Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/618

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

GLWYDD: y rhai a ofnwch yr ARGLWYDD, bendithiwch yr ARGLWYDD.

135:21 Bendithier yr ARGLWYDD o Seion, yr hwn sydd yn trigo yn Jerwsalem. Molwch yr ARGLWYDD.


SALM 136

136:1 Clodforwch yr ARGLWYDD; canys da yw: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.

136:2 Clodforwch DDUW y duwiau: oblegid ei drugaredd sydd yn dragywydd.

136:3 Clodforwch ARGLWYDD yr arglwyddi: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.

136:4 Yr hwn yn unig sydd yn gwneuthur rhyfeddodau: canys ei drugaredd sydd yn dragywydd.

136:5 Yr hwn a wnaeth y nefoedd mewn doethineb: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.

136:6 Yr hwn a estynnodd y ddaear oddi ar y dyfroedd: oblegid ei drugaredd sydd yn dragywydd.

136:7 Yr hwn a wnaeth oleuadau mawrion: canys ei drugaredd sydd yn dragywydd:

136:8 Yr haul, i lywodraethu y dydd: canys, ei drugaredd sydd yn dragywydd:

136:9 Y lleuad a’r sêr, i lywodraethu y nos: canys ei drugaredd sydd yn dragywydd.

136:10 Yr hwn a drawodd yr Aifft yn eu cyntaf-anedig: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd;

136:11 Ac a ddug Israel o’u mysg hwynt: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd:

136:12 A law gref, ac â braich estynedig: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.

136:13 Yr hwn a rannodd y môr coch yn ddwy ran: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.

136:14 Ac a wnaeth i Israel fyned trwy ei ganol: oherwydd ei drugaredd sydd dragywydd.

136:15 Ac a ysgytiodd Pharo a’i lu yn y môr coch: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.

136:16 Ac a dywysodd ei bobl trwy yr anialwch: oherwydd ei drugaredd syd yn dragywydd.

136:17 Yr hwn a drawodd frenhinoedd mawrion: oherwydd ei drugaredd syd yn dragywydd:

136:18 Ac a laddodd frenhinoedd ardderchog: oherwydd ei drugaredd sydd dragywydd:

136:19 Sehon brenin yr Amoraid: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd:

136:20 Ac Og brenin Basan: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd:

136:21 Ac a roddodd eu tir hwynt yn etifeddiaeth: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd:

136:22 Yn etifeddiaeth i Israel ei was: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.

136:23 Yr hwn yn ein hiselradd a’n cofiodd ni: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd:

136:24 Ac a’n hachubodd ni oddi wrth ei gelynion: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.

136:25 Yr hwn sydd yn rhoddi ymborth i bob cnawd: canys ei drugaredd sydd yn dragywydd.

136:26 Clodforwch DDUW y nefoedd: canys ei drugaredd sydd yn dragywydd.


SALM 137

137:1 Wrth afonydd Babilon, yno yr eisteddasom, ac wylasom, pan feddyliasom am Seion.

137:2 Ar yr helyg o’u mewn y crogasom ein telynau.

137:3 Canys yno y gofynnodd y rhai a’n caethiwasent i ni gân; a’r rhai a’n hanrheithiasai, lawenydd, gan ddywedyd; Cenwch i ni rai o ganiadau Seion.

137:4 Pa fodd y canwn gerdd yr ARGLWYDD mewn gwlad ddieithr?

137:5 Os anghofiaf di, Jerwsalem, anghofied fy neheulaw ganu.

137:6 Glyned fy nhafod wrth daflod ngenau, oni chollaf di; oni chodaf Jerusalem goruwch fy llawenydd pennaf.

137:7 Cofia, ARGLWYDD, blant Edom yn nydd Jerwsalem; y rhai a ddywedent. Dinoethwch, dinoethwch hi, hyd ei sylfaen.

137:8 O ferch Babilon, a anrheithir: gwyn ei fyd os dalo i ti fel y gwnaethost i ninnau.

137:9 Gwyn ei fyd a gymero ac a drawo dy rai bach wrth y meini.


SALM 138