Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/610

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

syrthiwn: ond yr ARGLWYDD a’m cynorthwyodd.

118:14 Yr ARGLWYDD yw fy nerth a’m cân; ac sydd iachawdwriaeth i mi.

118:15 Llef gorfoledd a iachawdwriaeth sydd ym mhebyll y cyfiawn: deheulaw yr ARGLWYDD sydd yn gwneuthur grymuster.

118:16 Deheulaw. yr ARGLWYDD a ddyrchafwyd: deheulaw yr ARGLWYDD sydd yn gwneuthur grymuster.

118:17 Ni byddaf farw, ond byw; a mynegaf weithredoedd yr ARGLWYDD.

118:18 Gan gosbi y’m cosbodd yr ARGLWYDD: ond ni’m rhoddodd i farwolaeth.

118:19 Agorwch i mi byrth cyfiawnder: af i mewn iddynt, a chlodforaf yr ARGLWYDD.

118:20 Dyma borth yr ARGLWYDD; y rhai cyfiawn a ânt i mewn iddo.

118:21 Clodforaf di; oherwydd i ti fy ngwrando, a’th fod yn iachawdwriaeth i mi.

118:22 Y maen a wrthododd yr adeiladwyr, a aeth yn ben i’r gongl.

118:23 O’r ARGLWYDD y daeth hyn; hyn oedd ryfedd yn ein golwg ni.

118:24 Dyma y dydd a wnaeth yr ARGLWYDD; gorfoleddwn a llawenychwn ynddo.

118:25 Atolwg, ARGLWYDD, achub yn awr: atolwg, ARGLWYDD, pâr yn awr lwyddiant.

118:26 Bendigedig yw a ddêl yn enw yr ARGLWYDD: bendithiasom chwi o dŷ yr ARGLWYDD.

118:27 DUW yw yr ARGLWYDD, yr hwn a lewyrchodd i ni: rhwymwch yr aberth â rhaffau, hyd wrth gyrn yr allor.

118:28 Fy NUW ydwyt ti, a mi a’th glodforaf: dyrchafaf di, fy NUW.

118:29 Clodforwch yr ARGLWYDD; canys da yw: oherwydd yn dragywydd y pery ei drugaredd ef.


SALM 119

119:1 ALEFF. Gwyn fyd y rhai perffaith eu ffordd, y rhai a rodiant yng nghyfraith yr ARGLWYDD.

119:2 Gwyn fyd y rhai a gadwant ei dystiolaethau ef; ac a’i ceisiant ef â’u holl galon.

119:3 Y rhai hefyd ni wnânt anwiredd, hwy a rodiant yn ei ffyrdd ef.

119:4 Ti a orchmynnaist gadw dy orchmynion yn ddyfal.

119:5 O am gyfeirio fy ffyrdd i gadw dy ddeddfau!

119:6 Yna ni’m gwaradwyddid, pan edrychwn ar dy holl orchmynion.

119:7 Clodforaf di ag uniondeb calon, pan ddysgwyf farnedigaethau dy gyfiawnder.

119:8 Cadwaf dy ddeddfau; O na ad fi yn hollol.

119:9 BETH. Pa fodd y glanha lanc ei lwybr? wrth ymgadw yn ôl dy air di.

119:10 A’m holl galon y’th geisiais: na ad i mi gyfeiliorni oddi wrth dy orchmynion.

119:11 Cuddiais dy ymadroddion yn fy nghalon, fel na phechwn i’th erbyn.

119:12 Ti, ARGLWYDD, wyt fendigedig: dysg i mi dy ddeddfau.

119:13 A’m gwefusau y traethais holl farnedigaethau dy enau.

119:14 Bu mor llawen gennyf ffordd dy dystiolaethau, â’r holl olud.

119:15 Yn dy orchmynion y myfyriaf, ac ar dy lwybrau yr edrychaf.

119:16 Yn dy ddeddfau yr ymddigrifaf: nid anghofiaf dy air.

119:17 GIMEL. Bydd dda wrth dy was, fel y byddwyf byw, ac y cadwyf dy air.

119:18 Datguddia fy llygaid, fel y gwelwyf bethau rhyfedd allan o’th gyfraith di.

119:19 Dieithr ydwyf fi ar y ddaear: na chudd di rhagof dy orchmynion.

119:20 Drylliwyd fy enaid gan awydd i’th farnedigaethau bob amser.

119:21 Ceryddaist y beilchion melltigedig, y rhai a gyfeiliornant oddi wrth dy orchmynion.

119:22 Tro oddi wrthyf gywilydd a dirmyg oblegid dy dystiolaethau di a gedwais.

119:23 Tywysogion hefyd a eisteddasant ac a ddywedasant i’m herbyn: dy was dithau a fyfyriai yn dy ddeddfau.

119:24 A’th dystiolaethau oeddynt fy hyfrydwch a’m cynghorwyr.

119:25 DALETH. Glynodd fy enaid wrth y llwch: bywha fi yn ôl dy air.

119:26 Fy ffyrdd a fynegais, a gwrandewaist fi: dysg i mi dy ddeddfau.

119:27 Gwna i mi ddeall ffordd dy orchmynion; a mi a fyfyriaf yn dy ryfeddodau.