ymddiddenaist mewn gweledigaeth â’th Sanct, ac a ddywedaist, Gosodais gymorth ar un cadarn: dyrchefais un etholedig o’r bobl.
89:20 Cefais Dafydd fy ngwasanaethwr: eneiniais ef â’m holew sanctaidd:
89:21 Yr hwn y sicrheir fy llaw gydag ef: a’m braich a’i nertha ef.
89:22 Ni orthryma y gelyn ef; a’r mab anwir nis cystuddia ef.
89:23 Ac mi a goethaf ei elynion o’i flaen; a’i gaseion a drawaf.
89:24 Fy ngwirionedd hefyd a’m trugaredd fydd gydag ef; ac yn fy enw y dyrchefir ei gorn ef.
89:25 A gosodaf ei law yn y môr, a’i ddeheulaw yn yr afonydd.
89:26 Efe a lefa arnaf, Ti yw fy Nhad, fy NUW, a Chraig fy iachawdwriaeth.
89:27 Minnau a’i gwnaf yntau yn gynfab, goruwch brenhinoedd y ddaear.
89:28 Cadwaf iddo fy nhrugaredd yn dragywydd; a’m cyfamod fydd sicr iddo.
89:29 Gosodaf hefyd ei had yn dragywydd; a’i orseddfainc fel dyddiau y nefoedd.
89:30 Os ei feibion a adawant fy nghyfraith, ac ni rodiant yn fy marnedigethau;
89:31 Os fy neddfau a halogant, a’m gorchmynion ni chadwant:
89:32 Yna mi a ymwelaf â’u camwedd â gwialen ac â’u hanwiredd â ffrewyllau.
89:33 Ond ni thorraf fy nhrugaredd oddi wrtho, ac ni pharaf o’m gwirionedd.
89:34 Ni thorraf fy nghyfammod, ac