Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/614

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

yn fy ngwrthwynebu; er hynny ni throais oddi wrth dy dystiolaethau.

119:158 Gwelais y troseddwyr, a gresynais; am na chadwent dy air di.

119:159 Gwêl fy mod yn hoffi dy orchmynion: ARGLWYDD, bywha fi ôl yn ôl dy drugarowgrwydd.

119:160 Gwirionedd o’r dechreuad yw dy air; a phob un o’th gyfiawn farnedigaethau a bery yn dragywydd.

119:161 SCHIN. Tywysogion a’m herlidiasant heb achos: er hynny fy nghalon a grynai rhag dy air di.

119:162 Llawen ydwyf fi oblegid dy air, fel un yn cael ysglyfaeth lawer.

119:163 Celwydd a gaseais, ac a ffieiddiais: a’th gyfraith di a hoffais.

119:164 Seithwaith yn y dydd yr ydwyf yn dy glodfori; oherwydd dy gyfiawn farnedigaethau.

119:165 Heddwch mawr fydd i’r rhai a garant dy gyfraith: ac nid oes dramgwydd iddynt.

119:166 Disgwyliais wrth dy iachawdwriaeth di, O ARGLWYDD; a gwneuthum dy orchmynion.

119:167 Fy enaid a gadwodd dy dystiolaethau; a hoff iawn gennyf hwynt.

119:168 Cedwais dy orchmynion a’th dystiolaethau: canys y mae fy holl ffyrdd ger dy fron di.

119:169 TAU. Nesaed fy ngwaedd o’th flaen, ARGLWYDD: gwna i mi ddeall yn ôl dy air.

119:170 Deued fy ngweddi ger dy fron: gwared fi yn ôl dy air.

119:171 Fy ngwefusau a draetha foliant, pan ddysgech i mi dy ddeddfau.

119:172 Fy nhafod a ddatgan dy air: oherwydd dy holl orchmynion sydd gyfiawnder.

119:173 Bydded dy law i’m cynorthwyo: oherwydd dy orchmynion di a ddewisais.

119:174 Hiraethais, O ARGLWYDD, am dy iachawdwriaeth; a’th gyfraith yw fy hyfrydwch.

119:175 Bydded byw fy enaid, fel y’th folianno di; a chynorthwyed dy farnedigaethau fi.

119:176 Cyfeiliornais fel dafad wedi colli: cais dy was; oblegid nid anghofiais dy orchmynion.


SALM 120



120:1 Caniad y graddau. Ar yr ARGLWYDD y gwaeddais yn fy nghyfyngder, ac efe a’m gwrandawodd i.

120:2 ARGLWYDD, gwared fy enaid oddi wrth wefusau celwyddog, ac oddi wrth dafod twyllodrus.

120:3 Beth a roddir i ti? neu pa beth a wneir i ti, dydi dafod twyllodrus?

120:4 Llymion saethau cawr, ynghyd â marwor meryw.

120:5 Gwae fi, fy mod yn preswylio ym Mesech, yn cyfanheddu ym mhebyll Cedar.

120:6 Hir y trigodd fy enaid gyda’r hwn oedd yn casáu tangnefedd.

120:7 Heddychol ydwyf fi: ond pan lefarwyf, y maent yn barod i ryfel.


SALM 121



121:1 Caniad y graddau. Dyrchafaf fy llygaid i’r mynyddoedd, o’r lle y daw fy nghymorth.

121:2 Fy nghymorth a ddaw oddi wrth yr ARGLWYDD, yr hwn a wnaeth nefoedd daear.

121:3 Ni ad efe i’th droed lithro: ac ni huna dy geidwad.

121:4 Wele, ni huna ac ni chwsg ceidwad Israel.

121:5 Yr ARGLWYDD yw dy geidwad: yr ARGLWYDD yw dy gysgod ar dy ddeheulaw.

121:6 Ni’th dery yr haul y dydd, na’r lleuad y nos.

121:7 Yr ARGLWYDD a’th geidw rhag pob drwg: efe a geidw dy enaid.

121:8 Yr ARGLWYDD a geidw dy fynediad a’th ddyfodiad, o’r pryd hwn hyd yn dragywydd.


SALM 122

122:1 Caniad y graddau, o’r eiddo Dafydd. Llawenychais pan ddywedent wrthyf, Awn i dŷ yr ARGLWYDD.

122:2 Ein traed a safant o fewn dy byrth di, O Jerwsalem.

122:3 Jerwsalem a adeiladwyd fel dinas wedi ei chydgysylltu ynddi ei hun.

122:4 Yno yr esgyn y llwythau, llwythau yr ARGLWYDD, yn dystiolaeth i Israel, i foliannu enw yr ARGLWYDD.

122:5 Canys yno y gosodwyd gorseddbarn, gorseddfeinciau tŷ Dafydd.

122:6 Dymunwch heddwch Jerwsalem: llwydded y rhai a’th hoffant.