Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/596

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

ni newidiaf yr hyn a ddaeth allan o’m genau.

89:35 Tyngais unwaith i’m sancteiddrwydd na ddywedwn gelwydd i Dafydd

89:36 Bydd ei had ef yn dragywydd, a’i orseddfainc fel yr haul ger fy mron i.

89:37 Sicrheir ef yn dragywydd fel y lleuad, ac fel tyst ffyddlon yn y nef. Sela.

89:38 Ond ti a wrthodaist ac a ffieiddiaist, ti a ddigiaist wrth dy Eneiniog.

89:39 Diddymaist gyfamod dy was; halogaist ei goron, gan ei thaflu i lawr.

89:40 Drylliaist ei holl gaeau ef; gwnaethost ei amddiffynfeydd yn adwyau.

89:41 Yr holl fforddolion a’i hysbeiliant ef: aeth yn warthrudd i’w gymdogion.

89:42 Dyrchefaist ddeheulaw ei wrthwynebwyr; llawenheaist ei holl elynion.

89:43 Troaist hefyd fin ei gleddyf, ac ni chadarnheaist ef mewn rhyfel.

89:44 Peraist i’w harddwch ddarfod, a bwrwiaist ei orseddfainc i lawr.

89:45 Byrheaist ddyddiau ei ieuenctid: toaist gywilydd drosto ef. Sela.

89:46 Pa hyd, ARGLWYDD, yr ymguddi? ai yn dragywydd? a lysg dy ddigofaint di fel tân?

89:47 Cofia pa amser sydd i mi: paham y creaist holl blant dynion yn ofer?

89:48 Pa ŵr a fydd byw, ac ni wêl farwolaeth? a wared efe ei enaid o law y bedd? Sela.

89:49 Pa le y mae dy hen drugareddau, O ARGLWYDD, y rhai a dyngaist i Dafydd yn dy wirionedd?

89:50 Cofia, O ARGLWYDD, waradwydd dy weision, yr hwn a ddygais yn fy mynwes gan yr holl bobloedd fawrion;

89:51 A’r hwn y gwaradwyddodd dy elynion, O ARGLWYDD; â’r hwn y gwaradwyddasant ôl troed dy Eneiniog.

89:52 Bendigedig fyddo yr ARGLWYDD yn dragywydd. Amen, ac Amen.


SALM 90

90:1 Gweddi Moses gŵr DUW. Ti, ARGLWYDD, fuost yn breswylfa i ni ym mhob cenhedlaeth.

90:2 Cyn gwneuthur y mynyddoedd, a llunio ohonot y ddaear, a’r byd; ti hefyd wyt DDUW, o dragwyddoldeb hyd dragwyddoldeb.

90:3 Troi ddyn i ddinistr; a dywedi, Dychwelwch, feibion dynion.

90:4 Canys mil o flynyddoedd ydynt yn dy olwg di fel doe, wedi yr êl heibio, ac fel gwyliadwriaeth nos.

90:5 Dygi hwynt ymaith megis â llifeiriant; y maent fel hun: y bore y maent fel llysieuyn a newidir.

90:6 Y bore y blodeua, ac y tyf; prynhawn y torrir ef ymaith, ac y gwywa.

90:7 Canys yn dy ddig y difethwyd ni, ac yn dy lidiowgrwydd y’n brawychwyd.

90:8 Gosodaist ein hanwiredd ger dy fron, ein dirgel bechodau yng ngoleuni dy wyneb.

90:9 Canys ein holl ddyddiau ni a ddarfuant gan dy ddigofaint di: treuliasom ein blynyddoedd fel chwedl.

90:10 Yn nyddiau ein blynyddoedd y mae deng mlynedd a thrigain: ac os o gryfder y cyrhaeddir pedwar ugain mlynedd, eto eu nerth sydd boen a blinder; canys ebwydd y derfydd, a ni a ehedwn ymaith.

90:11 Pwy a edwyn nerth dy soriant? canys fel y mae dy ofn, y mae dy ddicter.

90:12 Dysg i ni felly gyfrif ein dyddiau, fel y dygom ein calon i ddoethineb.

90:13 Dychwel, ARGLWYDD, pa hyd? ac edifarha o ran dy weision.

90:14 Diwalla ni yn fore â’th drugaredd; fel y gorfoleddom ac y llawenychom dros ein holl ddyddiau.

90:15 Llawenha ni yn ôl y dyddiau: y cystuddiaist ni, a’r blynyddoedd y gwelsom ddrygfyd.

90:16 Gweler dy waith tuag at dy weision, a’th ogoniant tuag at eu plant hwy.

90:17 A bydded prydferthwch yr ARGLWYDD ein DUW arnom ni: a threfna weithred ein dwylo ynom ni; ie, trefna waith ein dwylo.


SALM 91