Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/617

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

gwirionedd i Dafydd; ni thry efe oddi wrth hynny; o ffrwyth dy gorff y gosodaf ar dy orseddfainc.

132:12 Os ceidw dy feibion fy nghyfamod a’m tystiolaeth, y rhai a ddysgwyf iddynt; eu meibion hwythau yn dragywydd a eisteddant ar dy orseddfainc.

132:13 Canys dewisodd yr ARGLWYDD Seion: ac a'i chwenychodd yn drigfa iddo ei hun.

132:14 Dyma fy ngorffwysfa yn dragywydd; yma y trigaf; canys chwenychais hi.

132:15 Gan fendithio y bendithiaf ei lluniaeth: diwallaf ei thlodion â bara.

132:16 Ei hoffeiriaid hefyd a wisgaf ag iachawdwriaeth: a’i saint dan ganu a ganant.

132:17 Yna y paraf i gorn Dafydd flaguro: darperais lamp i'm Heneiniog.

132:18 Ei elynion ef a wisgaf â chywilydd: arno yntau y blodeua ei goron.


SALM 133

133:1 Caniad y graddau, o’r eiddo Dafydd. Wele mor ddaionus ac mor hyfryd yw trigo o frodyr ynghyd!

133:2 Y mae fel yr ennaint gwerthfawr ar y pen yn disgyn ar hyd y farf, sef barf Aaron; yr hwn oedd yn disgyn ar hyd ei wisgoedd ef:

133:3 Fel gwlith Hermon, ac fel y gwlith yn disgyn ar fynyddoedd Seion: canys yno y gorchmynnodd yr ARGLWYDD y fendith, sef bywyd yn dragywydd.


SALM 134

134:1 Caniad y graddau. Wele, holl weision yr ARGLWYDD, bendithiwch yr ARGLWYDD, y rhai ydych yn sefyll yn nhy’r ARGLWYDD y nos.

134:2 Dyrchefwch eich dwylo yn y cysegr; a bendithiwch yr ARGLWYDD.

134:3 Yr ARGLWYDD yr hwn a wnaeth nefoedd a daear, a’th fendithio di allan o Seion.


SALM 135

135:1 Molwch yr ARGLWYDD. Molwch enw yr ARGLWYDD; gweision yr ARGLWYDD, molwch ef.

135:2 Y rhai ydych yn sefyll yn nhŷ yr ARGLWYDD yng nghynteddoedd tŷ ein DUW ni,

135:3 Molwch yr ARGLWYDD; canys da yw yr ARGLWYDD: cenwch i’w enw; canys hyfryd yw.

135:4 Oblegid yr ARGLWYDD a ddetholodd Jacob iddo ei hun, ac Israel, yn briodoriaeth iddo.

135:5 Canys mi a wn mai mawr yw yr ARGLWYDD; a bod ein Harglwydd ni goruwch yr holl dduwiau.

135:6 Yr ARGLWYDD a wnaeth yr hyn oll a fynnai yn y nefoedd, ac yn y ddaear, yn y môr, ac yn yr holl ddyfnderau.

135:7 Y mae yn codi tarth o eithafoedd y ddaear; mellt a wnaeth efe ynghyd â’r glaw; gan ddwyn y gwynt allan o’i drysorau.

135:8 Yr hwn a drawodd gyntaf-anedig yr Aifft, yn ddyn ac yn anifail.

135:9 Danfonodd arwyddion a rhyfeddodau i’th ganol di, yr Aifft; ar Pharo, ac ar ei holl weision.

135:10 Yr hwn a drawodd genhedloedd lawer, ac a laddodd frenhinoedd cryfion;

135:11 Seion brenin yr Amoriaid, ac Og brenin Basan, a holl freniniaethau Canaan:

135:12 Ac a roddodd eu tir hwynt yn etifeddiaeth, yn etifeddiaeth i Israel ei bobl.

135:13 Dy enw, O ARGLWYDD, a bery yn dragywydd; dy goffadwriaeth, O ARGLWYDD, o genhedlaeth i genhedlaeth.

135:14 Canys yr ARGLWYDD a farna ei bobl, a bydd edifar ganddo o ran ei weision.

135:15 Delwau y cenhedloedd ydynt arian ac aur, gwaith dwylo dyn.

135:16 Genau sydd iddynt, ond ni lefant; llygaid sydd ganddynt, ond ni welant.

135:17 Y mae clustiau iddynt, ond ni chlywant; nid oes chwaith anadl yn eu genau.

135:18 Fel hwynt y mae y rhai a’u gwnânt, a phob un a ymddiriedo ynddynt.

135:19 Tŷ Israel, bendithiwch yr ARGLWYDD: bendithiwch yr ARGLWYDD, tŷ Aaron.

135:20 Tŷ Lefi, bendithiwch yr AR-