Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/609

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

eiddo yr ARGLWYDD: a'r ddaear a roddes efe i feibion dynion.

115:17 Y meirw ni foliannant yr ARGLWYDD, na'r neb sydd yn disgyn i ddistawrwydd.

115:18 Ond nyni a fendithiwn yr ARGLWYDD o hyn allan ac yn dragywydd. Molwch yr ARGLWYDD.


SALM 116

116:1 Da gennyf wrando ar ARGLWYDD ar fy llef, a'm gweddïau.

116:2 Am ostwng ohono ei glust ataf, am hynny llefaf dros fy nyddiau arno ef.

116:3 Gofidion angau a'm cylchynasant, a gofidiau uffern a'm daliasant: ing a blinder a gefais.

116:4 Yna y gelwais ar enw yr ARGLWYDD; Atolwg, ARGLWYDD gwared fy enaid.

116:5 Graslon yw yr ARGLWYDD, a chyfiawn; a thosturiol yw ein Duw ni.

116:6 Yr ARGLWYDD sydd yn cadw y rhai annichellgar: tlodais, ac efe a'm hachubodd.

116:7 Dychwel, O fy enaid, i'th orffwysfa; canys yr ARGLWYDD fu dda wrthyt.

116:8 Oherwydd i ti waredu fy enaid oddi wrth angau, fy llygaid oddi wrth ddagrau, a'm traed rhag llithro.

116:9 Rhodiaf o flaen yr ARGLWYDD yn nhir y rhai byw.

116:10 Credais, am hynny y lleferais: cystuddiwyd fi yn ddirfawr.

116:11 Mi a ddywedais yn fy ffrwst, Pob dyn sydd gelwyddog.

116:12 Beth a dalaf i’r ARGLWYDD, am ei holl ddoniau i mi?

116:13 Ffiol iachawdwriaeth a gymeraf, ac ar enw yr ARGLWYDD y galwaf.

116:14 Fy addunedau a dalaf i’r ARGLWYDD, yn awr yng ngŵydd ei holl bobl ef.

116:15 Gwerthfawr yng ngolwg yr ARGLWYDD yw marwolaeth ei saint ef.

116:16 ARGLWYDD, yn ddiau dy was di ydwyf fi; dy was di ydwyf fi, mab dy wasanaethwraig: datodaist fy rhwymau.

116:17 Aberthaf i ti aberth moliant; a galwaf ar enw yr ARGLWYDD.

116:18 Talaf fy addunedau i’r ARGLWYDD, yn awr yng ngŵydd ei holl bobl,

116:19 Yng nghynteddoedd tŷ yr ARGLWYDD, yn dy ganol di, O Jerwsalem. Molwch yr ARGLWYDD.


SALM 117

117:1 Molwch yr ARGLWYDD, yr holl genhedloedd: clodforwch ef, yr yr holl bobloedd.

117:2 Oherwydd ei drugaredd ef tuag atom ni sydd fawr: a gwirionedd yr ARGLWYDD a bery yn dragywydd. Molwch yr ARGLWYDD.


SALM 118

118:1 Clodforwch yr ARGLWYDD; canys da yw: oherwydd ei drugaredd a bery yn dragywydd.

118:2 Dyweded Israel yr awr hon, fod ei drugaredd ef yn parhau yn dragywydd.

118:3 Dyweded tŷ Aaron yn awr, fod ei drugaredd ef yn parhau yn dragywydd.

118:4 Yn awr dyweded y rhai a ofnant yr ARGLWYDD, fod ei drugaredd ef yn parhau yn dragywydd.

118:5 Mewn ing y gelwais ar yr ARGLWYDD; yr ARGLWYDD a’m clybu, ac a’m gosododd mewn ehangder.

118:6 Yr ARGLWYDD sydd gyda mi, nid ofnaf: beth a wna dyn i mi?

118:7 Yr ARGLWYDD sydd gyda mi ymhlith fy nghynorthwywyr: am hynny y caf weled fy ewyllys ar fy nghaseion.

118:8 Gwell yw gobeithio yn yr ARGLWYDD, nag ymddiried mewn dyn.

118:9 Gwell yw gobeithio yn yr ARGLWYDD, nag ymddiried mewn tywysogion.

118:10 Yr holl genhedloedd a’m hamgylchynasant fi: ond yn enw yr ARGLWYDD mi a’u torraf hwynt ymaith.

118:11 Amgylchynasant fi; ie, amgylchynasant fi: ond yn enw yr ARGLWYDD mi a’u torraf hwynt ymaith.

118:12 Amgylchynasant fi fel gwenyn; diffoddasant fel tân drain: oherwydd yn enw yr ARGLWYDD mi a’u torraf hwynt ymaith.

118:13 Gan wthio y gwthiaist fi, fel y