Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/606

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

plannont winllannoedd, y rhai a ddygant ffrwyth toreithiog.

107:38 Ac efe a’u bendithia hwynt fel yr amlhânt yn ddirfawr, ac ni ad i’w hanifeiliaid leihau.

107:39 Lleiheir hwynt hefyd, a gostyngir hwynt, gan gyfyngder, drygfyd, a chyni.

107:40 Efe a dywallt ddirmyg ar foneddigion, ac a wna iddynt grwydro mewn anialwch heb ffordd.

107:41 Ond efe a gyfyd y tlawd o gystudd, ac a wna iddo deuluoedd fel praidd.

107:42 Y rhai uniawn a welant hyn, ac a lawenychant: a phob anwiredd a gae ei safn.

107:43 Y neb sydd ddoeth, ac a gadwo hyn, a ddeallant drugareddau yr ARGLWYDD.


SALM 108

108:1 Cân neu Salm Dafydd. Parod yw fy nghalon, O DDUW: canaf a chanmolaf â’m gogoniant.

108:2 Deffro, y nabl ar delyn: minnau a deffroaf yn fore.

108:3 Clodforaf di, ARGLWYDD, ymysg y bobloedd: canmolaf di ymysg y cenhedloedd.

108:4 Canys mawr yw dy drugaredd oddi ar y nefoedd: a’th wirionedd a gyrraedd hyd yr wybren.

108:5 Ymddyrcha, O DDUW, uwch y nefoedd: a bydded dy ogoniant ar yr holl ddaear;

108:6 Fel y gwareder dy rai annwyl: achub â’th ddeheulaw, a gwrando fi.

108:7 DUW a lefarodd yn ei sancteiddrwydd, Llawenychaf, rhannaf Sichem, a mesuraf ddyffryn Succoth.

108:8 Eiddof fi yw Gilead; eiddof fi Manasse; Effraim hefyd yw nerth fy mhen: Jwda yw fy neddfwr.

108:9 Moab yw fy nghrochan golchi; tros Edom y taflaf fy esgid: buddugoliaethaf ar Philistia.

108:10 Pwy a’m dwg i’r ddinas gadarn? pwy a’m dwg hyd yn Edom?

108:11 Onid tydi, O DDUW, yr hwn a’n bwriaist ymaith? ac onid ei di allan, O DDUW, gyda’n lluoedd?

108:12 Dyro i ni gynhorthwy rhag cyfyngder: canys gau yw ymwared dyn.

108:13 Trwy DDUW y gwnawn wroldeb: canys efe a sathr ein gelynion.


SALM 109

109:1 I’r Pencerdd, Salm Dafydd. Na thaw, O DDUW fy moliant.

109:2 Canys genau yr annuwiol a genau y twyllodrus a ymagorasant arnaf: A thafod celwyddog y llefarasant i’m herbyn.

109:3 Cylchynasant fi hefyd â geiriau cas; ac ymladdasant â mi heb achos.

109:4 Am fy ngharedigrwydd y’m gwrthwynebant: minnau a arferaf weddi.

109:5 Talasant hefyd i mi ddrwg am dda, a chas am fy nghariad.

109:6 Gosod dithau un annuwiol arno ef; a safed Satan wrth ei ddeheulaw ef.

109:7 Pan farner ef, eled yn euog; a bydded ei weddi yn bechod.

109:8 Ychydig fyddo ei ddyddiau; a chymered arall ei swydd ef.

109:9 Bydded ei blant yn amddifaid, a’i wraig yn weddw.

109:10 Gan grwydro hefyd crwydred ei blant ef, a chardotant: ceisiant hefyd eu bara o’u hanghyfannedd leoedd.

109:11 Rhwyded y ceisiad yr hyn oll sydd ganddo; ac anrheithied dieithriaid ei lafur ef.

109:12 Na fydded neb a estynno drugaredd iddo; ac na fydded neb a drugarhao wrth ei amddifaid ef.

109:13 Torrer ymaith ei hiliogaeth ef: dileer eu henw yn yr oes nesaf.

109:14 Cofier anwiredd ei dadau o flaen yr ARGLWYDD; ac na ddileer pechod ei fam ef.

109:15 Byddant bob amser gerbron yr ARGLWYDD, fel y torro efe ymaith eu coffadwriaeth o’r tir:

109:16 Am na chollodd wneuthur trugaredd, eithr erlid ohono y truan a’r tlawd, a’r cystuddiedig o galon, i’w ladd.

109:17 Hoffodd felltith, a hi a ddaeth iddo: ni fynnai fendith, a hi a bellhaodd oddi wrtho.

109:18 Ie, gwisgodd felltith fel dilledyn; hi a ddaeth fel dwfr i’w fewn, ac fel olew i’w esgyrn.

109:19 Bydded iddo fel dilledyn yr hwn wisgo efe, ac fel gwregys a’i gwregyso efe yn wastadol.

109:20 Hyn fyddo tâl fy ngwrthwyn-