Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/605

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

garedd gan y rhai oll a’u caethiwai.

106:47 Achub ni, O ARGLWYDD ein DUW, a chynnull ni o blith y cenhedloedd: glodfori dy enw sanctaidd, ac i orfoleddu yn dy foliant.

106:48 Bendigedig fyddo ARGLWYDD DDUW Israel erioed ac yn dragywydd: a dyweded yr holl bobl, Amen. Molwch yr ARGLWYDD.


SALM 107

107:1 Clodforwch yr ARGLWYDD; canys da yw: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.

107:2 Felly dyweded gwaredigion yr ARGLWYDD, y rhai a waredodd efe o law y gelyn;

107:3 Ac a gasglodd efe o’r tiroedd, o’r dwyrain, ac o’r gorllewin, o’r gogledd, ac o’r deau.

107:4 Crwydrasant yn yr anialwch mewn ffordd ddisathr, heb gael dinas i aros ynddi:

107:5 Yn newynog ac yn sychedig, eu henaid a lewygodd ynddynt.

107:6 Yna y llefasant ar yr ARGLWYDD yn eu cyfyngder; ac efe a’u gwaredodd o’u gorthrymderau;

107:7 Ac a’u tywysodd hwynt ar hyd y ffordd uniawn, i fyned i ddinas gyfanheddol.

107:8 O na foliannent yr ARGLWYDD am ei ddaioni, a’i ryfeddodau i feibion dynion!

107:9 Canys efe a ddiwalla yr enaid sychedig, ac a leinw yr enaid newynog â daioni.

107:10 Y rhai a breswyliant yn y tywyllwch a chysgod angau, yn rhwym mewn cystudd a haearn:

107:11 Oherwydd anufuddhau ohonynt eiriau DUW, a dirmygu cyngor y Goruchaf.

107:12 Am hynny yntau a ostyngodd eu calon â blinder: syrthiasant, ac nid oedd cynorthwywr.

107:13 Yna y gwaeddasant ar yr ARGLWYDD yn eu cyfyngder; ac efe a’u hachubodd o’u gorthrymderau.

107:14 Dug hwynt allan o dywyllwch a chysgod angau; a drylliodd eu rhwymau.

107:15 O na foliannent yr ARGLWYDD am ei ddaioni, a’i ryfeddodau i feibion dynion!

107:16 Canys efe a dorrodd y pyrth pres, ac a ddrylliodd y barrau heyrn.

107:17 Ynfydion, oblegid eu camweddau, ac oherwydd eu hanwireddau, a gystuddir.

107:18 Eu henaid a ffieiddiai bob bwyd; a daethant hyd byrth angau.

107:19 Yna y gwaeddasant ar yr ARGLWYDD yn eu cyfyngder; ac efe a’u hachubodd o’u gorthrymderau.

107:20 Anfonodd ei air, ac iachaodd hwynt, ac a’u gwaredodd o’u dinistr.

107:21 O na foliannent yr ARGLWYDD am ei ddaioni, a’i ryfeddodau i feibion dynion!

107:22 Aberthant hefyd aberth moliant; a mynegant ei weithredoedd ef mewn gorfoledd.

107:23 Y rhai a ddisgynnant mewn llongau môr, gan wneuthur eu gorchwyl mewn dyfroedd mawrion.

107:24 Hwy a welant weithredoedd yr ARGLWYDD, a’i ryfeddodau yn y dyfnder.

107:25 Canys efe a orchymyn, a chyfyd tymhestlwynt, yr hwn a ddyrchafa ei donnau ef.

107:26 Hwy a esgynnant i’r nefoedd, disgynnant i’r dyfnder: tawdd eu henaid gan flinder.

107:27 Ymdroant, ac ymsymudant fel meddwyn: a’u holl ddoethineb a ballodd.

107:28 Yna y gwaeddant ar yr ARGLWYDD yn eu cyfyngder; ac efe a’u dwg allan o’u gorthrymderau.

107:29 Efe a wna yr ystorm yn dawel; a’i thonnau a ostegant.

107:30 Yna y llawenhânt am eu gostegu; efe a’u dwg i’r porthladd a ddymunent.

107:31 O na foliannent yr ARGLWYDD am ei ddaioni, ai ryfedodau i feibion dynion!

107:32 A dyrchafant ef yng nghynulleidfa y bobl, a moliannant ef yn eisteddfod yr henuriaid.

107:33 Efe a wna afonydd yn ddiffeithwch, a ffynhonnau dyfroedd yn sychdir.

107:34 A thir ffrwythlon yn ddiffrwyth, am ddrygioni y rhai a drigant ynddo.

107:35 Efe a dry yr anialwch yn llyn dwfr, a’r tir cras yn ffynhonnau dwfr.

107:36 Ac yno y gwna i’r newynog aros; fel y darparont ddinas i gyfanheddu:

107:37 Ac yr heuont feysydd, ac y