Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/604

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

106:7 Ein tadau ni ddeallasant dy ryfeddodau yn yr Aifft, ni chofiasant luosowgrwydd dy drugareddau; eithr gwrthryfelgar fuont wrth y môr, sef y môr coch.

106:8 Eto efe a’u hachubodd hwynt er mwyn ei enw, i beri adnabod ei gadernid.

106:9 Ac a geryddodd y môr coch, fel y sychodd efe: a thywysodd hwynt trwy’r dyfnder, megis trwy’r anialwch.

106:10 Achubodd hwynt hefyd o law eu digasog; ac a’u gwaredodd o law y gelyn.

106:11 A’r dyfroedd a doesant eu gwrthwynebwyr; ni adawyd un ohonynt.

106:12 Yna y credasant ei eiriau ef; canasant ei fawl ef.

106:13 Yn y fan yr anghofiasant ei weithredoedd ef; ni ddisgwyliasant am ei gyngor ef.

106:14 Eithr blysiasant yn ddirfawr yn yr anialwch; a themtiasant DDUW yn y diffeithwch.

106:15 Ac efe a roddes eu dymuniad iddynt; eithr efe a anfonodd gulni i’w henaid.

106:16 Cenfigenasant hefyd wrth Moses yn y gwersyll, ac wrth Aaron sant yr ARGLWYDD.

106:17 Y ddaear a agorodd, ac a lyncodd Dathan, ac a orchuddiodd gynulleidfa Abiram.

106:18 Cyneuodd tân hefyd yn eu cynulleidfa hwynt: fflam a losgodd y rhai annuwiol.

106:19 Llo a wnaethant yn Horeb; ac ymgrymasant i’r ddelw dawdd.

106:20 Felly y troesant eu gogoniant i lun eidion yn pori glaswellt.

106:21 Anghofiasant DDUW eu Hachubwr, yr hwn a wnaethai bethau mawrion yn yr Aifft;

106:22 Pethau rhyfedd yn nhir Ham; pethau ofnadwy wrth y môr coch.

106:23 Am hynny y dywedodd y dinistriai efe hwynt, oni buasai i Moses ei etholedig sefyll ar yr adwy o’i flaen ef; i droi ymaith ei lidiowgrwydd ef, rhag eu dinistrio.

106:24 Diystyrasant hefyd y tir dymunol, ni chredasant ei air ef:

106:25 Ond grwgnachasant yn eu pebyll;, ac ni wrandawsant ar lais yr ARGLWYDD,

106:26 Yna y dyrchafodd efe ei law yn eu herbyn hwynt, i’w cwympo yn yr anialwch;

106:27 Ac i gwympo eu had ymysg y cenhedloedd; ac i’w gwasgaru yn y tiroedd.

106:28 Ymgysylltasant hefyd â Baal-Peor, a bwytasant ebyrth y meirw.

106:29 Felly y digiasant ef â’u dychmygion eu hun; ac y trawodd pla yn eu mysg hwy.

106:30 Yna y safodd Phinees, ac a iawn farnodd: a’r pla a ataliwyd.

106:31 A chyfrifwyd hyn iddo, yn gyfiawnder, o genhedlaeth i genhedlaeth byth.

106:32 Llidiasant ef hefyd wrth ddyfroedd y gynnen; fel y bu ddrwg i Moses o’u plegid hwynt:

106:33 Oherwydd cythruddo ohonynt ei ysbryd ef, fel y camddywedodd â’i wefusau.

106:34 Ni ddinistriasant y bobloedd, am y rhai y dywedasai yr ARGLWYDD wrthynt:

106:35 Eithr ymgymysgasant â’r cenhedloedd; a dysgasant eu gweithredoedd hwynt:

106:36 A gwasanaethasant eu delwau hwynt; y rhai a fu yn fagl iddynt.

106:37 Aberthasant hefyd eu meibion a’u merched i gythreuliaid,

106:38 Ac a dywallasant waed gwirion, sef gwaed eu meibion a’u merched, y rhai a aberthasant i ddelwau Canaan: a’r tir a halogwyd â gwaed.

106:39 Felly yr ymhalogasant yn eu gweithredoedd eu hun, ac y puteiniasant gyda’u dychmygion.

106:40 Am hynny y cyneuodd dig yr ARGLWYDD yn erbyn ei bobl, fel y ffieiddiodd efe ei etifeddiaeth.

106:41 Ac efe a’u rhoddes hwynt yn llaw y cenhedloedd; a’u caseion a lywodraethasant arnynt.

106:42 Eu gelynion hefyd a’u gorthrymasant; a darostyngwyd hwynt dan eu dwylo hwy.

106:43 Llawer gwaith y gwaredodd efe hwynt; hwythau a’i digiasant ef â’u cyngor eu hun, a hwy a wanychwyd am eu hanwiredd.

106:44 Eto efe a edrychodd pan oedd ing arnynt, pan glywodd eu llefain hwynt.

106:45 Ac efe a gofiodd ei gyfamod â hwynt, ac a edifarhaodd yn ôl lluosowgrwydd ei drugareddau.

106:46 Ac a wnaeth iddynt gael tru-