Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/613

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

ionus: canys cadwaf orchmynion fy NUW.

119:116 Cynnal fi yn ôl dy air, fel y byddwyf byw: ac na ad i mi gywilyddio am fy ngobaith.

119:117 Cynnal fi, a dihangol fyddaf: ac ar dy ddeddfau yr edrychaf yn wastadol.

119:118 Sethraist y rhai oll a gyfeiliornant oddi wrth dy ddeddfau: canys twyllodrus yw eu dichell hwynt.

119:119 Bwriaist heibio holl annuwiolion y tir fel sothach: am hynny yr hoffais dy dystiolaethau.

119:120 Dychrynodd fy nghnawd rhag dy ofn, ac ofnais rhag dy farnedigaethau.

119:121 AIN. Gwneuthum farn a chyfiawnder: na ad fi i’m gorthrymwyr.

119:122 Mechnïa dros dy was er daioni: na ad i’r beilchion fy ngorthrymu.

119:123 Fy llygaid a ballasant am dy iawchadwriaeth, ac am ymadrodd dy gyfiawnder.

119:124 Gwna i’th was yn ôl dy drugaredd, a dysg i mi dy ddeddfau.

119:125 Dy was ydwyf fi; pâr i mi ddeall fel y gwypwyf dy dystiolaethau.

119:126 Amser yw i’r ARGLWYDD weithio: diddymasant dy gyfraith di.

119:127 Am hynny yr hoffais dy orchmynion yn fwy nag aur; ie, yn fwy nag aur coeth.

119:128 Am hynny uniawn y cyfrifais dy orchmynion am bob peth; a chaseais bob gau lwybr.

119:129 PE. Rhyfedd yw dy dystiolaethau: am hynny y ceidw fy enaid hwynt.

119:130 Agoriad dy eiriau a rydd oleuni: pair ddeall i rai annichellgar.

119:131 Agorais fy ngenau, a dyheais: oblegid awyddus oeddwn i’th orchmynion di.

119:132 Edrych arnaf, a thrugarha wrthyf, yn ôl dy arfer i’r rhai a garant dy enw.

119:133 Cyfarwydda fy nghamre yn dy air: na lywodraethed dim anwiredd arnaf.

119:134 Gwared fi oddi wrth orthrymder dynion: felly y cadwaf dy orchmynion.

119:135 Llewyrcha dy wyneb ar dy was: a dysg i mi dy ddeddfau.

119:136 Afonydd o ddyfroedd a redant o’m llygaid, am na chadwasant dy gyfraith di.

119:137 TSADI. Cyfiawn ydwyt ti, O ARGLWYDD, ac uniawn yw dy farnedigaethau.

119:138 Dy dystiolaethau y rhai a orchmynnaist, ydynt gyfiawn, a ffyddlon iawn.

119:139 Fy sêl a’m difaodd; oherwydd i’m gelynion anghofio dy eiriau di.

119:140 Purwyd dy ymadrodd yn ddirfawr: am hynny y mae dy was yn ei hoffi.

119:141 Bychan ydwyf fi, a dirmygus: ond nid anghofiais dy orchmynion.

119:142 Dy gyfiawnder sydd gyfiawnder byth, a’th gyfraith sydd wirionedd.

119:143 Adfyd a chystudd a’m goddiweddasant; a’th orchmynion oedd fy nigrifwch.

119:144 Cyfiawnder dy dystiolaethau a bery yn dragywydd: gwna i mi ddeall, a byw fyddaf.

119:145 COFF. Llefais â’m holl galon; clyw fi, O ARGLWYDD: dy ddeddfau a gadwaf.

119:146 Llefais arnat; achub fi, a chadwaf dy dystiolaethau.

119:147 Achubais flaen y cyfddydd, a gwaeddais; wrth dy air y disgwyliais

119:148 Fy llygaid a achubasant flaen gwyliadwriaethau y nos, i fyfyrio yn dy air di.

119:149 Clyw fy llef yn ôl dy drugaredd: ARGLWYDD, bywha fi yn ôl dy farnedigaethau.

119:150 Y rhai a ddilynant ysgelerder a nesasant arnaf: ymbellhasant oddi wrth dy gyfraith di.

119:151 Tithau, ARGLWYDD, wyt agos; a’th holl orchmynion sydd wirionedd.

119:152 Er ys talm y gwyddwn am dy dystiolaethau, seilio ohonot hwynt yn dragywydd.

119:153 RESH. Gwêl fy nghystudd, a gwared fi: canys nid anghofiais dy gyfraith.

119:154 Dadlau fy nadl, a gwared fi: bywha fi yn ôl dy air.

119:155 Pell yw iachawdwriaeth oddi wrth y rhai annuwiol: oherwydd ni cheisiant dy ddeddfau di.

119:156 Dy drugareddau, ARGLWYDD, sydd aml: bywha fi yn ôl dy farnedigaethau.

119:157 Llawer sydd yn fy erlid, ac