Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/615

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

122:7 Heddwch fyddo o fewn dy ragfur, a ffyniant yn dy balasau.

122:8 Er mwyn fy mrodyr a’m cyfeillion y dywedaf yn awr, Heddwch fyddo i ti.

122:9 Er mwyn tŷ yr ARGLWYDD ein DUW, y ceisiaf i ti ddaioni.


SALM 123

123:1 Caniad y graddau. Atat ti y dyrchafaf fy llygaid, ti yr hwn a breswyli yn y nefoedd.

123:2 Wele, fel y mae llygaid gweision ar law eu meistriaid, neu fel y mae llygaid llawforwyn ar law ei meistres; felly y mae ein llygaid ni ar yr ARGLWYDD ein DUW, hyd oni thrugarhao efe wrthym ni.

123:3 Trugarha wrthym, ARGLWYDD, trugurha wrthym; canys llanwyd ni â dirmyg yn ddirfawr.

123:4 Yn ddirfawr y llanwyd ein henaid â gwatwargerdd y rhai goludog, ac â diystyrwch y beilchion.


SALM 124

124:1 Caniad y graddau, o’r eiddo Dafydd. Oni buasai yr ARGLWYDD yr hwn a fu gyda ni, y gall Israel ddywedyd yn awr;

124:2 Oni buasai yr ARGLWYDD yr hwn a fu gyda ni, pan gyfododd dynion yn ein herbyn:

124:3 Yna y’n llyncasent ni yn fyw, pan enynnodd eu llid hwynt i’n herbyn:

124:4 Yna y dyfroedd a lifasai drosom, y ffrwd a aethai dros ein henaid:

124:5 Yna yr aethai dros ein henaid ddyfroedd chwyddedig.

124:6 Bendigedig fyddo yr ARGLWYDD, yr hwn ni roddodd ni yn ysglyfaeth i’w dannedd hwynt.

124:7 Ein henaid a ddihangodd fel aderyn o fagl yr adarwyr: y fagl a dorrwyd, a ninnau a ddianghasom.

124:8 Ein porth ni sydd yn enw yr ARGLWYDD, yr hwn a wnaeth nefoedd a daear.


SALM 125

125:1 Caniad y graddau. Y rhai a ymddiriedant yn yr ARGLWYDD fyddant fel mynydd Seion, yr hwn ni syflir, ond a bery yn dragywydd.

125:2 Fel y mae Jerwsalem a’r mynyddoedd o’i hamgylch, felly y mae yr ARGLWYDD o amgylch ei bobl, o’r pryd hwn hyd yn dragywydd.

125:3 Canys ni orffwys gwialen annuwioldeb ar randir y rhai cyfiawn; rhag i’r rhai cyfiawn estyn eu dwylo at anwiredd.

125:4 O ARGLWYDD, gwna ddaioni i’r rhai daionus, ac i’r rhai uniawn yn eu calonnau.

125:5 Ond y rhai a ymdroant i’w trofeydd, yr ARGLWYDD a’u gyr gyda gweithredwyr anwiredd: a bydd tangnefedd ar Israel.


SALM 126

126:1 Caniad y graddau. Pan ddychwelodd yr ARGLWYDD gaethiwed Seion, yr oeddem fel rhai yn breuddwydio.

126:2 Yna y llanwyd ein genau â chwerthin, a’n tafod â chanu: yna y dywedasant ymysg y cenhedloedd, Yr ARGLWYDD a wnaeth bethau mawrion i’r rhai hyn.

126:3 Yr ARGLWYDD a wnaeth i ni bethau mawrion; am hynny yr ydym yn llawen.

126:4 Dychwel, ARGLWYDD, ein caethiwed ni, fel yr afonydd yn y deau.

126:5 Y rhai sydd yn hau mewn dagrau, a fedant mewn gorfoledd.

126:6 Yr hwn sydd yn myned rhagddo, ac yn wylo, gan ddwyn had gwerthfawr, gan ddyfod a ddaw mewn gorfoledd, dan gludo ei ysgubau.


SALM 127

127:1 Caniad y graddau, i Solomon. Os yr ARGLWYDD nid adeilada y tŷ, ofer y llafuria ei adeiladwyr wrtho: os yr ARGLWYDD ni cheidw y ddinas, ofer y gwylia y ceidwad.

127:2 Ofer i chwi foregodi, myned yn hwyr i gysgu, bwyta bara gofidiau: felly y rhydd efe hun i’w anwylyd.

127:3 Wele, plant ydynt etifeddiaeth yr ARGLWYDD: ei wobr ef yw ffrwyth y groth.

127:4 Fel y mae saethau yn llaw y cadarn; felly y mae plant ieuenctid.

127:5 Gwyn ei fyd y gŵr a lanwodd ei