Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/603

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

105:8 Cofiodd ei gyfamod byth, y gair a orchmynnodd efe i fil o genedlaethau:

105:9 Yr hyn a amododd efe ag Abraham, a’i lw i Isaac;

105:10 A’r hyn a osododd efe yn ddeddf i Jacob, ac yn gyfamod tragwyddol i Israel;

105:11 Gan ddywedyd, i ti y rhoddaf dir Canaan, rhandir eich etifeddiaeth.

105:12 Pan oeddynt ychydig o rifedi, ie, ychydig, a dieithriaid ynddi:

105:13 Pan rodient o genhedlaeth i genhedlaeth, o’r naill deyrnas at bobl arall:

105:14 Ni adawodd i neb eu gorthrymu; ie, ceryddodd frenhinoedd o’u plegid;

105:15 Gan ddywedyd, Na chyffyrddwch â’m rhai eneiniog, ac na ddrygwch fy mhroffwydi.

105:16 Galwodd hefyd am newyn ar y tir a dinistriodd holl gynhaliaeth bara.

105:17 Anfonodd ŵr o’u blaen hwynt, Joseff, yr hwn a werthwyd yn was.

105:18 Cystuddiasant ei draed ef mewn gefyn: ei enaid a aeth mewn heyrn:

105:19 Hyd yr amser y daeth ei air ef: gair yr ARGLWYDD a’i profodd ef.

105:20 Y brenin a anfonodd, ac a’i gollyngodd ef; llywodraethwr y bobl, ac a rhyddhaodd ef.

105:21 Gosododd ef yn arglwydd ar ei dŷ, ac yn llywydd ar ei holl gyfoeth:

105:22 I rwymo ei dywysogion ef wrth ei ewyllys; ac i ddysgu doethhineb i’w henuriaid ef.

105:23 Aeth Israel hefyd i’r Aifft; a Jacob a ymdeithiodd yn nhir Ham.

105:24 Ac efe a gynyddodd ei bobl yn ddirfawr; ac a’u gwnaeth yn gryfach na’u gwrthwynebwyr.

105:25 Trodd eu calon hwynt i gasâu ei bobl ef, i wneuthur yn ddichellgar â’i weision.

105:26 Efe a anfonodd Moses ei was; a Aaron, yr hwn a ddewisasai.

105:27 Hwy a ddangosasant ei arwyddion ef yn eu plith hwynt, a rhyfeddodau yn nhir Ham.

105:28 Efe a anfonodd dywyllwch, ac a dywyllodd: ac nid anufuddhasant hwy ei air ef.

105:29 Efe a drodd eu dyfroedd yn waed, ac a laddodd eu pysgod.

105:30 Eu tir a heigiodd lyffaint yn ystafelloedd eu brenhinoedd.

105:31 Efe a ddywedodd, a daeth cymysgbla, a llau yn eu holl fro hwynt.

105:32 Efe a wnaeth eu glaw hwynt yn genllysg, ac yn fflamau tân yn eu tir.

105:33 Trawodd hefyd eu gwinwydd, a’u ffigyswydd; ac a ddrylliodd goed eu gwlad hwynt.

105:34 Efe a ddywedodd, a daeth y locustiaid, a’r lindys, yn aneirif;

105:35 Y rhai a fwytasant yr holl laswellt yn eu tir hwynt, ac a ddifasant ffrwyth eu daear hwynt.

105:36 Trawodd hefyd bob cyntaf-anedig yn eu tir hwynt, blaenffrwyth eu holl nerth hwynt.

105:37 Ac a’u dug hwynt allan ag arian ac aur; ac heb un llesg yn eu llwythau.

105:38 Llawenychodd yr Aifft pan aethant allan: canys syrthiasai eu harswyd arnynt hwy.

105:39 Efe a daenodd gwmwl yn do, a thân i oleuo liw nos.

105:40 Gofynasant, ac efe a ddug soffleir; ac a’u diwallodd â bara nefol.

105:41 Efe a holltodd y graig, a’r dyfroedd a ddylifodd; cerddasant ar hyd lleoedd sychion yn afonydd.

105:42 Canys efe a gofiodd ei air sanctaidd, ac Abraham ei was.

105:43 Ac a ddug ei bobl allan mewn llawenydd; ei etholedigion mewn gorfoledd.

105:44 Ac a roddes iddynt diroedd y cenhedloedd: a meddianasant lafur y bobloedd.

105:45 Fel y cadwent ei ddeddfau ef, ac y cyhalient ei gyfreithiau. Molwch yr ARGLWYDD.


SALM 106

106:1 Molwch yr ARGLWYDD. Clodforwch yr ARGLWYDD; canys da yw: oherwydd ei drugaredd a bery yn dragywydd.

106:2 Pwy a draetha nerthoedd yr ARGLWYDD? ac a fynega ei holl fawl ef?

106:3 Gwyn eu byd a gadwant farn, a’r hwn wnêl gyfiawnder bob amser.

106:4 Cofia fi, ARGLWYDD, yn ôl dy raslonrwydd i’th bobl; ymwel â mi â’th iachawdwriaeth.

106:5 Fel y gwelwyf ddaioni dy etholedigion, fel y llawenychwyf yn llawenydd dy genedl di, fel y gorfoleddwyf gyda’th etifeddiaeth.

106:6 Pechasom gyda’n tadau; gwnaethom gamwedd, anwireddus fuom.