Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/607

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

ebwyr gan yr ARGLWYDD, a’r rhai a ddywedant ddrwg yn erbyn fy enaid.

109:21 Tithau, ARGLWYDD DDUW, gwn erof fi er mwyn dy enw: am fod yn dda dy drugaredd, gwared fi.

109:22 Canys truan a thlawd ydwyf fi, a’m calon a archollwyd o’m mewn.

109:23 Euthum fel cysgod pan gilio: fel locust y’m hysgydwir.

109:24 Fy ngliniau a aethant yn egwan gan ympryd; a’m cnawd a guriodd o eisiau braster.

109:25 Gwaradwydd hefyd oeddwn iddynt: pan welent fi, siglent eu pennau.

109:26 Cynorthwya fi, O ARGLWYDD fy NUW; achub fi yn ôl dy drugaredd:

109:27 Fel y gwypont mai dy law di yw hyn; mai ti, ARGLWYDD, a’i gwnaethost.

109:28 Melltithiant hwy, ond bendithia di: cywilyddier hwynt, pan gyfodant; a llawenyched dy was.

109:29 Gwisger fy ngwrthwynebwyr â gwarth, ac ymwisgant â’u cywilydd, megis â chochl.

109:30 Clodforaf yr ARGLWYDD yn ddirfawr â’m genau; ie, moliannaf ef ymysg llawer.

109:31 Oherwydd efe a saif ar ddeheulaw y tlawd, i’w achub oddi wrth y rhai a farnant ei enaid.


SALM 110

110:1 Salm Dafydd. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth fy Arglwydd, Eistedd ar fy neheulaw, hyd oni osodwyf dy elynion yn fainc i’th draed.

110:2 Gwialen dy nerth a enfyn yr ARGLWYDD o Seion: llywodraetha di yng nghanol dy elynion.

110:3 Dy bobl a fyddant ewyllysgar yn nydd dy nerth, mewn harddwch sancteiddrwydd o groth y wawr: y mae gwlith dy enedigaeth i ti.

110:4 Tyngodd yr ARGLWYDD, ac nid edifarha, Ti wyt offeiriad yn dragwyddol, yn ôl urdd Melchisedec.

110:5 Yr ARGLWYDD ar dy ddeheulaw a drywana frenhinoedd yn nydd ei ddigofaint.

110:6 Efe a farn ymysg y cenhedloedd; lleinw leoedd â chelaneddau: archolla ben llawer gwlad.

110:7 Efe a yf o’r afon ar y ffordd: am hynny y dyrcha efe ei ben.


SALM 111

111:1 Molwch yr ARGLWYDD. Clodforaf yr ARGLWYDD â’m holl galon, yng nghymanfa y rhai uniawn, ac yn y gynulleidfa.

111:2 Mawr yw gweithredoedd yr ARGLWYDD, wedi eu ceisio gan bawb a’u hoffant.

111:3 Gogoniant a harddwch yw ei waith ef; a’i gyfiawnder sydd yn parhau byth.

111:4 Gwnaeth gofio ei ryfeddodau: graslon a thrugarog yw yr ARGLWYDD.

111:5 Rhoddodd ymborth i’r rhai a’i hofnant ef: efe a gofia ei gyfamod yn dragywydd.

111:6 Mynegodd i’w bobl gadernid ei weithredoedd, i roddi iddynt etifeddiaeth y cenhedloedd.

111:7 Gwirionedd a barn yw gweithredoedd ei ddwylo ef: ei holl orchmynion ydynt sicr:

111:8 Wedi eu sicrhau byth ac yn dragywdd, a’u gwneuthur mewn gwirionedd ac uniawnder.

111:9 Anfonodd ymwared i’w bobl: gorchmynnodd ei gyfamod yn dragwyddol: sancteiddiol ac ofnadwy yw ei enw ef.

111:10 Dechreuad doethineb yw ofn yr ARGLWYDD: deall da sydd gan y rhai a wnânt ei orchmynion ef: y mae ei foliant ef yn parhau byth.


SALM 112

112:1 Molwch yr ARGLWYDD. Gwyn ei fyd y gŵr a ofna yr ARGLWYDD, ac sydd yn hoffi ei orchmynion ef yn ddirfawr.

112:2 Ei had fydd gadarn ar y ddaear: cenhedlaeth y rhai uniawn a fendithir.

112:3 Golud a chyfoeth fydd yn ei dŷ ef: a’i gyfiawnder sydd yn parhau byth.

112:4 Cyfyd goleuni i’r rhai uniawn yn y tywyllwch: trugarog, a thosturiol, a chyfiawn, yw efe.

112:5 Gŵr da sydd gymwynasgar, ac yn rhoddi benthyg: wrth farn y llywodraetha efe ei achosion.

112:6 Yn ddiau nid ysgogir ef byth: